Skip to content

Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Bydd y radd flaengar hon yn eich galluogi i ddeall materion cymhleth heddiw drwy waith ymchwil cymdeithasegol a chreu atebion i’r rhain drwy eich dealltwriaeth o bolisi cymdeithasol. Drwy ymgysylltu â chysyniadau cymdeithasegol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o’r heriau sy’n wynebu ein byd. Drwy ddysgu am bolisi cymdeithasol, sefydliadau, a diwallu anghenion pobl, byddwch yn gallu datrys ble a sut y gall newid ddigwydd.

Mae’r radd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Met Caerdydd wedi’i strwythuro o amgylch tair thema gymdeithasegol allweddol: Unigolion, Cymdeithas a Phŵer; Hunaniaeth, Gwahaniaeth ac Anghydraddoldeb; a Gofod, Lle a Chyfiawnder.

Bydd y radd hon yn eich herio i ddadansoddi’r byd yn feirniadol, y rhyngweithio rhwng unigolion ynddo, a’r prosesau cymdeithasol sy’n ei siapio. Yn bwysig, bydd hefyd yn eich galluogi i feithrin y sgiliau i’w newid. Byddwch yn datblygu sgiliau craidd er mwyn gallu meddwl yn feirniadol, gwneud ymchwil, defnyddio tystiolaeth yn effeithiol, a chyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd.

Mae cyflogadwyedd yn nodwedd bwysig drwy gydol y radd, a byddwch yn cymhwyso’r hyn rydych chi’n ei ddysgu yn ymarferol drwy gyfleoedd gwirfoddoli, yn ogystal ag ymgymryd â dysgu yn seiliedig ar waith sy’n berthnasol i’r diwydiant ym mlwyddyn dau. Bydd y lleoliad allanol hwn yn canolbwyntio ar effaith – effaith arnoch chi o ran datblygu eich sgiliau, ond hefyd yn cael effaith wrth fynd i’r afael â mater cymdeithasol rydym wedi’i astudio.

Mae gan y tîm addysgu brofiad o ddylanwadu ar newid deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru a Lloegr, ysgogi adfywiad cymdeithasol a chorfforol cymunedau, a gweithio gydag unigolion i fynd i’r afael â materion fel digartrefedd, tlodi bwyd, ac allgáu cymdeithasol.

Ar ôl i chi gwblhau’r radd, bydd gennych ddealltwriaeth ddofn, eang a hynod ymarferol o gysyniadau ac arferion y gwyddorau cymdeithasol, ynghyd ag ystod o sgiliau a phrofiadau i’ch galluogi i ddilyn gyrfa lwyddiannus mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys llywodraeth leol a chenedlaethol, y trydydd sector, sefydliadau polisi, ymchwil a’r byd academaidd.

Gellir astudio’r ​radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu’r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Mae’r radd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol wedi’i strwythuro o amgylch tair thema gymdeithasegol allweddol. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn datblygu eich gwybodaeth i’ch galluogi i fynd i’r afael â materion cymdeithasol cymhleth mewn ffordd ymarferol ac effeithiol.

Mae tri modiwl yn cyd-fynd â phob thema ar Lefel 4, 5 a 6.

Thema 1 – Unigolion, Cymdeithas a Grym. Pam mae cymdeithasau yn newid? Beth sy’n achosi gwrthdaro? Beth yw rôl yr unigolyn? Yn y flwyddyn gyntaf fe’ch cyflwynir i syniadau allweddol. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn archwilio gwahanol ddulliau, gan ganolbwyntio ar ethnigrwydd a hil. Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn edrych ar sut mae’r gwahanol syniadau hyn yn gweithredu o fewn sefydliadau a’r gweithle.

Thema 2 – Hunaniaeth, Gwahaniaeth ac Anghydraddoldeb. Sut mae hunaniaethau’n cael eu ffurfio? Beth yw’r berthynas rhwng gwahaniaeth ac anghydraddoldeb? Beth sy’n achosi anghydraddoldebau cymdeithasol a beth allwn ni ei wneud i fynd i’r afael â nhw? Yn y flwyddyn gyntaf fe’ch cyflwynir i’r syniadau allweddol, gan gynnwys tlodi ac allgáu. Yn yr ail flwyddyn rydym yn canolbwyntio ar rywedd a rhywioldeb ac yn archwilio’r syniadau hyn ymhellach ac yn y drydedd flwyddyn byddwch yn edrych ar elfannau cyflogaeth a chymdeithasol.

