Skip to content

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Gellir astudio’r radd hon fel gradd lawn-amser am dair blynedd (BEng) neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn sylfaen, neu fel gradd lawn-amser pedair blynedd (MEng) neu radd pum mlynedd sy’n cynnwys blwyddyn sylfaen. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen a’r ffioedd.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Mae’r dewis rhwng BEng (Baglor mewn Peirianneg) ac MEng (Meistr mewn Peirianneg) yn dibynnu ar eich nodau gyrfa, diddordeb mewn arbenigo ymhellach, ac ymrwymiad amser:

  • BEng: Gradd tair blynedd sy’n union yr un fath â thair blynedd gyntaf y cwrs MEng.
  • MEng: Gradd meistr integredig pedair blynedd, y cymhwyster peirianneg israddedig uchaf yn y DU.

Bydd pob modiwl yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.

Blwyddyn 1

Bydd Blwyddyn 1 yn ymdrin â nifer o bynciau a luniwyd i roi sylfaen eang i dechnegau ac egwyddorion peirianneg a ddefnyddir mewn systemau electronig a chyfrifiadurol. Byddwch yn astudio theori ac ymarfer dylunio systemau analog a digidol, ac yn cyflwyno byd cyffrous systemau mecanyddol ac electroneg mewn cyfuniad (mecatroneg). Bydd eich gwaith yn cael ei ategu gan gyfarwyddyd mewn mathemateg peirianneg gymhwysol, a datblygu a threfnu datrysiadau adeiladu meddalwedd. Bydd gwaith prosiect yn eich galluogi i atgyfnerthu’r deunydd a gwmpesir gan systemau sy’n datblygu i ddatrys problemau byd go iawn.

Modiwlau:

  • Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
  • Egwyddorion Rhaglennu
  • Electroneg Analog a Digidol 1
  • Peirianneg Mathemateg
  • Cyflwyniad i Fecatroneg
  • Explore

Blwyddyn 2

Bydd Blwyddyn 2 yn adeiladu ar bynciau a themâu Blwyddyn 1 i gael cyflwyno nifer o bynciau ychwanegol a fydd wedi’u dylunio i roi golwg ddyfnach i chi ar dechnegau ac egwyddorion peirianneg a ddefnyddir o fewn systemau electronig a chyfrifiadurol. Bydd yn ymdrin â theori ac ymarfer dylunio signalau, systemau a chyfathrebiadau. Cewch y cyfle i adeiladu systemau electronig i gyfnerthu’r gwaith damcaniaethol drwy ddatblygu prosiectau caledwedd. Bydd cymhwyso mathemateg i ddylunio systemau rheoli yn rhoi mewnwelediad i chi i leoli ac i drin peirianwaith awtomataidd. Byddwch yn dysgu sut bydd rhaid datblygu systemau electronig a chyfrifiadurol gan fod yn ymwybodol o anghenion bygythiad seiber. Bydd opsiynau rheoli prosiectau a sgiliau ymchwil yn cael eu trafod hefyd. Byddwch yn ymgymryd â gwaith prosiect helaeth hefyd er mwyn cyfnerthu eich dysgu drwy ddatblygu systemau i ddatrys problemau go iawn.

Modiwlau:

  • Electroneg Analog a Digidol 2
  • Rhydweithiau a Diogelwch
  • Cyfrifiadura Ffisegol
  • Systemau Rheoli
  • Arwyddion a Systemau
  • Rheoli Prosiectau Peirianegol

Blwyddyn 3

Bydd Blwyddyn 3 yn ymdrin ag ystod o bynciau mewn ffordd fwy manwl. Gan y byddwch wedi datblygu sgiliau rhaglennu yn ystod blynyddoedd blaenorol, byddwch nawr yn mynd ymlaen i gymhwyso’r sgiliau hyn i raglennu caledwedd a sglodion rheolyddion a microbrosesyddion arbenigol. Bydd y gwaith yn parhau i ddatblygu ac i ddwysáu eich dealltwriaeth o systemau analog a digidol, gan gynnwys systemau cyfathrebu a phŵer electronig. Yn ogystal â’r modiwlau craidd, ceir opsiynau i astudio deallusrwydd artiffisial a sut y gellir ei gymhwyso i roboteg a chymwysiadau rheoli awtomataidd; saernïaeth gyfrifiadura uwch; seiberddiogelwch; ynghyd â rheoli prosiectau technegol. Bydd prosiect unigol yn eich galluogi i gyfnerthu eich dysgu drwy ddatblygu systemau i gyfrannu tuag at ddatrys problem go iawn o’ch dewis.

Bydd y dewis gan y myfyrwyr hefyd i gwblhau lleoliad blwyddyn mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.

Modiwlau:

  • Prosiect Ymarferol Peirianneg Proffesiynol (40 credyd)
  • Systemau ac Electroneg Pŵer
  • Rhaglennu Caledwedd Lefel-isel
  • Prosesu Signalau Digidol

Opsiynol:

  • Systemau Paralel a Gwasgaredig
  • Deallusrwydd Cyfrifiadurol
  • Systemau Cyfathrebu Digidol ac Analog
  • Profiad Gwaith Diwydiannol (Lleoliad)

Blwyddyn 4 (Llwybr MEng)

Gan adeiladu dealltwriaeth eang a dwys o’r pynciau a gyflwynir yn nhair blynedd gyntaf y rhaglen, bydd Blwyddyn 4 yn eich galluogi i feistroli sgiliau uwch ar draws pynciau cymhleth. Bydd yn gwneud hyn drwy ymdrin â phynciau craidd yn Rhyngrwyd Pethau, technegau mesur ac offeru ar gyfer casglu data. Bydd prosiect datblygu grŵp yn rhoi’r cyfle i chi ddod â llawer o’r pynciau a fydd wedi’u trafod yn y rhaglen at ei gilydd, yn ogystal â galluogi archwiliad o ddiddordeb penodol neu faes datblygu. Yn ogystal â’r agweddau craidd hyn, ceir cyfleoedd i archwilio’n fanylach bynciau a fydd yn amrywio o ddeallusrwydd artiffisial a chywasgu delweddau hyd at archwilio technolegau newydd yn y dyfodol. Ceir cyfle hefyd i ymgymryd â lleoliad diwydiannol byr a all fod yn ddefnyddiol iawn i sicrhau swyddi yn y dyfodol.

Modiwlau:

  • Prosiect Datblygu Tîm (40 credyd)
  • Rhyngrwyd Pethau
  • Materion Proffesiynol a Moesegol mewn Peirianneg
  • Mesur ac Offeru

Opsiynol:

  • Ffiniau mewn Technoleg
  • Interniaeth
  • Cywasgu Delweddau a Fideo
  • Prosesu Signalau Uwch
  • Rhaglennu ar gyfer Dadansoddi Data

Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.

Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.

Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy’n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Mae’r gymdeithas fodern yr ydym yn byw ynddi yn dibynnu’n fawr ar dechnoleg, ac mae’r chwyldro digidol wedi chwarae rhan sylweddol yn y broses o dwf cyflwym dyfeisiau clyfar a rhyng-gysylltiedig mewn gofal iechyd, amaethyddiaeth, gofod, awtomeiddio a thelathrebu. Mae’r datblygiadau hyn wedi arwain at amhariadau a newidiadau sylweddol, gyda pheirianwyr yn gyrru’r trawsnewidiadau hyn. O ganlyniad, mae gyrfaoedd mewn peirianneg yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gwerthfawr.

