Skip to content

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Gellir astudio’r radd hon fel gradd lawn-amser am dair blynedd (BEng) neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn sylfaen, neu fel gradd lawn-amser pedair blynedd (MEng) neu radd pum mlynedd sy’n cynnwys blwyddyn sylfaen. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen a’r ffioedd.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Mae’r dewis rhwng BEng (Baglor mewn Peirianneg) ac MEng (Meistr mewn Peirianneg) yn dibynnu ar eich nodau gyrfa, diddordeb mewn arbenigo ymhellach, ac ymrwymiad amser:

  • BEng: Gradd tair blynedd sy’n union yr un fath â thair blynedd gyntaf y cwrs MEng.
  • MEng: Gradd meistr integredig pedair blynedd, y cymhwyster peirianneg israddedig uchaf yn y DU.

Bydd pob modiwl yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.

Blwyddyn 1

Bydd Blwyddyn 1 yn ymdrin â nifer o bynciau sydd wedi’u cynllunio i roi sylfaen gadarn i dechnegau ac egwyddorion peirianneg a ddefnyddir mewn systemau electronig a chyfrifiadurol. Byddwch yn astudio theori ac ymarfer dylunio systemau analog a digidol, ac yn cael eich cyflwyno i fyd cyffrous systemau mecanyddol ac electroneg mewn cyfuniad (mecatroneg). Bydd eich gwaith yn cael ei ategu gan gyfarwyddyd mewn mathemateg peirianneg gymhwysol, a datblygu a threfnu datrysiadau adeiladu meddalwedd. Bydd gwaith prosiect yn eich galluogi i atgyfnerthu’r deunydd a gwmpesir gan systemau datblygu i ddatrys problemau’r byd go iawn.

Modiwlau:

  • Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
  • Egwyddorion Rhaglennu
  • Electroneg Analog a Digidol 1
  • Peirianneg Mathemateg
  • Cyflwyniad i Fecatroneg
  • Explore

Blwyddyn 2

Bydd Blwyddyn 2 yn adeiladu ar bynciau a themâu Blwyddyn 1 i gael cyflwyno nifer o bynciau ychwanegol a fydd wedi’u dylunio i roi golwg ddyfnach i chi ar dechnegau ac egwyddorion peirianneg a ddefnyddir o fewn systemau robotig. Byddwch yn ymdrin â theori ac ymarfer defnyddio meddalwedd i reoli caledwedd. Cewch y cyfle i adeiladu systemau electronig i gyfnerthu’r gwaith damcaniaethol drwy ddatblygu prosiectau caledwedd. Bydd cymhwyso mathemateg i ddylunio systemau rheoli yn rhoi mewnwelediad i chi i leoli ac i drin peirianwaith awtomataidd yn gywir, gan gynnwys breichiau robotig. Byddwch yn dysgu sut bydd rhaid datblygu systemau electronig a chyfrifiadurol gan fod yn ymwybodol o anghenion bygythiad seiber. Bydd dyluniad a phroses cynhyrchu systemau robotig yn elfen allweddol yn y flwyddyn hon. Bydd rheoli prosiectau a sgiliau ymchwil yn cael eu trafod hefyd. Byddwch yn ymgymryd â gwaith prosiect helaeth hefyd er mwyn cyfnerthu eich dysgu drwy ddatblygu systemau i ddatrys problemau robotig go iawn.

