Skip to content

Menter arloesol Cymru i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth mewn ymchwil cardiofasgwlaidd

23 Ionawr 2026
A man holding a small red heart against his chest. A man holding a small red heart against his chest.

Ar Ddydd Santes Dwynwen, wrth i Gymru ddathlu cariad a thosturi, mae’r Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (NCRN) yn galw ar gymunedau i helpu i ddiogelu’r symbol mwyaf hanfodol o gariad – y galon.

Mae’r NCRN yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o academyddion, ymchwilwyr, clinigwyr, staff y GIG, cleifion, elusennau a byrddau iechyd sydd wedi’u huno â’r genhadaeth i sbarduno ymchwil cardiofasgwlaidd blaengar ar draws Cymru.

Wedi’i leoli ym mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a phrifysgol Abertawe, ac yn rhychwantu prifysgolion ledled Cymru, mae’r NCRN wedi’i sefydlu gyda chyllid gan bartneriaid strategol, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation.

Ar hyn o bryd, mae 340,000 o bobl yn byw gyda chlefyd y galon yng Nghymru, a bydd 9,700 ohonynt yn marw o’r cyflwr bob blwyddyn, yn ôl y British Heart Foundation.

Mae’n fater iechyd cyhoeddus enfawr, ac yn aml ni chaiff rhai grwpiau – megis cymunedau lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig neu ddifreintiedig, pobl ifanc ac oedolion mewn lleoliadau gofal – eu hystyried o fewn ymchwil a all helpu i atal, gwneud diagnosis a thrin clefyd y galon.

Mae ystadegau gan British Heart Foundation Cymru yn dangos bod llawer o ffactorau risg ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn fwy cyffredin yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan gynnwys ysmygu, gordewdra, lefelau digonol o weithgarwch corfforol, bwyta llai na phum ffrwyth a llysiau bob dydd, ac yfed alcohol peryglus. Heb os, mae hyn yn cyfrannu at afiechyd cardiofasgwlaidd a marwolaethau uwch ym mhoblogaethau mwyaf difreintiedig Cymru.

Ond y tu ôl i bob ystadegyn mae teulu, anwylyd, stori.

Dyna pam mae’r NCRN wedi lansio AURORA (Addressing Underrepresentation through Outreach and Research Access), menter newydd i ddileu anghydraddoldebau mewn iechyd y galon a chylchrediad ledled Cymru.

Mae’r cynllun grant, a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a British Heart Foundation, yn ymroddedig i gefnogi gweithgareddau allgymorth yn y gymuned ac ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n gwneud ymchwil cardiofasgwlaidd yn fwy cynhwysol.

Drwy ariannu prosiectau cymunedol, mae AURORA yn helpu i feithrin perthnasoedd cryfach rhwng ymchwil a’r bobl y mae’n effeithio fwyaf i sicrhau bod pob llais yn cael ei gynrychioli yn y wyddoniaeth sy’n llunio dyfodol iachach i bawb.

Gall unrhyw un wneud cais am AURORA, cyn belled â bod ganddynt syniad da o sut i wneud iechyd y galon yn fwy cynhwysol ledled Cymru – er enghraifft, sefydlu clinigau galw heibio pwysedd gwaed mewn canolfannau cymunedol neu gartrefi gofal, talu am wasanaeth iechyd cardiofasgwlaidd symudol i’r rhai sy’n profi digartrefedd neu sesiynau addysgol/ymwybyddiaeth mewn ysgolion.

Dywedodd yr Athro Barry McDonnell, Cadeirydd pwyllgor ariannu AURORA a Chyfarwyddwr yr NCRN, am y fenter: “Ein gweledigaeth yw defnyddio’r cyllid hwn i adeiladu partneriaethau pwrpasol go iawn gyda chymunedau sy’n draddodiadol heb gynrychiolaeth ledled Cymru. Bydd y cyllid hwn yn talu i grwpiau arwain mentrau cardiofasgwlaidd neu gymryd rhan mewn mentrau cardiofasgwlaidd, gan gael effaith wirioneddol tuag at wella cynwysoldeb ymchwil cardiofasgwlaidd yn ein cymunedau.”

Dywedodd Hassan Al-Kaabi, Rheolwr Mewnwelediad Systemau Iechyd yn British Heart Foundation Cymru: “Credaf fod AURORA yn bwysig gan ei fod yn rhoi llwyfan i bobl sydd ddim fel rheol yn cael eu clywed mewn ymchwil cardiofasgwlaidd. Pan fydd cymunedau â llai o lais yn cael eu gadael allan, mae’r wyddoniaeth rydym yn dibynnu arni yn dod yn anghyflawn, ac felly mae’r atebion hefyd. Drwy gefnogi allgymorth sy’n seiliedig ar ddiwylliant, dan arweiniad lleol, gallwn adeiladu ymddiriedaeth, agor drysau a sicrhau y gall y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan glefyd cardiofasgwlaidd lunio’r ymchwil sy’n siapio eu dyfodol. I British Heart Foundation Cymru, nid arfer da yn unig yw hwn, ond mae’n gam ystyrlon tuag at ddyfodol tecach, mwy cynrychioliadol ar gyfer iechyd y galon i bobl Cymru.”

Mae rhagor o wybodaeth am AURORA ar gael ar wefan Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol.