Skip to content

Grŵp ymchwil Prosiect Pengwin

​​​​​​​​Cyflwyniad

Handheld penguins in cartoon style, looking at each other

Mae grŵp ymchwil Prosiect Pengwin yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru i ddatblygu offer ac adnoddau a fydd yn cefnogi ymarferwyr iechyd, addysg a gofal plant i adnabod a chefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi a hybu datblygiad sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn plant yng Nghymru yn dilyn tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o effaith y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus a osodwyd yn ystod pandemig COVID-19. Am fwy o wybodaeth am gefndir y prosiect, cliciwch here.​

Gwybodaeth i Rieni

Sut alla’i gymryd rhan?

Rydym yn chwilio am amrywiaeth o bobl sy'n byw yng Nghymru i gymryd rhan yn y prosiect. Os hoffech ddylanwadu ar sut mae plant ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael mynediad at gymorth cynnar, edrychwch ar y wybodaeth isod i weld sut y gallwch gymryd rhan.

Ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr i blentyn 0-5 oed sy'n byw yng Nghymru?

Bydd data yn cael ei gasglu yn ystod 2024 a 2025

Rydym yn gwahodd plant a’u rhieni/gwarchodwyr o’r awdurdodau lleol canlynol i gymryd rhan:

- Gwynedd
- Ceredigion
- Sir Gaerfyrddin
- Caerdydd

I gofrestru ar gyfer yr astudiaeth dilynwch y ddolen hon.

Gallwch ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Facebook
Instagram
E-bost: prosiectpengwin@cardiffmet.ac.uk

Mae croeso i chi ymuno â’n panel rhieni/gofalwyr cynghorol.

Rydym yn awyddus i gysylltu â chi er mwyn i ni eich gwahodd i siarad â ni am eich profiadau a rhannu eich barn ar ein penderfyniadau a’n cynlluniau ymchwil. Os hoffech ymuno â'n panel rhieni/gofalwyr cynghorol, gofynnwn i chi lenwi'r ffurflen isod i roi gwybodaeth gychwynnol i ni. Bydd eich manylion cyswllt yn cael ei gadw ar ein system a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd cyfleoedd i chi gefnogi ni gyda'n gwaith.

Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Gall rhieni/gofalwyr cynghorol gefnogi'r prosiect mewn sawl ffordd, er enghraifft:

  • Adolygu dogfennau a fydd yn cael eu defnyddio i recriwtio teuluoedd i ymuno a gweithdai neu brofi'r offer newydd
  • Mynychu cyfarfodydd ar-lein neu mewn person i drafod rolau a ffyrdd cyfredol o weithio yng Nghymru
  • Cael sgwrs gydag un o'r ymchwilwyr ar y ffôn neu drwy alwad fideo i roi adborth ar ein cynlluniau neu adnoddau rydym yn eu datblygu

Mae'r rôl wirfoddol hon yn hyblyg, er mwyniddo weithio gyda'ch amgylchiadau chi. Bydd pob cyfle i gefnogi yn cael ei egluro yn glir i chi allu penderfynu os ydych yn medru cyfrannu. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch o fod mewn rôl fel hon, dim ond parodrwydd i roi eich barn fel rhiant/gofalwr.

Ffurflen Mynegi Diddordeb ar gyfer Panel Rhieni/Gofalwyr Cynghorol

Gwybodaeth i weithwyr proffesiynol

Mae offeryn Pengwin wedi'i gynllunio i gyd-fynd â Rhaglen Cysylltiadau Plant Iach Cymru a drefnwyd i ddigwydd pan fydd plentyn yn 15 mis, 27 mis a 3 1/2 oed, a fydd yn adnabod plant sy'n dangos arwyddion o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Mae'r offeryn hwn wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gan y gweithlu sy'n ymweld ag iechyd ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar i sgrinio plant ar gyfer anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a helpu unrhyw blentyn a nodwyd ag angen ar y llwybr cywir ar gyfer cefnogaeth. Gan mai ychydig iawn o ddata sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer cerrig milltir plant yn yr iaith Gymraeg, bydd rhan helaeth o'r astudiaeth hon yn gofyn i ni gasglu data ar alluoedd iaith gan sampl gynrychioliadol o blant yng Nghymru.

Er mwyn cefnogi'r offeryn newydd, rydym hefyd yn datblygu hyfforddiant ar gyfer defnyddwyr yr offer ac ystod o ymyriadau i gefnogi plant a nodwyd ag anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu. Er mwyn sicrhau bod yr ymyriadau hyn yn briodol ac yn deg, byddwn yn cyd-gynhyrchu â rhieni, Therapi Lleferydd ac Iaith ac Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar fel ei gilydd.

Ydych chi'n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn cyd-destun iechyd / addysg / gofal plant gyda phlant ifanc a theuluoedd sy'n byw yng Nghymru?

Mae croeso i chi ymuno â’n panel ymarferwyr ymgynghorol.

Rydym yn awyddus i wneud cysylltiadau gyda phobl sy'n gweithio â phlant o dan 5 oed a'u teuluoedd ar draws cyd-destunau iechyd, addysg a chartref. Os hoffech ymuno â'n panel ymarferwyr cynghorol, gofynnwn i chi roi gwybodaeth gychwynnol i ni isod a byddwn yn cysylltu â chi pan mae fydd cyfleoedd i chi gefnogi ni gyda'n gwaith.

Beth fydd gofyn i mi wneud?

Gall ymarferwyr cynghorol gefnogi'r prosiect mewn sawl ffordd, er enghraifft:

  • Adolygu dogfennau a fydd yn cael eu defnyddio i recriwtio sampl o blant i brofi'r offer newydd
  • Mynychu cyfarfodydd ar-lein neu wyneb yn wyneb i drafod rolau a ffyrdd cyfredol o weithio yng Nghymru
  • Cael sgwrs gydag un o'r ymchwilwyr ar y ffôn neu drwy alwad fideo i roi adborth ar adnoddau rydym yn eu datblygu

Mae'r rôl wirfoddol hon yn hyblyg fel ei fod yn gweithio gyda'ch amgylchiadau chi. Bydd pob cyfle i gefnogi yn cael ei egluro yn glir i chi allu penderfynu os allwch chi gyfrannu. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch o fod mewn rôl fel hon, dim ond parodrwydd i roi eich barn fel rhywun sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a'u teuluoedd yn y blynyddoedd cynnar.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn gallwch e-bostio: prosiectpengwin@cardiffmet.ac.uk​​