Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Ymrestru

Byddwch yn cael e-bost yn rhoi gwybod i chi eich bod yn barod i ymrestru ar-lein pan fydd eich lle wedi'i gadarnhau.

Mae’n bwysig eich bod yn ymrestru cyn gynted â phosib ar ôl i chi dderbyn yr e-bost yma. Gallwch hefyd glicio ar y Traciwr Ymrerstru i wirio eich statws, lle bydd y golau ‘traffig’ cyntaf yn troi’n wyrdd pan fyddwch chi’n barod i ymrestru.

Bydd rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr adran hon yn mynd â chi i'n mewnrwyd i fyfyrwyr – MetCanolog – a thudalennau eraill y byddwch chi ond yn gallu eu gweld ar ôl i chi ymrestru. Ar ôl i chi gwblhau'r broses ymrestru (peidiwch â phoeni, fydd hynny ddim yn cymryd yn hir), byddwch yn cael eich holl wybodaeth mewngofnodi a bydd eich taith ym Met Caerdydd yn dechrau.

Cwblhewch y broses ymrestru nawr (copi isod)

Cwestiynau Cyffredin am Ymrestru (copi isod)

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymrestru ar-lein, cysylltwch ag enrolment@cardiffmet.ac.uk neu ffoniwch 029 2020 5669.

Cwblhewch y broses ymrestru nawr

Y broses ymrestru yw'r hyn sy'n eich cadarnhau fel myfyriwr swyddogol.

Fel glasfyfyriwr o’r DU, pan fydd eich lle wedi'i gadarnhau a'ch bod wedi bodloni holl amodau anacademaidd eraill eich cynnig, fel DBS os yw'n berthnasol i'ch cwrs, byddwch yn cael e-bost gyda chyfarwyddiadau ar sut i ymrestru i'r cyfeiriad e-bost personol a roddir ar eich cais presennol, gyda dolen i'n cyfleuster ymrestru ar-lein. Bydd manylion eich cyfrif myfyriwr yn yr e-bost hwn, i'w defnyddio i fewngofnodi a chwblhau'r broses ymrestru.

Os ydych chi wedi gwneud cais am un o'n rhaglenni (Rhan-amser, Ôl-raddedig neu Ymchwil fel arfer), gan ddechrau ym mis Ionawr, Ebrill neu Orffennaf, byddwch yn cael y neges e-bost hon yn agosach at eich dyddiad cychwyn penodol.

Noder: Ni fyddwch yn gallu ymrestru ac ni ddylech geisio gwneud hynny nes i chi gael eich e-bost gan Derbyniadau. Am arweiniad ar y broses ymrestru a chanllaw cam wrth gam i lasfyfyrwyr, darllenwch ein canllaw.

Gofalwch eich bod yn parhau hyd at ddiwedd yr holl sgriniau yn y system ymrestru er mwyn cwblhau'r broses yn llawn. Ar dudalen olaf y broses, cliciwch ar y botwm Parhau ar gornel dde waelod y sgrin i gadarnhau eich statws ymrestru. Bydd hyn yn mynd â chi i'n tudalen Ar ôl i chi Ymrestru, lle cewch wybodaeth ddefnyddiol a syniad o beth i'w ddisgwyl nesaf.

Os ydych chi wedi astudio gyda Met Caerdydd o'r blaen, a bod gennych chi rif myfyriwr Met Caerdydd a chyfrif myfyriwr yn barod, bydd angen i chi ddefnyddio eich manylion mewngofnodi blaenorol.

Os ydych chi'n gyn-fyfyriwr Met Caerdydd, a bod gennych chi gyfrif myfyriwr yn barod, efallai y bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair, cliciwch yma.

Os nad ydych chi wedi cael yr e-bost cofrestru, gallai fod nifer o resymau am hyn:

  • Rydych chi'n dechrau rhaglen sy'n gofyn am wiriad DBS Manwl nad ydych chi wedi'i gwblhau ar-lein eto
  • Rydych chi'n dechrau rhaglen sy'n gofyn am wiriad Iechyd Galwedigaethol nad yw Derbyniadau wedi cael cydnabyddiaeth eich bod wedi'i gwblhau
  • Dydych chi ddim wedi anfon eich cymwysterau yn unol â chais Derbyniadau
  • Mae eich e-bost wedi cael ei anfon i hen gyfrif nad ydych chi'n ei ddefnyddio mwyach; neu efallai ei fod yn eich ffolder Sothach

Os bydd unrhyw un o'r uchod yn wir, cysylltwch â Derbyniadau i gael cyngor pellach. Gallwch chi glicio ar y traciwr ymrestru i weld eich statws, lle bydd y golau ‘traffig’ cyntaf.yn tri’n wyrdd pan fyddwch chi’n barod i ymrestru.

