Skip to content

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen a’r ffioedd.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Mae’r rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol. Mae gan fyfyrwyr hefyd y dewis o gwblhau blwyddyn o leoliad mewn diwydiant rhwng Blwyddyn 2 a 3.

Bydd pob modiwl yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.

Blwyddyn 1

  • Offer Dadansoddol ar gyfer AI
  • Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
  • Meddwl Cyfrifiannol
  • Archwilio*
  • Cyflwyniad i AI gyda Python
  • Egwyddorion Rhaglennu*

* Mae potensial i astudio Archwilio ac Egwyddorion Rhaglennu yn Gymraeg (uchafswm o 40 credyd y flwyddyn), fodd bynnag mae’r ddarpariaeth yn amodol ar argaeledd a galw ac felly efallai na fydd y modiwlau Cymraeg yn rhedeg bob Blwyddyn Academaidd.

Blwyddyn 2

  • Prosiect ar y Cyd
  • Cysyniadau mewn AI
  • Expand
  • Dylunio Systemau Deallus
  • Dylunio System Gwrthrych-gyfeiriadol
  • Cyfrifiadura Corfforol

Blwyddyn 3

  • Pensaernïaeth a Chymwysiadau AI
  • AI mewn Systemau Aml-Asiant
  • AI Cynhyrchiol a LLM
  • Technoleg Broffesiynol, Cynaliadwy a Moesegol
  • Prosiect Datblygu (40 credyd)

Anogir dull dysgu ac addysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a grŵp. Mae hyn yn cael ei wella ymhellach gan astudiaethau achos o’r byd go iawn a sgyrsiau gwadd gan arbenigwyr yn y diwydiant, a’i gefnogi gan Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithwir.

Oherwydd natur y rhaglen, mae stiwdios ar y campws a gweithdai ymarferol yn allweddol i ddatblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol y myfyrwyr, ac mae damcaniaethol cadarn yn sail i hyn i gyd. Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach trwy hunanastudio dan gyfarwyddyd ac amser dysgu annibynnol – yn ogystal â’r ddarpariaeth wedi’i hamserlennu – er mwyn datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect a meddalwedd wrth iddynt symud ymlaen i fyd gwaith.

Cefnogir myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol gan Dîm y Rhaglen, dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Mae pob myfyriwr hefyd yn cael Tiwtor Personol fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu cefnogi gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl yr Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr presennol sydd yn eu 2il, 3ydd flwyddyn a myfyrwyr Meistr sy’n darparu cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer Modiwlau ac mewn mannau dysgu cymdeithasol.

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Prif nod y rhaglen radd hon yw datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o gysyniadau allweddol cyfrifiadura, meddalwedd a systemau. Bydd yn arddangos effaith a phwysigrwydd ehangach meddalwedd a thechnoleg i’r gymdeithas yn ogystal â’r DU a’r economi ddigidol fyd-eang, ochr yn ochr â datblygu sgiliau meddwl cyfrifiadurol trosglwyddadwy, sgiliau dadansoddi a datrys problemau, yn ogystal ag ystod eang o sgiliau datblygu meddalwedd.

Mae Deallusrwydd Artiffisial yn faes o dwf sylweddol yn y diwydiant TG. Mae bwlch sylweddol yn y farchnad, gyda llawer o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth â chyflog da a llwybrau gyrfa gwerth chweil ar draws pob sector i raddedigion sydd â gwybodaeth a sgiliau mewn Deallusrwydd Artiffisial. Mae swyddi ym maes Deallusrwydd Artiffisial yn cwmpasu meysydd fel Busnes a Chyllid, Roboteg, ac Ymchwil a Datblygu ar draws disgyblaethau megis Meddygaeth a Chwaraeon.

Gellir cael profiad o’r byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth trwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod dewisol / interniaeth diwydiannol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau ar gynlluniau sy’n gystadleuol yn genedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen radd hon yn llwyddiannus, mae yna hefyd opsiynau astudio ôl-raddedig ymhellach ar draws systemau cyfrifiadura a gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.

Cynigion Nodweddiadol

Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 104-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Angesh Anupam: