Croeso a llongyfarchiadau ar gael cynnig lle ar raglen gradd ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae Met Caerdydd yn ddewis ardderchog ar gyfer astudiaethau ymchwil ôl-raddedig. Rydym yn ymfalchïo yn ein henw da cryf ym maes ymchwil gymhwysol a’n cysylltiad gweithredol â busnes a diwydiant. Gwelir hyn yn ein sgoriau uchel yn yr Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig (PRES) blynyddol, ac rydym wedi bod yn y 10 uchaf am Foddhad Cyffredinol am 5 mlynedd yn olynol. Mae ymchwil a wneir gan ein staff academaidd bob amser ar flaen y gad o ran archwilio gwybodaeth, gan gyfoethogi profiad myfyrwyr a'u datblygiad academaidd, ac mae'n cael effaith yn y byd go iawn. P'un a ydych chi'n ymuno â ni fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig llawn amser neu ran-amser, gallwn gynnig cyfleoedd ymchwil unigryw o'r radd flaenaf i chi.
Gwybodaeth Ymrestru
Er mwyn hunan-ymrestru, rhaid i'ch statws gyda Met Caerdydd fod yn Ddiamod (UF) a byddwch yn cael e-bost hysbysu i gadarnhau eich bod yn gallu parhau.
Cliciwch yma i gwblhau'r broses ymrestru ar-lein.
I gael help a chymorth, ewch i'r adran ymrestru.
Ar ôl ymrestru, bydd myfyrwyr gradd ymchwil ôl-raddedig yn cael mynediad i fannau astudio a rhwydweithio pwrpasol ar y campws a chyfleusterau/adnoddau staff i gynorthwyo eu hymchwil.
Gwybodaeth am Sefydlu ac Ymuno
Rhowch wybod i'ch Cyfarwyddwr Astudiaethau pan fyddwch chi wedi ymrestru er mwyn i chi gael rhagor o wybodaeth am ymuno.
Disgwylir i'r holl ymchwilwyr ôl-raddedig newydd sy'n ymrestru yn 2025-26 fynd i sesiwn 'Cwrdd a Chyfarch' anffurfiol, gyda sesiwn Sefydlu mwy ffurfiol i ddilyn. Bydd y sesiwn 'Cwrdd a Chyfarch' yn gyfle i chi ymgysylltu ag aelodau allweddol o staff o'r tîm Astudiaethau Graddedig a fydd yn rhan o'ch taith gradd ymchwil. Bydd y sesiwn Sefydlu yn eich cyflwyno i bynciau allweddol sy'n berthnasol i gamau cychwynnol eich astudiaeth ymchwil ôl-raddedig.
Dyddiadau dechrau 2025/26::
- 30 Medi 2025: Ymrestru a Cwrdd a Chyfarch, gyda sesiwn Sefydlu i ddilyn, ar yr wythnos sy'n dechrau ar 13 Hydref 2025
- 30 Ionawr 2026: Ymrestru a Cwrdd a Chyfarch, gyda sesiwn Sefydlu i ddilyn, ar yr wythnos sy'n dechrau ar 9 Chwefror 2026
- 30 Ebrill 2026: Ymrestru a Cwrdd a Chyfarch, gyda sesiwn Sefydlu i ddilyn, ar yr wythnos sy'n dechrau ar 11 Ebrill 2026
Ffioedd a Chyllid
- Am wybodaeth am Ffioedd a Chyllid .
Yr Academi Ddoethurol
Ar ôl i chi ymrestru, gallwch ddefnyddio Academi Ddoethurol Met Caerdydd. Mae'r Academi Ddoethurol yn siop un stop ar gyfer myfyrwyr gradd ymchwil ôl-raddedig a'u Goruchwylwyr, ac mae'n cynnwys:
- Map Taith ar gyfer pob math o radd
- Hyfforddiant a Digwyddiadau sydd i ddod
- Sesiynau wedi'u recordio o Hyfforddiant a Digwyddiadau blaenorol
- Diweddariadau wythnosol o bob rhan o Gymuned Ymchwil Met Caerdydd
- Llawlyfrau a Rheoliadau
- Adnoddau Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol
- Canolfan Wybodaeth i Oruchwylwyr
- Cysylltiadau Allweddol drwy gydol eich taith
- Cwestiynau Cyffredin