Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Cerdded: Mae cerdded yn ffordd rwydd, gyflym ac am ddim o gyrraedd y campws o'r Neuaddau Preswyl, sydd wedi'u lleoli'n agos at ein campysau. O neuaddau preswyl fel Plas Gwyn, Now Students North Court neu Unite Students Blackweir Lodge, ni fydd y daith yn cymryd mwy na 30 munud. Yn dibynnu ar ble rydych chi'n dewis byw, rydym yn argymell y dylech ddefnyddio Google Maps i gynllunio'ch taith a chymharu amserlenni gyda rhywun arall o'ch neuadd breswyl i weld a allwch chi gerdded gyda'ch gilydd.

Beicio: Mae Caerdydd yn ddinas wych ar gyfer beicio ac enillodd Met Caerdydd y wobr am y Busnes Mwyaf Beicio-Gyfeillgar yng Ngwobrau Beicio Caerdydd 2019. Mae yna storfeydd beiciau sych y gallwch chi eu defnyddio gyda'ch Cerdyn Met, stondinau cynnal a chadw, offer, loceri, cawodydd a hyd yn oed llwybrau beicio arbennig ar ein campysau ac o'u cwmpas. Mae gan Landaf gyfleusterau pwrpasol sydd wedi'u lleoli yng nghefn yr Ysgol Celf a Dylunio. Yng Nghyncoed, mae cyfleusterau wedi'u lleoli yn y Ganolfan Tenis.

Eisiau beicio o gwmpas Caerdydd ond heb feic eto? Ers nifer o flynyddoedd, mae Met Caerdydd wedi bod yn gweithio gyda'r sefydliad nid-er-elw Gweithdy Beiciau Caerdydd i gynnig y bargeinion gorau i fyfyrwyr ar feiciau wedi'u hadnewyddu. Mae prisiau'r beiciau'n dechrau o £70 i oedolion, ac maen nhw'n dod gyda gwarant. I ddysgu mwy, rydym yn eich annog i ymweld â'u gwefan. Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig gwasanaeth cynnal a chadw beic misol am ddim gyda Dr. Bike, a gall Heddlu De Cymru ddarparu marciau diogelwch yn yr un digwyddiad. Gallwch ddod o hyd i ddyddiadau'r digwyddiad nesaf ar "Beth sy'n Digwydd" ar eich porth MetCanolog.

Bws: Gwasanaeth M1 sy'n cysylltu campws Llandaf a champws Cyncoed, ac mae'n aros mewn gwahanol fannau ar y daith, fel yr Eglwys Newydd a Cathays. Defnyddiwch wasanaeth 52 i fynd i Gampws Cyncoed. Mae'n gollwng teithwyr o flaen y prif adeilad ac yn rhedeg bob awr drwy gydol y dydd, gyda bysiau ychwanegol bob 30 munud yn ystod oriau brig.

Defnyddiwch wasanaeth 1 neu wasanaeth 2 sy'n aros yn union y tu allan i Gampws Llandaf, neu wasanaethau 24, 25, 62, 63, sy'n aros ychydig funudau i ffwrdd naill ai yn Ysgol Howells neu ym Mhentref Llandaf.

Tacsi/Uber: Opsiwn arall yw dal tacsi neu Uber i'ch campws a rhannu'r gost ymhlith eich aelwyd. Mae Uber o'r Rhath/Cathays i Gampws Llandaf neu Gampws Cyncoed tua £8 bob ffordd.

Mae Undeb y Myfyrwyr wedi ymuno â Veezu Taxis i sicrhau bod cludiant diogel adref bob amser ar gael, hyd yn oed os nad oes gennych chi arian arnoch. Drwy ffonio 029 2033 3333, a dyfynnu 'Cardiff Metropolitan University Safe Taxi Scheme', a bod â cherdyn myfyriwr dilys fel prawf o bwy ydych chi, bydd cerbyd yn cael ei anfon atoch fel mater o flaenoriaeth rhwng 10pm a 6am i fynd â chi adref.

Cofiwch mai gwasanaeth ar gyfer argyfyngau yw hwn yn unig. Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd ac mae ganddo uchafswm lwfans o £20 a phedwar myfyriwr i deithio. Bydd Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd yn gwarantu'r taliad i chi, a gallwch chi dalu yno.