Thema 3 – Gofod, Lle a Chyfiawnder. Sut mae lle rydyn ni’n byw yn effeithio ar ein bywydau? Beth yw cynaliadwyedd a pham ei fod yn bwysig? A allwn ni ddiwallu anghenion pawb heb niweidio’r amgylchedd? Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn edrych ar sut mae ble rydym yn byw yn gwneud gwahaniaeth i’n bywydau. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn edrych ar dir a bwyd a sut mae’r rhain yn effeithio ar gyfleoedd bywyd. Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn edrych ar effaith colli eich cartref a gorfod gadael eich cymuned.

 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Modiwlau

Mae pob modiwl yn 20 credyd, ac eithrio’r Prosiect Annibynnol Seiliedig ar Tystiolaeth sy’n 40 credyd.

Blwyddyn Un (Lefel 4)

  • Cyflwyniad i Wyddorau Gymdeithasol
  • Unigolion, Sefydliadau a Chymdeithas
  • Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd
  • Pobl, Lle a Grym
  • Tlodi a Chyfiawnder
  • Gwrthdaro, Newid a Gwahaniaeth

Blwyddyn Dau (Lefel 5)

  • Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Tir, Bwyd a Chyfiawnder
  • Stigma, Gwahaniaeth ac Allgáu
  • Dulliau Ymchwil Gymdeithasol
  • Hil, Ethnigrwydd a Grym
  • Rhyw, Rhywioldeb ac Anghyfartaledd

Blwyddyn Tri (Lefel 6)

  • Ymchwil a Chyflogadwyedd
  • Sgiliau Entrepreneuraidd Cymhwysol
  • Gwaith, Lles a Chynhwysiant
  • Dadleoli, Mudo a Digartrefedd
  • Prosiect Unigol Seiliedig ar Dystiolaeth (40 credyd)

Cyflwyno’r Cwrs

Rydym yn defnyddio ystod o ddulliau addysgu a dysgu, er mwyn diwallu ystod o anghenion dysgu a sicrhau eich bod yn meddu ar wybodaeth ymarferol a damcaniaethol o’r gwyddorau cymdeithasol. Byddwch yn cael cyfle i gael profiad gwaith sy’n berthnasol i yrfaoedd gwyddorau cymdeithasol, ac ar gyfer profiad maes perthnasol.

Oriau Cyswllt

Mae gan bob modiwl 20-credyd tua 200 awr o astudio, a gyflwynir dros semester. Yn nodweddiadol, bydd 36 o’r oriau hyn yn cael eu cyflwyno mewn sesiynau a addysgir fel darlithoedd, seminarau, a gweithdai, a drefnir fel arfer fel 3 awr yr wythnos (fesul modiwl). Neilltuir tua 52 awr ar gyfer astudio dan gyfarwyddyd a thasgau paratoi a osodir yn wythnosol fel rhan o’r sesiynau a addysgir ac mae’r 100 awr sy’n weddill yn astudio hunangyfeiriedig, lle byddwch yn cwblhau gwaith darllen sy’n ofynnol ar gyfer y modiwl ac yn cwblhau asesiadau gofynnol. Gan fod gradd Met Caerdydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn cael ei haddysgu dros ddau semester fesul blwyddyn academaidd, byddwch yn astudio tri modiwl 20 credyd, ochr yn ochr, fesul semester.

Cefnogaeth

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr sy’n dechrau’r cwrs, ac mae’r tiwtor hwn yn eu cefnogi trwy gydol eu gradd. Bydd cyfarfodydd gyda’r tiwtor yn cael eu hamserlennu, ond mae tiwtoriaid hefyd ar gael i fyfyrwyr y tu allan i’r cyfarfodydd yma.

Mae gan y Brifysgol adran gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae ganddo’r adnoddau i ymdrin ag unrhyw faterion sy’n codi yn ystod cyfnod y myfyriwr yn y Brifysgol.

Technoleg a Chyfleusterau

Cefnogir y modiwlau gan ddefnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Moodle, ar y we ac sydd felly ar gael yn unrhyw le ar bob dyfais sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd. Cedwir holl ddeunydd y cwrs, gan gynnwys cyflwyniadau darlithoedd a seminarau, gwybodaeth asesu a darllen neu adnoddau ychwanegol ar Moodle. Mae tiwtoriaid hefyd yn defnyddio Moodle i e-bostio myfyrwyr gyda gwybodaeth a diweddariadau.

Staff

Mae’r holl staff yn weithgar ym maes ymchwil, a byddwch yn elwa’n uniongyrchol o hyn trwy addysgu a goruchwylio eich prosiect annibynnol L6.

Mae gan staff addysgu ystod eang o arbenigedd mewn tai a digartrefedd, gwleidyddiaeth, cynaliadwyedd, hawliau lles, polisi cymdeithasol, trais ar sail rhywedd, rhywedd a rhywioldeb, daearyddiaeth, cyflogadwyedd a’r gyfraith. Mae’r holl staff wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol o ansawdd uchel.

