Ein Cymuned Gymraeg a chyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae gennym gymuned Gymraeg fywiog ym Met Caerdydd, sy'n cynnwys siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, ac mae digon o gyfleoedd a gweithgareddau i gymryd rhan ynddynt.
Gallwch ddysgu mwy ar ein tudalennau Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Datblygu sgiliau Cymraeg i hybu eich gyrfa
Mae sgiliau Cymraeg yn hynof werthfawr yng Nghymru, yn broffesiynol ac yn gymdeithasol. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, felly mae galw cynyddol am sgiliau Cymraeg yn y gweithlu ledled Cymru.
Mae Met Caerdydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu, gwella a defnyddio'r sgiliau hyn.
Cymraeg i bawb
Am y tro cyntaf, bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Met Caerdydd ym mis Medi 2025. Mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Newydd i'r Gymraeg neu wedi astudio'r Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg?
- I fyfyrwyr ar y rhaglenni isod, bydd y gwersi hyn wedi'u teilwra i'ch meysydd astudio a byddant yn rhan o amserlenni’ch cwrs:
- Addysg (Blwyddyn 1 o astudio)
- Plismona (Blwyddyn 1 o astudio)
- Therapi Iaith a Lleferydd (Blwyddyn 1 o astudio)
- Gall pob myfyriwr arall gofrestru ar gyfer ein gwersi Cymraeg ar ddechrau'r tymor. Bydd sesiynau blasu ar gael ar gampws Llandaf a Chyncoed yn ystod yr Wythnos Groeso.
Dydd Mawrth 23.09.25 |
Dydd Mercher 24.09.25 |
Dydd Iau 25.09.25 |
|
---|---|---|---|
Campws Cyncoed |
13:30 – 14:30 Sesiwn Blasu'r Gymraeg Cyncoed C025 |
12:00 – 13:00 Sesiwn Blasu'r Gymraeg Cyncoed C025 |
|
Campws Llandaf |
11:00 – 12:00 Sesiwn Blasu'r Gymraeg Llandaf 0113 |
12:30 – 13:30 Sesiwn Blasu'r Gymraeg Llandaf T006 |
Ydych chi eisoes yn siarad Cymraeg?
Mae Met Caerdydd eisiau eich cefnogi i ddefnyddio eich Cymraeg fel rhan o'ch astudiaethau ac ym mywyd beunyddiol. Os ydych chi'n rhugl, bron yn rhugl neu'n astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg, gallwch ymuno ag un o'n dosbarthiadau lefel hyfedredd. Bydd hyn yn helpu i roi hwb i’ch hyder mewn Cymraeg ysgrifenedig, Cymraeg academaidd a defnyddio’r iaith yn gyhoeddus.
Cewch glywed mwy am y cyfleoedd hyn yn ystod yr Wythnos Groeso.