Skip to content

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen a’r ffioedd.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Gradd

Mae’r rhaglen radd Peirianneg Meddalwedd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol, gydag ystod o opsiynau yn yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.

Mae gan fyfyrwyr hefyd yr opsiwn i gwblhau lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.

Mae’r modiwlau yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.

Blwyddyn 1:

Mae myfyrwyr yn dilyn 120 credyd o fodiwlau gorfodol:

  • Egwyddorion Rhaglennu*
  • Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
  • Meddwl Cyfrifiadurol
  • Archwilio*
  • Dylunio Gwefannau a Chronfeydd Data
  • Dylunio a Datblygu Meddalwedd​

* Mae potensial i astudio Archwilio ac Egwyddorion Rhaglennu yn Gymraeg (uchafswm o 40 credyd y flwyddyn), fodd bynnag mae'r ddarpariaeth yn amodol ar argaeledd a galw ac felly efallai na fydd y modiwlau Cymraeg yn rhedeg bob Blwyddyn Academaidd.

Blwyddyn 2:

Mae myfyrwyr yn dilyn 100 credyd o fodiwlau gorfodol, gyda dewis o un modiwl dewisol 20 credyd:

  • Dylunio System sy’n Canolbwyntio ar Wrthrych
  • Symudol & Technolegau Gwe
  • Expand
  • Datblygu Ystwyth a DevOps
  • Algorithmau a Strwythurau Data

Modiwlau opsiynol* (un o’r canlynol):

  • Rheoli Data a Gwybodaeth
  • Rhwydweithiau a Chyfathrebu

Blwyddyn 3:

Mae myfyrwyr yn dilyn 100 credyd o fodiwlau gorfodol, gyda dewis o un modiwl dewisol 20 credyd.

Modiwlau gorfodol:

  • Systemau Cyfochrog a Dosbarthu
  • Rhaglennu Uwch
  • Prosiect Datblygu (40 credyd)
  • Technoleg Broffesiynol, Gynaliadwy a Moesegol

Modiwlau dewisol* (un o’r canlynol):

    • Seiberddiogelwch a Cryptograffeg
    • Profiad Gwaith Diwydiannol
    • Technoleg Gwefannau Uwch

 

Nodyn: Mae modiwlau dewisol yn amodol ar argaeledd a galw; felly, ni chaiff pob modiwl dewisol redeg mewn un Flwyddyn Academaidd.

Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.

Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.

Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy'n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Prif nod y rhaglen radd hon yw datblygu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd mewn dylunio, datblygu a darparu meddalwedd ar gyfer amgylcheddau a llwyfannau modern. Bydd yn arddangos effaith a phwysigrwydd ehangach meddalwedd a thechnoleg i’r economi ddigidol yn y DU ac yn fyd-eang, gan ddatblygu diwylliant a gwerthfawrogiad o saernïaeth meddalwedd a gwaith ’codemanship’ drwy greu arteffactau meddalwedd defnyddiol y gellir eu defnyddio. Ar ben hynny, bydd gennych sgiliau meddwl cyfrifiadurol, dadansoddi a datrys problemau trosglwyddadwy iawn.

Peirianneg Meddalwedd

Bydd graddedigion Peirianneg Meddalwedd yn dod o hyd i amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa ar draws y sector TG a thelathrebu traddodiadol, yn ogystal â’r mwyafrif o’r sectorau diwydiannol eraill (cyhoeddus a phreifat), gan gynnwys y diwydiannau digidol/creadigol, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, gweithgynhyrchu uwch, peirianneg ac ymgynghoriaeth reoli.

Gallwch gael profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth drwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod opsiynol /interniaeth ddiwydiannol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.

Mae’r rhaglen radd hon yn y broses o gael ei hachredu gan BCS, y Sefydliad Siartredig TG – y corff sy’n hyrwyddo’r proffesiwn TG byd-eang gyda mwy na 70,000 o aelodau ledled y byd. Mae’r rhaglen radd hon yn bodloni’r gofynion addysgol ar gyfer aelodaeth broffesiynol a statws siartredig (ar ôl cwblhau profiad yn y diwydiant yn llwyddiannus ar y lefel briodol o hynafedd).

Ar ôl cwblhau’r rhaglen radd hon yn llwyddiannus, mae yna hefyd opsiynau astudio ôl-raddedig a addysgir ymhellach ar draws systemau cyfrifiadura a gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.​

  • Pwyntiau tariff: 104-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Oherwydd rheoliadau achredu, os ydych yn dewis gwneud cais am y rhaglen BSc Peirianneg Meddalwedd ar Lefel 6, bydd angen i chi wneud cais am y teitl heb eu hachredu BSc Datblygu Meddalwedd. Mae hwn yn llwybr dyfarniad ymadael ar gyfer y rhaglen heb eu hachredu gyda’r IET na’r BCS, fodd bynnag bydd y modiwlau y byddwch yn eu dilyn yn adlewyrchu’r rhai a astudiwyd ar y rhaglen achrededig, a byddwch yn derbyn yr un gefnogaeth yn union â’n myfyrwyr presennol sy’n dechrau eu blwyddyn olaf o astudio. Os ydych chi’n trosglwyddo atom ni o raglen achrededig IET, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen i drafod ymhellach. Byddai angen cymhwyso proses cryf a thrylwyr i wirio cymhwysedd ar gyfer y rhaglen achrededig. Am ragor o wybodaeth am Reoliadau Achredu IET ewch i Achredu Academaidd.

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol drwy Hunanwasanaeth ar gyfer mynediad Lefel 6. Unwaith y byddwn yn derbyn eich cais, bydd yn cael ei asesu, ynghyd â thystiolaeth o Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL), gan ein Cyfarwyddwr Rhaglen i weld a yw’n addas ar gyfer mynediad uniongyrchol i’r rhaglen (gweler rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Sut i Wneud Cais).

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Stuart McNeil: