Drwy gydol eich amser ym Met Caerdydd, mae Gwasanaethau Myfyrwyr yma i chi
Rydym yn cynnig pob math o gymorth arbenigol o ansawdd uchel, sydd ar gael ar y campws ac ar-lein drwy apwyntiadau 1:1, gweithdai, sesiynau galw heibio, gweminarau ac adnoddau ar-lein. Ein nod yw eich helpu i oresgyn unrhyw rwystrau y gallech chi fod yn eu hwynebu wrth astudio gyda ni a'ch helpu i gyflawni eich potensial llawn.
Gallwch gael cymorth gan:
- Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Ehangu Llwyddiant
- Lleoliadau
- Anabledd, Iechyd Meddwl a Dyslecsia
- Cyngor Ariannol
- parth-g
- Caplaniaeth
Os oes gennych chi gwestiwn, neu os hoffech chi ddysgu mwy am Wasanaethau Myfyrwyr a chael cymorth anacademaidd, dylech chi fynd i'r parth-g yn y lle cyntaf. Mae'r parth-g wrth ymyl y brif dderbynfa ar Gampws Llandaf ac yn y Llyfrgell ar Gampws Cyncoed. Gallwch hefyd ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael ar-lein drwy ein tudalennau CanolbwyntMet neu gallwch e-bostio'r tîm parth-g.
Ynghyd â'n tair ystafell weddïo aml-ffydd sydd ar gael ar draws ein campysau, gall y tîm Caplaniaeth roi cyngor a chymorth i chi ar faterion sy'n gysylltiedig â ffydd.
Mae'r Gaplaniaeth yn darparu nifer o wasanaethau, gan gynnwys:
- Cymorth mewn Galar
- Mannau Gweddïo
- Ffydd ar y Campws
- Gofal Bugeiliol
› E-bostiwch y Gwasanaeth Caplaniaeth
Holiadur Eich Cynlluniau Gyrfa
Rydym eisiau deall sut i'ch helpu chi i weithio tuag at eich nodau gyrfa tra byddwch chi'n astudio gyda ni. Bydd yr holiadur Eich Cynlluniau Gyrfa yn ein helpu ni i wneud hynny, a byddwch yn cael rhai awgrymiadau ar gyfer dechrau arni yn seiliedig ar eich atebion.
› Cwblhewch yr holiadur Eich Cynlluniau Gyrfa