Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Met Caerdydd: Campws Creadigol Adobe Cyntaf Cymru

Rydym yn falch o fod y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ddod yn Gampws Creadigol Adobe - partneriaeth fyd-eang sy'n rhoi mynediad am ddim i bob myfyriwr Met Caerdydd i Adobe Express, offeryn greddfol a phwerus ar gyfer creu cynnwys digidol nodedig.

O'r diwrnod cyntaf, gallwch ddefnyddio Adobe Express i wella'ch dysgu ; boed yn creu fideos, dylunio postiadau cyfryngau cymdeithasol, adeiladu tudalennau gwe, neu gynhyrchu CVs a phortffolios trawiadol. Gyda thempledi parod ac offer syml, mae'n hawdd dechrau arni a meithrin hyder mewn creadigrwydd digidol.

Yn y byd heddiw, nid yw sgiliau digidol yn ddewisol - maent yn hanfodol. Mae'r bartneriaeth hon gydag Adobe yn eich helpu i fynegi eich hun , tyfu eich brand personol, a'ch paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd sy'n dibynnu ar gyfathrebu creadigol. Fel rhan o rwydwaith byd-eang o dros 90 o Gampysau Creadigol Adobe, gallwch chi ddatblygu eich sgiliau ymhellach fyth. Gallwch ymuno â rhaglen llysgenhadon Adobe, cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol unigryw, ac ennill bathodynnau ardystiedig Adobe sy'n arddangos y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Ni waeth pa radd rydych chi'n ei hastudio, mae pob myfyriwr Met Caerdydd yn cael yr offer a'r cyfleoedd i sefyll allan, o'u haseiniad cyntaf i'w swydd gyntaf.

Sut i ddefnyddio Adobe Express

Gallwch ddefnyddio Adobe Express ar ôl i chi gofrestru fel myfyriwr ym Met Caerdydd – peidiwch â phoeni, byddwn yn anfon manylion llawn atoch ynglŷn â sut i wneud hyn dros yr haf. Ar ôl cofrestru, gallwch gael mynediad i'r feddalwedd gan ddefnyddio'ch mewngofnodi sengl Met Caerdydd. Gallwch naill ai ddefnyddio'ch porwr neu lawrlwytho'r ap i'ch tabled neu ffôn clyfar.