Ar ôl i chi gwblhau'r broses ymrestru, gallwch ddefnyddio eich mewnrwyd myfyrwyr – MetCanolog.
Mae MetCanolog yn llawn gwybodaeth am fywyd myfyrwyr ym Met Caerdydd a newyddion a digwyddiadau diweddaraf y Brifysgol. Mae MetCanolog hefyd yn cynnwys canllawiau pwysig ar nifer o bynciau sy'n gysylltiedig â myfyrwyr, yn amrywio o gyngor ariannol a chymorth iechyd meddwl a llesiant meddyliol i awgrymiadau astudio a chyngor ar sut i deithio o gwmpas Caerdydd.
Mae gan MetCanolog hefyd offer ac adnoddau gyda dolenni defnyddiol i'ch cynorthwyo yn eich astudiaethau ac i gael mynediad at wasanaethau myfyrwyr, cyngor ariannol a chymorth TG a gyrfaoedd. Mae yna hefyd gystadlaethau rheolaidd; yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25, fe wnaethom roi gwobrau yn amrywio o hwdis a photel Chilly's am ddim i daleb ASOS gwerth £250 a theledu!