Tiwtoriaid Personol ym Met Caerdydd
Bydd pob myfyriwr yn cael Tiwtor Academaidd Personol wedi'i ddyrannu iddynt yn ystod eu cyfnod sefydlu.
Fel arfer, bydd eich Tiwtor Academaidd Personol yn aelod o staff academaidd eich cwrs.
Mae eich Tiwtor Academaidd Personol yn cefnogi eich taith ddysgu o'ch wythnos gyntaf ym Met Caerdydd hyd at raddio. Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut mae Tiwtora Academaidd Personol yn gweithio a sut i fanteisio'n llawn arno i gefnogi eich taith ddysgu, cyflawni'r radd rydych chi'n gweithio tuag ati a rhoi sylfaen gadarn i'ch gyrfa yn y dyfodol.
Dolen i Ganllaw Tiwtora Personol Academaidd Saesneg i Fyfyrwyr
Dolen i Ganllaw Tiwtora Personol Academaidd Cymraeg i Fyfyrwyr
Prif nodau Tiwtora Academaidd Personol (PAT) yw:
- Eich cefnogi i setlo i fywyd prifysgol ym Met Caerdydd
- Eich helpu i ddeall sut i ddysgu yn y brifysgol
- Datblygu eich sgiliau academaidd i lwyddo mewn asesiadau
- Eich helpu i wneud penderfyniadau am eich dysgu ym Met Caerdydd a'ch gyrfa y tu hwnt i hynny
- Eich cyfeirio at y gwasanaethau cymorth eraill sydd ar gael yn y brifysgol
Pa bynnag ymholiad sydd gennych chi, bydd eich tiwtor personol yn gallu eich helpu i gael gafael ar y person neu'r cymorth mwyaf priodol yn y Brifysgol neu du hwnt.
Gallwch ddarganfod pwy yw eich Tiwtor Academaidd Personol drwy eich porth MetStats (ar ôl i chi ymrestru) ac anfon e-bost atynt am gyngor neu i wneud apwyntiad.