Yn y Deyrnas Unedig, mae’r proffesiwn peirianneg yn cael ei oruchwylio gan sefydliadau proffesiynol sy’n gweithredu ar ran y Cyngor Peirianneg. Mae’r sefydliadau hyn yn sefydlu’r safonau ar gyfer addysg, hyfforddiant a phrofiad sydd eu hangen i gofrestru fel Peiriannydd Corfforedig neu Beiriannydd Siartredig. Mae’r safonau hyn yn cyd-fynd â chymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan sicrhau bod gweithwyr peirianneg proffesiynol yn ennill cydnabyddiaeth fyd-eang o fewn y diwydiant.

Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn bodloni’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer addysg, bydd rhaglenni peirianneg Met Caerdydd yn ceisio achrediad trwy’r sefydliad peirianneg mwyaf priodol – y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae’n ofynnol i raglenni newydd gyflwyno tystiolaeth o garfan lawn (myfyrwyr yn graddio’n llwyddiannys dros 4 blynedd y cwrs) i’w harchwilio cyn dyfarnu Achrediad llawn. Unwaith y caiff ei ddyfarnu, yna gall pob myfyriwr sydd wedi mynychu’r cwrs hwnnw hawlio eu bod wedi mynychu rhaglen gydnabyddedig ac felly fod yn gymwys i gael cydnabyddiaeth lawn (MEng) neu rannol (BEng) o’r safon addysg ofynnol ar gyfer cofrestriad proffesiynol.

Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ymgymryd â blwyddyn allan opsiynol mewn diwydiant i ategu eu hastudiaethau gyda phrofiad byd go iawn o waith peirianneg mewn amgylchedd masnachol. Bydd hyn yn eu paratoi’n well ar gyfer mynd i mewn i’r gweithle ar ôl graddio.

Mae myfyrwyr sy’n gwneud yn dda ar y rhaglen hefyd yn cael cynnig cyfleoedd i astudio ar lefel uwch ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig mewn pynciau technoleg a pheirianneg trwy raglenni pellach a addysgir neu drwy ymchwil.

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.​

  • Pwyntiau tariff: 112-120 (Gradd BEng) neu 120-128 (Gradd MEng)
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau BCC gan gynnwys gradd C yn Mathemateg neu Ffiseg. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM (Gradd BEng) neu DDM (Gradd MEng). Gan gynnwys 6 Clod yn y modiwlau Mathemateg neu Ffiseg.
  • Lefel T: Teilyngdod. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CD. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Oherwydd rheoliadau achredu, os ydych yn dewis gwneud cais am y rhaglen BEng Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig ar Lefel 6, bydd angen i chi wneud cais am y teitl heb eu hachredu BEng Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig. Os ydych yn dewis gwneud cais am y rhaglen MEng Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig ar Lefel 6, bydd angen i chi wneud cais am y teitl heb eu hachredu MEng Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig.

Mae hwn yn llwybr dyfarniad ymadael ar gyfer y rhaglen heb eu hachredu gyda’r IET na’r BCS, fodd bynnag bydd y modiwlau y byddwch yn eu dilyn yn adlewyrchu’r rhai a astudiwyd ar y rhaglen achrededig, a byddwch yn derbyn yr un gefnogaeth yn union â’n myfyrwyr presennol sy’n dechrau eu blwyddyn olaf o astudio. Os ydych chi’n trosglwyddo atom ni o raglen achrededig IET, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen i drafod ymhellach. Byddai angen cymhwyso proses cryf a thrylwyr i wirio cymhwysedd ar gyfer y rhaglen achrededig. Am ragor o wybodaeth am Reoliadau Achredu IET ewch i Achredu Academaidd.

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol drwy Hunanwasanaeth ar gyfer mynediad Lefel 6. Unwaith y byddwn yn derbyn eich cais, bydd yn cael ei asesu, ynghyd â thystiolaeth o Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL), gan ein Cyfarwyddwr Rhaglen i weld a yw’n addas ar gyfer mynediad uniongyrchol i’r rhaglen (gweler rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Sut i Wneud Cais).

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Shadan Khan Khattak: