Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i wreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ESD) ar draws gweithgareddau dysgu, addysgu, ymchwil ac ymgysylltu, gan sicrhau bod pob graddedig yn dabtlygu'r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd a'r hyder sydd eu hangen i gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy a theg.
Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy wedi'i integreiddio drwy ymrwymiad strategol y Brifysgol i gynaliadwyedd a'i dull sefydliadol cyfan, gan alinio gyda Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a chenhadaeth ddinesig ehangach y Brifysgol.
Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy wedi'i wreiddio yn nyluniad a chyflwyniad y cwricwlwm ar draws ysgolion academaidd drwy ddysgu rhyngddisgyblaethol, datrys problemau'r byd go iawn, a phrosiectau cynaliadwyedd cymhwysol.
Mae'r Ganolfan Dysgu Awyr Agored yn cynnig ystod eang o opsiynau dysgu awyr agored, gan gynnwys cyrsiau undydd, gweithdai, ac mae hefyd yn Ysgol Goedwig achrededig. Mae'r cyfleuster yn parhau i fod yn ganolbwynt i ymchwil academaidd i fanteision dysgu yn yr awyr agored.
Astudiaethau Achos
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r tîm Cynaliadwyedd wedi cydweithio â Dysgu ac Addysgu i gwblhau nifer o fentrau ymgysylltu, dysgu yn y byd go iawn a briffiau cwrs penodol.
Cynhaliwyd dau leoliad gwaith gan y tîm Gweithredu ar y Newid Hinsawdd yn ystod tymor y gwanwyn 2026 fel rhan o fodiwl lleoliad gwaith dewisol Lefel 5 Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Treuliodd dau fyfyriwr BA (Anrh) Dylunio a Chyfathrebu Graffig bedair wythnos gyda'r tîm yn ymchwilio i Fasnach Deg ac arferion marchnata gorau, ac yn creu deunyddiau hyrwyddo arloesol, a fydd yn helpu i gyfleu gwerthoedd a mentrau Masnach Deg i fyfyrwyr. Bydd eu canlyniadau hefyd yn cyfrannu at wobr Prifysgol Masnach Deg SOS UK 2028.
Aeth myfyriwr o gwrs BA (Anrh) Pensaernïaeth ar leoliad am fis gyda'r tîm Ystadau i drawsnewid ardal fawr o'r campws yn gysyniadol er mwyn cefnogi bioamrywiaeth leol yn well, yn ogystal â darparu gofod i staff a myfyrwyr gysylltu'n well â natur. Bydd eu canlyniadau'n cael eu hystyried o fewn cynlluniau ehangach yr Adran Eiddo i wella'r campws, a byddant, mewn rhannau llai, yn cael eu gweithredu gan y tîm Cynaliadwyedd er mwyn bodloni meini prawf gwobr Tir Cyfeillgar i Fyd Natur.
Mae’r tîm Cynaliadwyedd wedi rhoi briff ar gyfer modiwl 'Busnes ar Waith' carfan BA (Anrh) Busnes a Rheoli Lefel 5. Tasg y myfyrwyr oedd greu ymgyrch newid ymddygiad ar gyfer lleihau ynni ar y campws. Roedd cyd-destun y prosiect yn cyd-fynd ag uchelgais y Brifysgol i leihau allyriadau Cwmpas 3, yn dilyn gostyngiad sylweddol mewn allyriadau Cwmpas 1 a 2 o ganlyniad i'n prosiect Haneru'r Hanner Amgylchedd ac Ystadau. Canlyniad y prosiect hwn oedd cynllun ymgyrchu ymarferol, seiliedig ar dystiolaeth sydd bellach yn cael ei ystyried gan y tîm Cynaliadwyedd.
Mewn cydweithrediad â'r rhaglen BA (Anrh) Rheoli Busnes Rhyngwladol, gofynnodd y tîm Cynaliadwyedd i fyfyrwyr greu astudiaeth ddichonoldeb sy'n asesu'r dewis arall gorau i gwpanau coffi un defnydd ar y campws trwy ddadansoddi mentrau ledled y wlad. Mae'r mentrau arfaethedig yn cael eu hadolygu gan yr adrannau Arlwyo a Chynaliadwyedd.
Fel rhan o'r modiwl BA (Anrh) Busnes a Rheoli 'Busnes ar Waith', bu'r tîm Cynaliadwyedd yn goruchwylio prosiect lle’r oedd myfyrwyr yn edrych ar weithredu man arlwyo llysieuol ar gampws Llandaf, gan gynnwys yr holl agweddau realistig, e.e. cost, anghenion staffio a lleoliad, sydd angen ystyriaeth mewn strategaeth fusnes.