Cyfleusterau

Bydd gradd Met Caerdydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn cael ei haddysgu ar draws campws Llandaf a Chyncoed, lle bydd myfyrwyr yn elwa ar ystod o gyfleusterau.

Mae Llandaf yn gampws prysur a bywiog. Gyda miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad diweddar, mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr.

Mae Cyncoed yn gampws prysur sy’n cynnig llety ar y safle, cyfleusterau chwaraeon rhagorol a Chanolfan Gampws bwrpasol, gan gynnwys siop, bariau coffi a ffreutur ar y safle.

Mae asesiadau’n ddiddorol ac yn amrywiol ac wedi’u mapio’n agos i ganllawiau Meincnodau Cymdeithaseg ASA 2019 a Meincnodau ASA 2019 mewn Polisi Cymdeithasol.

Mae asesiadau wedi’u cynllunio i ddarparu profiadau dilys i chi ddangos y cymwyseddau byd go iawn y byddai’n ofynnol iddynt eu defnyddio mewn cyd-destunau proffesiynol.

Cwblheir yr asesiadau naill ai ar sail unigol neu grŵp. Mae gan fodiwlau asesiadau integredig: traethodau beirniadol, arddangosfeydd, portffolios a senarios byw. Mae’r rhain i gyd yn canolbwyntio ar ddatblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, i ddangos eich gallu i gyd-fynd â chymwyseddau’r byd go iawn.

Rhoddir dyddiadau cyflwyno asesiadau i chi ar ddechrau pob modiwl, yn ogystal â grid trosolwg asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan i’ch helpu i gynllunio a rheoli eich amser yn effeithiol. Byddwch yn derbyn adborth unigol ar eich gwaith i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.

Fel myfyriwr graddedig Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Met Caerdydd, mae ystod eang o opsiynau gyrfa ar gael i chi. Byddwch yn ennill dealltwriaeth eang o faterion cymdeithasol a sgiliau ymarferol mewn ymchwil, polisi ac ymarfer. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n barod ar gyfer gyrfaoedd lle bydd angen i chi nodi a mynd i’r afael â materion cymdeithasol cymhleth.

Byddwch mewn sefyllfa dda ar gyfer gyrfa mewn llywodraeth leol neu genedlaethol, gan ddefnyddio eich dealltwriaeth o faterion cymdeithasol, polisïau, a newid cymdeithasol. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, addysg neu’r system cyfiawnder troseddol.

Efallai y byddwch yn dewis gweithio i fudiad trydydd sector sy’n canolbwyntio ar hawliau dynol, tlodi neu gynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd eich sgiliau ymchwilio a dadansoddi problemau cymdeithasol cymhleth, a’ch gallu i ddatblygu atebion effeithiol, yn cael eu defnyddio’n dda yma.

Bydd eich hyfforddiant mewn dulliau ymchwil gyda modiwlau pwrpasol ar bob lefel, yn eich gwneud yn addas iawn ar gyfer gyrfa ymchwil – mewn sefydliad ymchwil neu felin drafod, neu mewn prifysgol (gan gynnwys rhaglenni hyfforddi doethurol cystadleuol 1+3 a llybrau carlam y diwydiant a llywodraeth genedlaethol). Cynlluniwyd y rhaglen i sicrhau eich bod yn ymgeisydd cystadleuol ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a ariennir.

Bydd eich gwybodaeth am bolisi cymdeithasol a’ch sgiliau ymarferol mewn dadansoddi polisi yn ddefnyddiol mewn sawl maes, gan gynnwys y llywodraeth, y trydydd sector ac ymgynghoriaeth. Gallech fod yn rhan o waith ymchwil, dadansoddi a datblygu polisïau i fynd i’r afael â materion cymdeithasol dybryd.

Mae astudiaeth ôl-raddedig bellach ar gael ym Met Caerdydd gan gynnwys MRes Polisi Cymdeithasol.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau i fynd i’r afael â’r materion y maent yn eu hwynebu a gwella eu canlyniadau cymdeithasol. Mae gwaith cymdeithasol, rolau swyddogion datblygu cymunedol, addysgu, a’r sector tai i gyd yn cynnig cyfleoedd gwych i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a enillwyd drwy astudio’r BSc (Anrh) Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol.

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 104
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch yn cynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair lefel A i gynnwys graddau CCC. Nid oes angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • BTEC Cenedlaethol / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Nid oes angen pynciau penodol.
  • Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol (IB): Nid oes angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2. Nid oes angen pynciau penodol. Dim ond pynciau lefel uwch sy’n cael eu hystyried gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Gradd DD. Nid oes angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen,​ Helen Taylor.

  • Cod UCAS

    L300 (gradd 3 blynedd), L30F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
    6 mlynedd yn rhan-amser.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.