Mae'r amser yn prysur nesáu!
Rydych chi wedi cadarnhau eich llety – beth nawr?
Symud i mewn
Os ydych chi wedi cael lle yn un o Neuaddau Preswyl Met Caerdydd, rydym yn ymestyn y dyddiadau cyrraedd dros sawl diwrnod, y penwythnos cyn yr Wythnos Groeso. Byddwch yn cael e-bost gyda'r holl fanylion ychydig wythnosau cyn i'ch contract ddechrau.
Gall y dyddiadau cyrraedd ar gyfer neuaddau preswyl Met Caerdydd amrywio yn dibynnu ar y lleoliad, ond mae'r broses fel arfer yn eithaf tebyg. Bydd eich darparwr yn darparu eich dyddiadau symud i mewn ymhell ymlaen llaw er mwyn i chi allu cynllunio yn unol â hynny.
Beth i ddod gyda chi
Mae'n debyg y byddwch eisoes yn meddwl am beth i ddod gyda chi. Dyma restr o hanfodion i'ch rhoi chi ar ben ffordd:
- Cerdyn adnabod gyda ffotograff arno a dogfennau pwysig (fisa, manylion cyllid myfyrwyr, copi o'ch tystysgrif geni neu basbort)
- Digon o arian i bara nes i'ch benthyciad i fyfyrwyr gyrraedd
- Dillad gwely (gofalwch eich bod yn gwybod maint eich gwely yn gyntaf)
- Blanced
- Dillad a rhai hangers (peidiwch ag anghofio cot gynnes)
- Blychau storio
- Potel dŵr poeth
- Tywelion a mat bath
- Papur toiled
- Nwyddau ymolchi, fel brwsh dannedd, past dannedd, siampŵ/gel cawod, sebon
- Cyflenwadau glanhau sylfaenol (hylif golchi llestri, glanhawr arwyneb, sbyngau/clytiau a glanedydd golchi dillad)
- Cebl estyniad
- Bag golchi dillad
- Digon o fwyd a byrbrydau i'ch cael chi drwy'ch diwrnodau cyntaf
- Llestri a chyllyll a ffyrc
- Agorwr tuniau ac offer coginio sylfaenol
- Ambell sosban a phadell ffrio
- Pecyn cymorth cyntaf sylfaenol (paracetamol, plasteri, tabledi annwyd a ffliw, meddyginiaeth reolaidd os oes angen)
- Gliniadur a deunydd ysgrifennu
- Gwefrwyr
- Pethau i bersonoli'ch ystafell: lluniau ac addurniadau
- Os ydych chi'n dod â beic, cofiwch glo beic
- Gemau bwrdd, cardiau neu gonsol gemau ar gyfer nosweithiau i mewn gyda'ch ffrindiau
Beth i beidio â dod gyda chi
Er mwyn cadw popeth yn ddiogel ac yn ddidrafferth, dylech osgoi dod â'r eitemau canlynol gyda chi:
- Tegell
- Tostiwr
- Microdon
- Oergell*
- Ffriwr Aer
- Gwresogyddion cludadwy a raciau sychu wedi'u gwresogi
- Canhwyllau a llosgwyr
- Ni chaniateir batris e-feiciau neu e-sgwteri y tu mewn i'r llety oherwydd y risg o dân.
- Anifeiliaid anwes – bydd rhaid i chi adael eich anifail anwes gartref!
Eithriadau:
- Os oes angen oergell fach arnoch i storio meddyginiaeth yn eich ystafell, cysylltwch â ni ymlaen llaw i ddarparu tystiolaeth feddygol ategol.
Gair o gyngor:
- Does dim angen i chi ddod â phopeth ar unwaith. Dechreuwch gyda'r pethau sylfaenol a rhowch amser i chi'ch hun setlo.
- Os byddwch chi'n anghofio rhywbeth, gallwch chi bob amser brynu hanfodion o Ikea, B&M neu siopau elusen lleol ar ôl i chi symud i mewn (cadwch lygad am ostyngiadau i fyfyrwyr).
- Dewch â phlatiau a llestri sbâr o gartref (fel na fydd modd eu cymysgu â rhai unrhyw un arall).
- Os byddwch chi'n rhannu ystafell ymolchi, rydym yn argymell y dylech chi ddod â rhywbeth addas i wisgo am eich traed , gŵn ymolchi a bag ymolchi gyda chi.
- Rhaid i bob eitem drydanol fod â'r marc diogelwch CE cywir.
Cwrdd â'r bobl y byddwch chi'n rhannu fflat â nhw
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn nerfus, hyd yn oed os na fyddan nhw'n dangos hynny. Peidiwch â bod ofn dweud helo a chyflwyno eich hun; gall hyn dorri'r iâ a gwneud i chi deimlo'n llai nerfus.
Cadwch eich drws ar agor, mae hyn yn ei gwneud hi'n hawdd i bobl ddweud helo wrth iddyn nhw basio.
Gall gemau fod yn ffordd wych o dorri'r iâ - gemau clasurol fel Monopoly neu ddod â phecyn o gardiau a chwarae gêm o bocer. Bydd yna lwyth o ddigwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso, gan gynnwys Ffair y Glas, felly beth am fynd gyda'r rhai sy’n byw yn y fflat gyda chi a dod i adnabod eich gilydd yn well?
Yn olaf, byddwch chi'ch hun bob amser. Does dim rhaid i chi esgus hoffi yfed os nad ydych chi'n hoffi yfed, neu hoffi gwleidyddiaeth os nad oes gennych chi ddiddordeb. Y ffordd orau o wneud ffrindiau yw bod yn chi'ch hun, fel eich bod yn gwybod eu bod yn eich hoffi chi am bwy ydych chi.