New student enrolment link: Cliciwch yma i gwblhau'r broses ymrestru ar-lein.

Enrolment Terms and Conditions 2023/2024

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Cwestiynau Cyffredin am Gofrestru a Chyllid Myfyrwyr

Dyma restr o gwestiynau cyffredin mae myfyrwyr wedi gofyn i ni wrth fynd drwy'r broses ymrestru. Os na allwch chi ddod o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn isod neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, defnyddiwch y ddolen Help gyda Chofrestru.

Gair o Gyngor:

  • Defnyddiwch gyfrifiadur neu liniadur i gwblhau'r broses ymrestru. Gall defnyddio ffôn neu lechen weithiau greu problemau.
  • Defnyddiwch MS Edge fel eich porwr os yn bosibl. Gall Chrome a Safari greu gwallau ar y tudalennau weithiau.
  • Eich enw defnyddiwr yw eich cyfeiriad e-bost Met Caerdydd.

Byddwch yn cael e-bost gyda manylion sut i ymrestru ar-lein pan fyddwch chi wedi bodloni holl amodau eich cynnig a bod eich cais wedi'i ddiweddaru. Os ydych chi wedi cael hysbysiad e-bost gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair, gallwch ddefnyddio'r ddolen ganlynol i ymrestru: Cliciwch yma i gwblhau'r broses ymrestru ar-lein.

Gallwch chi glicio ar y traciwr ymrestru i weld eich statws, lle bydd y golau ‘traffig’ cyntaf yn troi’n wyrdd pan fyddwch chi’n barod i ymrestru.

Fel myfyriwr rhyngwladol, cysylltwch â’n Swyddfa Rhyngwladol a all roi cyngor am y broses ac unrhyw ymholiadau pellach.

Byddai'n ddefnyddiol pe bai gennych chi'r eitemau canlynol gyda chi yn ystod eich wythnos sefydlu:

  • Cerdyn adnabod gyda ffotograff arno
  • Llythyr Noddwr* – os ydych chi'n cael eich noddi gan eich cyflogwr
  • Copïau o'ch cymwysterau – os yw Derbyniadau wedi gofyn amdanynt
  • Tystysgrif Geni
  • Unrhyw ddogfennau penodol i'ch rhaglen mae’r tîm derbyniadau neu dîm eich cwrs yn gofyn amdani.

*Os na fyddwch chi'n lanlwytho eich llythyr noddwr fel rhan o'ch cofrestriad ar-lein, sganiwch ac e-bostiwch gopi i enrolment@cardiffmet.ac.uk neu ewch â chopi i un o'n parthau-g yn Llandaf neu Gyncoed

Yn yr adran cyfeiriad yn ystod y tymor, os nad ydych chi'n gwybod y cyfeiriad hwn pan fyddwch chi'n ymrestru, gallwch nodi cyfeiriad eich rhieni/eich cyfeiriad parhaol fel eich cyfeiriad yn ystod eich tymor. Unwaith y byddwch chi'n gwybod eich cyfeiriad lle byddwch yn ystod eich cyfnod astudio, gallwch e-bostio Ymrestru a byddwn yn diweddaru hyn i chi. Fel arall, gallwch ddiweddaru eich cyfeiriad drwy eich porth myfyrwyr. Fodd bynnag, bydd gofyn i chi nodi'r math o lety y byddwch chi'n byw ynddo e.e. Neuaddau Preswyl Met Caerdydd (eiddo a gynhelir gan y sefydliad), neuaddau preifat, llety rhent ac ati, felly dewiswch y 'math' priodol o'r gwymplen.

Os hoffech chi dynnu'n ôl o'ch astudiaethau neu eu hatal dros dro, siaradwch â'ch Cyfarwyddwr Rhaglen cyn gynted â phosibl. Os ydych chi'n dal i fod eisiau tynnu'n ôl o'ch astudiaethau neu eu hatal dros dro (gall trosglwyddiad mewnol fod yn opsiwn mwy ffafriol) ar ôl trafod eich opsiynau gyda'ch Cyfarwyddwr Rhaglen, bydd eich Cyfarwyddwr Rhaglen yn llenwi'r ffurflen berthnasol ac yn ei chyflwyno i'r Uned MIS a fydd yn prosesu hyn ac yn anfon y ffurflen ymlaen at y Tîm Ymrestru a fydd yn rhoi gwybod i Cyllid Myfyrwyr, lle bo hynny'n berthnasol. Os ydych chi'n cael cyllid myfyrwyr, cofiwch y bydd eich ffioedd cynhaliaeth a dysgu yn debygol o gael eu heffeithio. Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni am eich penderfyniad gan fod angen i Met Caerdydd roi gwybod i Cyllid Myfyrwyr am y newid yn eich amgylchiadau.