Modiwlau:

  • Electronic Analog a Digidol 2
  • Cyfrifiadura Ffisegol
  • Roboteg Ddynolffurf Gymdeithasol
  • Systemau Rheoli
  • Roboteg a Systemau Awtomeiddio
  • Rheoli Prosiectau Peirianneg

Blwyddyn 3

Mae Blwyddyn 3 yn ymdrin ag ystod o bynciau’n fanylach. Ar ôl datblygu sgiliau rhaglennu ym mlwyddyn 1 a 2, byddwch yn mynd ymlaen i gymhwyso’r sgiliau hyn i galedwedd rhaglennu a sglodion microbrosesydd a rheolydd arbenigol. Byddwch yn parhau i ddatblygu a dyfnhau eich dealltwriaeth o systemau analog a digidol, gan gynnwys rheolaeth ddeallus a chlyfar a systemau pŵer electronig. Yn ogystal â modiwlau craidd, mae opsiynau i astudio deallusrwydd artiffisial a sut mae’n cael ei gymhwyso i roboteg a chymwysiadau rheoli awtomataidd; pensaernïaeth gyfrifiadura uwch; seiberddiogelwch; yn ogystal â rheoli prosiect technegol. Bydd prosiect unigol yn eich galluogi i atgyfnerthu eich dysgu trwy ddatblygu systemau i gyfrannu tuag at ddatrys problem roboteg o’ch dewis yn y byd go iawn.

Mae gan fyfyrwyr hefyd yr opsiwn i gwblhau lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.

Modiwlau:

  • Electroneg a Systemau Pŵer
  • Systemau Awtonomaidd
  • Systemau Rheoli Uwch
  • Prosiect Ymarferol Peirianneg Broffesiynol (40 credyd)

Dewisol:

  • Systemau Cyfochrog a Gwasgaredig
  • Deallusrwydd Cyfrifiadurol
  • Systemau Cyfathrebu Digidol ac Analog
  • Profiad Gwaith Diwydiannol (Lleoliad)

Blwyddyn 4 (Llwybr MEng)

Gan adeiladu ar ddealltwriaeth eang a dwfn o bynciau a drafodir yn ystod 3 blynedd gyntaf y rhaglen, bydd blwyddyn 4 yn eich galluogi i ddatblygu meistrolaeth a sgiliau uwch ar draws pynciau cymhleth a chraidd ym maes electroneg a phrosesu cyfrifiadurol. Bydd prosiect datblygu grŵp yn rhoi cyfle i chi ddod â llawer o’r pynciau a drafodir ar y rhaglen ynghyd, yn ogystal â chaniatáu ymchwilio i ddiddordeb penodol neu faes datblygu penodol. Y tu allan i’r agweddau craidd hyn, bydd cyfleoedd i archwilio’n fanylach bynciau yn amrywio o ddeallusrwydd artiffisial, cymwysiadau roboteg, synwyryddion ac actiwadyddion, dylunio systemau electromecanyddol uwch, yn ogystal ag ystyried materion moesegol a phroffesiynol dylunio systemau. Mae cyfle hefyd i ymgymryd â lleoliad diwydiannol byr, a all fod yn ddefnyddiol iawn yn aml wrth sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol.

Modiwlau:

  • Prosiect Datblygu Tîm (40 credyd)
  • Rhyngrwyd Pethau
  • Materion Proffesiynol a Moesegol mewn Peirianneg
  • Deallusrwydd Artiffisial Uwch mewn Roboteg

Dewisol:

  • Synwyryddion a Actiwadyddion
  • Rhaglennu ar gyfer Dadansoddi Data
  • Cymwysiadau ar gyfer Robotiaid Cymdeithasol a Gwasanaeth
  • Ffiniau mewn Technoleg

Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.

Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.

Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy'n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Mae technoleg yn sail i gymdeithas fodern. Mae datblygu a chymhwyso technolegau arloesol yn tyfu’n gyflym, gan greu cyfleoedd i darfu. Fel asiantau newid, mae peirianwyr yn eistedd wrth galon y chwyldro digidol, a gall gyrfaoedd mewn peirianneg fod yn werth chweil ac yn amrywiol.

