Telerau ac Amodau Cofrestru ar Gwrs 2025/26
Ar gyfer telerau ac amodau llawn y Brifysgol ar ‘Adeg y Cynnig’ cliciwch yma: Telerau ac Amodau
Cyffredinol
1.1 Unwaith y bydd y cofrestriad wedi ei gwblhau, gall myfyrwyr Llawn-amser neu Ryngosod cymwys gael Tystysgrif Treth Gyngor trwy eu porth myfyrwyr.
1.2 Rhaid i fyfyrwyr gadw at reoliadau Metropolitan Caerdydd, y mae eu manylion wedi’u hymgorffori yn y Llawlyfr Myfyrwyr ar wefan Metropolitan Caerdydd. Sicrhewch eich bod yn cyrchu copi o’r Llawlyfr Myfyrwyr ac yn darllen y polisïau a’r gweithdrefnau hyn.
1.3 Bydd y Brifysgol yn gofyn ichi gyflwyno rhai darnau o waith trwy E-Gyflwyno. Mae’r system E-Gyflwyno’n defnyddio cronfa ddata Turnitin, a gall Turnitin ddefnyddio Gwaith a gyflwynwch at ddibenion gwirio gwreiddioldeb eich gwaith chi a gwaith myfyrwyr eraill.
1.4 Rhaid hysbysu aelod o staff ar unwaith am bob toriad neu ddifrod i eiddo Metropolitan Caerdydd. Fe allai fod gofyn i fyfyrwyr wneud iawn am golli, neu ddifrodi, unrhyw lyfr, cyfarpar neu offer o dan eu gofal.
1.5 Nid yw Metropolitan Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb dros golled neu ddifrod i eiddo personol ac os bydd unrhyw gyfryngau digidol yn cael eu cyflwyno fel eiddo coll, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gyrchu’r ddyfais hon er mwyn adfer yr eiddo i’w pherchennog cyfreithlon.
1.6 Gwaherddir ysmygu yn holl adeiladau a neuaddau preswyl Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
1.7 Oherwydd natur alwedigaethol a diwydiant-ganolog ein rhaglenni, mae angen inni wneud newidiadau i gynnwys a maes llafur y rhaglenni astudio (gan gynnwys modiwlau opsiwn lleoliadau) fel bod ein rhaglenni’n diwallu anghenion y gweithle. Hefyd, oherwydd hyn, gellir tynnu modiwlau dewisol yn ôl a chyflwyno rhai eraill i gynnal cyfredolrwydd galwedigaethol (e.e., eu cadw’n real).
1.8 Dim ond yn unol ag egwyddorion diogelu data fel y’u nodir yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018 y bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi. Trwy gyflwyno’r cofrestriad hwn, rydych chi’n cydsynio i Metropolitan
Caerdydd gasglu, dal a defnyddio gwybodaeth amdanoch chi er mwyn gweinyddu a rheoli eich rhaglen astudio. Dim ond at y dibenion a bennir yn ein Hysbysiad Diogelu Data a’r Hysbysiad Prosesu Teg Myfyrwyr y byddwn yn prosesu data.
1.9 Rhaid gadael beiciau yn y rheseli neu’r standiau arbennig a ddarperir a rhaid eu cloi’n ddiogel.
1.10 Oherwydd newidiadau yn y modd y mae unigolion yn cael eu cofrestru i bleidleisio, gall y Brifysgol anfon eich manylion i’w cofrestru ar y gofrestr etholwyr leol. Mae gennych hawl i hysbysu’r Brifysgol os nad ydych yn dymuno cofrestru ond mae perygl ichi gael dirwy os na fyddwch yn ymateb i geisiadau gan eich swyddfeydd staff cofrestru etholiadol lleol.
Ymddygiad
2.1 Disgwylir ichi fynychu’r sesiynau addysgu ffurfiol a bennir gan amserlen eich rhaglen (lle bo hynny’n berthnasol) a chadw at y gofynion presenoldeb a amlinellir yn y rheoliadau.
2.2 Disgwylir ichi, bob amser, ymddwyn mewn modd rhesymol a gweddus, gan roi sylw dyledus i bobl eraill ac i eiddo Metropolitan Caerdydd fel yr amlinellir yng Nghod Ymddygiad Metropolitan Caerdydd.
Cofrestru
3.1 Mae’n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru naill ai cyn neu ar ddechrau eu rhaglen astudio ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Nid yw’r cofrestriad wedi’i gwblhau nes:
i. bod cofrestriad Metropolitan Caerdydd wedi’i gwblhau’n foddhaol
ii. bod y tiwtor rhaglen academaidd priodol/UCAS wedi cytuno ar neu wedi dilysu cymwysterau mynediad
iii. bydd myfyrwyr yn dewis eu modiwlau ar-lein wrth gofrestru; a
iv. bod unrhyw weithdrefnau gweinyddol eraill wedi’u bodloni.
3.2 Ni chaniateir i unrhyw fyfyrwyr sydd ag unrhyw ymrwymiadau ariannol sy’n ddyledus i Metropolitan Caerdydd gofrestru neu dderbyn unrhyw ddyfarniad gan Metropolitan Caerdydd.
3.3 Arfer Metropolitan Caerdydd yw cyhoeddi canlyniadau diwedd blwyddyn olaf yn yr Ysgol trwy restr basio, os nad ydych am i’ch canlyniad gael ei gynnwys, rhowch wybod i graduation@cardiffmet.ac.uk a chaiff eich enw ei eithrio.
Ffioedd
4.1 Mae’n ofynnol i bob myfyriwr gytuno ar y dull/sail ar gyfer talu ffioedd mewn perthynas â rhaglen astudio’r flwyddyn gyfan, gydag Uned y Trysorlys, ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
4.2 Lle nad yw myfyrwyr yn ariannu eu hunain, rhaid darparu tystiolaeth ysgrifenedig o nawdd fel rheol. Os nad oes tystiolaeth ddogfennol ffurfiol ar gael ar adeg cofrestru, rhaid i fyfyrwyr ddarparu dogfennaeth o’r fath o fewn cyfnod o bythefnos o gofrestru; bydd methu â gwneud hynny’n golygu y bydd yn rhaid i fyfyrwyr dalu’r ffioedd eu hunain.
4.3 Os ydych chi’n talu’ch ffioedd eich hun gallwch wneud trefniadau i dalu mewn rhandaliadau.
4.4 Os bydd y noddwr, am unrhyw reswm, yn gwrthod derbyn cyfrifoldeb dros dalu ffioedd, yna bydd y myfyriwr yn cael ei ddal yn bersonol gyfrifol yn awtomatig am dalu ffioedd o’r fath.
4.5 Cynghorir myfyrwyr i gyfeirio at y Llawlyfr Myfyrwyr a gaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd a’r Wefan Ffioedd Dysgu am fanylion am reoliadau ffioedd dysgu.
4.6 Os oes rhwymedigaeth ariannol heb ei thalu i’r Brifysgol ar ôl ichi adael, gellir cyfeirio hyn at asiantaeth gasglu allanol ar gyfer gweithredu pellach. Sylwer, bydd unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r atgyfeiriad hwn yn cael eu hychwanegu at atebolrwydd y
myfyriwr. Cynghorir myfyrwyr i gyfeirio at y Llawlyfr Academaidd i gael rhagor o wybodaeth am reoliadau a gweithdrefnau.
4.7 Gall newidiadau ddigwydd i gost astudio sy’n cymryd chwyddiant a grymoedd y farchnad i ystyriaeth, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yng nghynllun ffioedd Met Caerdydd.
Amrywiad
5.1 Bydd gan y Brifysgol hawl i amrywio, addasu, gwneud newidiadau neu atal y ffordd y mae’n darparu ei chwricwlwm addysg a threfniadau eraill, os yw’n ystyried yn rhesymol fod hynny’n angenrheidiol ac mewn amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol. Gall enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol gynnwys:
a) gweithredoedd Duw, llifogydd, daeargryn, storm wynt neu drychineb naturiol arall
b) epidemig neu bandemig
c) ymosodiad gan derfysgwyr, rhyfel cartref, cynnwrf sifil neu derfysgoedd, rhyfel, bygythiad neu baratoi ar gyfer rhyfel, gwrthdaro arfog
d) tân, ffrwydrad neu ddamwain
e) cwymp strwythurau adeiladu, methiant peiriannau, cyfrifiaduron neu gerbydau
f) anghydfodau llafur neu fasnach, gan gynnwys streiciau a gweithredu diwydiannol ac arall
g) ymyrraeth neu fethiant gwasanaeth cyfleustodau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i bŵer trydan, nwy neu ddŵr
h) deddfau, archddyfarniadau, deddfwriaeth, rheoliadau neu gyfyngiad unrhyw lywodraeth
i) mewn ymateb i ofynion corff rheoleiddio.
Os bydd gofyn i’r Brifysgol wneud newidiadau, bydd yn cymryd camau rhesymol i leihau’r effaith y bydd gweithredu o’r fath yn ei chael ar fyfyriwr.
Mynediad i’r Rhyngrwyd
6.1 Mewn ymateb i gyngor iechyd cyhoeddus, fe allai fod yn ofynnol i’r Brifysgol symud mwy o’i dysgu ac addysgu i ddarpariaeth ar-lein. Gall cyngor o’r fath hefyd gyfyngu ar y mynediad sydd ar gael i fyfyrwyr at Lyfrgelloedd Prifysgol a Gwasanaethau Gwybodaeth ar y campws. Felly mae’n ofynnol i fyfyrwyr wirio a sicrhau bod ganddynt fynediad priodol i’r Rhyngrwyd, i’w galluogi i ymgymryd â’r rhaglen astudio o’u dewis.