Os hoffech chi newid eich modiwl, cysylltwch â'ch Ysgol neu eich Cyfarwyddwr Rhaglen.

Yn ystod y broses gofrestru, gofynnir i ymgeiswyr a myfyrwyr presennol ddatgelu unrhyw euogfarnau newydd neu heb eu datgelu o'r blaen a allai effeithio ar eu hastudiaethau yn y Brifysgol. Darllenwch yr wybodaeth ar ein tudalennau gwe yma.

Ewch i'r Ddolen Help gydag Ymrestru, gan ddyfynnu eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN) a neilltuwyd i chi gan Cyllid Myfyrwyr ynghyd â disgrifiad o'r broblem neu ewch i'r parth-g neu Wasanaethau Myfyrwyr. Os yw eich statws Cyllid Myfyrwyr ar-lein yn dangos fel 'I Ddod' am gyfnod hir, rhowch wybod i ni er mwyn i ni geisio datrys y broblem i chi.

Gallai hynny fod yn digwydd am nifer o resymau, cysylltwch â Derbyniadau er mwyn iddyn nhw fynd i’r afael â’r mater.

Ar ôl i chi gwblhau'r broses ymrestru ar-lein yn llawn, dylech allu defnyddio'r gwasanaethau hyn o fewn 24 awr.

Mae cymhwystra i gael cyllid myfyrwyr ar gyfer ailadrodd blwyddyn o astudio yn dibynnu ar eich hanes astudio blaenorol.

Mewn perthynas â chymorth ffioedd dysgu, mae Cyllid Myfyrwyr yn darparu cyllid gydol cwrs astudio, ac un flwyddyn ychwanegol o dan amgylchiadau penodol. Er enghraifft, os mai 3 blynedd yw hyd eich cwrs, efallai y bydd gennych hawl i gael cyfanswm o 4 blynedd o gyllid (3 + 1 = 4), os oes angen i chi ailadrodd blwyddyn o'ch cwrs, ac nad ydych chi wedi ailadrodd blwyddyn o'r blaen nac wedi astudio ar gwrs Addysg Uwch cyn y cwrs yma.

Wrth wneud cais am gyllid myfyrwyr, bydd eich hawl am gyllid yn ystyried a ydych chi wedi dilyn cwrs blaenorol ar lefel AU, a bydd y cyllid yn cael ei leihau i adlewyrchu hyn.

Dylai ymgeiswyr a myfyrwyr ofyn i Gyllid Myfyrwyr am eu hawl am gyllid bob amser.

I gael rhagor o gyngor ac arweiniad, gallwch e-bostio: moneyadvice@cardiffmet.ac.uk neu drefnu apwyntiad drwy'r ffurflen cais am apwyntiad (o dan Dolenni Cyflym ar eich porth myfyrwyr Met Canolog – bydd angen i ch i ymrestru er mwyn cael mynediad i’r porth hwn) i drafod eich cyllid. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael drwy'r dudalen we Gwasanaethau Myfyrwyr.

Mae gwybodaeth ar gael ar dudalen we Gwasanaethau Myfyrwyr.

Os ydych chi wedi anghofio eich enw defnyddiwr, cysylltwch â Desg Gymorth TG ar 029 2041 7000; neu os oes angen i chi ailosod eich cyfrinair, cliciwch yma.

Mae angen i fyfyrwyr israddedig wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer pob blwyddyn o'u cwrs a dylent wneud cais am gyllid myfyrwyr cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cyfnod gwneud cais agor. Ar ôl i'ch cais am gyllid myfyrwyr gael ei gymeradwyo, dylech gael amserlen dalu ar gyfer unrhyw ffioedd dysgu a/neu gynhaliaeth rydych chi wedi gwneud cais amdanynt gan Gyllid Myfyrwyr. Cyn belled â'ch bod wedi gwneud cais cyn y dyddiad cau a bod eich cais wedi'i gymeradwyo'n llawn, dylai eich taliadau cynhaliaeth cyntaf gael eu talu yn ystod wythnos gyntaf y tymor. Mae taliadau dilynol fel arfer yn cael eu gwneud ar y dyddiadau ar eich Hysbysiad Cyllid Myfyrwyr.