Mae’r proffesiwn peirianneg yn y DU yn cael ei oruchwylio gan sefydliadau proffesiynol ar ran Cyngor Peirianneg y DU. Mae safonau’n pennu’r cymwyseddau addysg, hyfforddiant a phrofiad sydd eu hangen i fod yn gofrestru fel Peiriannydd Corfforedig neu Beiriannydd Siartredig. Mae’r safonau hyn yn eu tro yn cyfateb i gymwysterau rhyngwladol o’r un safon ac felly maent yn cael eu cydnabod yn eang yn fyd-eang o fewn y proffesiwn. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn bodloni’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer addysg, bydd rhaglenni peirianneg Met Caerdydd yn ceisio achrediad drwy’r sefydliad peirianneg mwyaf priodol — y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae’n ofynnol i raglenni newydd gyflwyno tystiolaeth o garfan lawn (myfyrwyr sy’n symud ymlaen yn llwyddiannus i raddio dros 4 blynedd y cwrs) ar gyfer craffu cyn dyfarnu Achrediad llawn. Ar ôl ei ddyfarnu yna gall pob myfyriwr sydd wedi mynychu’r cwrs hwnnw hawlio eu bod wedi mynychu rhaglen gydnabyddedig ac felly bod yn gymwys i gael cydnabyddiaeth lawn (MEng) neu rannol (BEng) o’r safon addysg ofynnol ar gyfer cofrestru proffesiynol.

Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ymgymryd â blwyddyn allan ddewisol mewn diwydiant i ategu eu hastudiaethau gyda phrofiad yn y byd go iawn o waith peirianneg mewn amgylchedd masnachol. Bydd hyn yn eu paratoi’n well ar gyfer mynd i’r gweithle ar ôl graddio.

Mae myfyrwyr sy’n gwneud yn dda ar y rhaglen hefyd yn cael cynnig cyfleoedd i astudio ar lefel uwch ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig mewn pynciau technoleg a pheirianneg drwy raglenni a addysgir ymhellach neu drwy ymchwil.

Cynigion Nodweddiadol

Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 112-120 (Gradd BEng) neu 120-128 (Gradd MEng)
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau BCC gan gynnwys gradd C yn Mathemateg neu Ffiseg. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM (Gradd BEng) neu DDM (Gradd MEng). Gan gynnwys 6 Clod yn y modiwlau Mathemateg neu Ffiseg.
  • Lefel T: Teilyngdod. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CD. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Oherwydd rheoliadau achredu, os ydych yn dewis gwneud cais am y rhaglen BEng Peirianneg Roboteg ar Lefel 6, bydd angen i chi wneud cais am y teitl heb eu hachredu BEng Roboteg. Os ydych yn dewis gwneud cais am y rhaglen MEng Peirianneg Roboteg ar Lefel 6, bydd angen i chi wneud cais am y teitl heb eu hachredu MEng Roboteg.

Mae hwn yn llwybr dyfarniad ymadael ar gyfer y rhaglen heb eu hachredu gyda’r IET na’r BCS, fodd bynnag bydd y modiwlau y byddwch yn eu dilyn yn adlewyrchu’r rhai a astudiwyd ar y rhaglen achrededig, a byddwch yn derbyn yr un gefnogaeth yn union â’n myfyrwyr presennol sy’n dechrau eu blwyddyn olaf o astudio. Os ydych chi’n trosglwyddo atom ni o raglen achrededig IET, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen i drafod ymhellach. Byddai angen cymhwyso proses cryf a thrylwyr i wirio cymhwysedd ar gyfer y rhaglen achrededig. Am ragor o wybodaeth am Reoliadau Achredu IET ewch i Achredu Academaidd.

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol drwy Hunanwasanaeth ar gyfer mynediad Lefel 6. Unwaith y byddwn yn derbyn eich cais, bydd yn cael ei asesu, ynghyd â thystiolaeth o Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL), gan ein Cyfarwyddwr Rhaglen i weld a yw’n addas ar gyfer mynediad uniongyrchol i’r rhaglen (gweler rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Sut i Wneud Cais).

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Shadan Khan Khattak: