Dyfarnwyd mwy na £6m i Brifysgol Met Caerdydd i gefnogi uchelgais Cymru i fod yn sero carbon net
Roeddem wrth ein bodd yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i groesawu Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, i’r campws yr wythnos hon, ar gyfer ei gyhoeddiad am gynllun benthyciad Digarbon Llywodraeth Cymru gwerth £15 miliwn a mwy, sy’n cefnogi’r sector addysg drydyddol i gyrraedd carbon sero net erbyn 2030.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog: “Rydym yn falch o weld ymdrechion parhaus y sector addysg drydyddol yng Nghymru i yrru uchelgais i ddatgarboneiddio. Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn drwy gynllun Digarbon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi sector addysg drydyddol Cymru i dorri allyriadau, lleihau costau ynni, a chyflymu cynnydd tuag at sero net.”
Mae cynllun benthyciadau llog isel Digarbon yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno gan Salix yn unol â tharged cenedlaethol y DU i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi derbyn £6.2 miliwn o'r cynllun. Mae Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Choleg Cambria hefyd yn derbyn cyllid. Bydd buddsoddiad Digarbon yn galluogi'r sefydliadau hyn i foderneiddio eu hadeiladau a'u seilwaith, lleihau costau ynni, a chyflymu trawsnewidiad Cymru i ddyfodol cynaliadwy, carbon isel.
Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: "Mae'n wych bod y pedair prifysgol a choleg hyn yng Nghymru yn arwain y ffordd o ran creu amgylcheddau dysgu mwy cynaliadwy i'w dysgwyr a'u cymunedau. Drwy Digarbon rydym yn galluogi ein sefydliadau addysg i ddarparu mannau modern, effeithlon o ran ynni i ddysgwyr sy'n cefnogi eu dysgu.
Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio'r benthyciad llog isel i gyflawni menter wobrwyedig y Brifysgol “Haneru’r Hanner” gan dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr, lleihau costau a chefnogi mynediad cymunedol i gyfleusterau chwaraeon helaeth y Brifysgol.
Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar y pwll nofio, sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth gan grwpiau cymunedol, gwersi nofio i blant, athletwyr myfyrwyr a nofwyr hamdden. Bydd y pwll yn newid i systemau gwresogi ac awyru carbon isel, a bydd paneli solar a system storio batri ar gyfer ynni adnewyddadwy yn cael eu gosod. Bydd y gwelliannau hyn hefyd yn gwella neuadd chwaraeon, cyrtiau sboncen a sawl lle addysgu a gweinyddu. Canlyniad y gwaith hwn fydd dileu'r defnydd o nwy yn adeilad mwyaf dwys ynni'r Brifysgol wrth haneru'r galw am drydan grid ar gampws Cyncoed.
Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu dangos i’r Dirprwy Brif Weinidog y gwelliannau a wnaed drwy gyllid blaenorol Ynni Cymru a’n menter Haneru’r Hanner, ein harloesedd gwirioneddol, sydd ‘wedi’i wneud yng Nghymru’ dan arweiniad Met Caerdydd ac yn effeithio ar safonau dylunio adeiladau a chydweithio traws-sector ledled y DU.
“Bydd y cyllid newydd yn ein cefnogi i barhau i ddangos sut y gellir defnyddio polisïau a blaenoriaethau lleihau carbon i gyflawni newid gweithredol, buddsoddiad cyfalaf wedi’i dargedu a budd cymunedol eang tra hefyd yn lleihau’r effaith amgylcheddol a hinsawdd yn sylweddol.”
Dywedodd Kevin Holland, sy’n brif weithredwr ar Salix: “Mae Salix yn falch o fod mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cyllid benthyciad hanfodol hwn, gan nodi carreg filltir bwysig ar daith Cymru tuag at sero net. Mae'r prosiectau hyn yn cynrychioli cynnydd gwirioneddol, mesuradwy i greu dyfodol mwy cynaliadwy ac i leihau costau ynni. Edrychwn ymlaen at ei weld ar waith, cwrdd â'r timau ysbrydoledig sy'n gyrru'r trawsnewidiad hwn, a chydweithio'n agos â rhanddeiliaid i sicrhau eu llwyddiant parhaol.”
Mae gan Met Caerdydd hanes trawiadol o gynaliadwyedd amgylcheddol dros nifer o flynyddoedd. Yn fwyaf diweddar, enillodd ei fenter lleihau ynni 'Haneru'r Hanner' 'Cyfraniad Rhagorol at Arweinyddiaeth Amgylcheddol' yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times, a'r Defnydd Gorau o Dechnoleg yng ngwobrau TechFest Construction News. Cafodd y Brifysgol wobr gyntaf yng Nghymru a’r 10 uchaf yng Nghynghrair Prifysgolion Pobl a Phlaned y DU 2025/26.