Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
- Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu’r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen a’r ffioedd.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.
Yn ogystal, bydd angen i chi basio’r flwyddyn sylfaen gyda marc cyffredinol o 65% ar yr ymgais gyntaf, gydag isafswm o 65% o’r modiwl Gwyddorau Biolegol yn Nhymor 2. Gweler y gofynion mynediad am fanylion pellach.
Mae’r radd BSc (Anrh) Podiatreg yn rhaglen tair blynedd lawn a chynhwysfawr, sy’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau rhesymu, dadansoddol, ymarferol ac arweinyddiaeth trwy gydol eu hastudiaethau, gyda chynnwys cwrs penodol fel a ganlyn:
Blwyddyn Un:
- Theori Ymarfer Podiatrig (20 credyd)
- Ymarfer Podiatrig Integredig (40 credyd)
- Ymchwil a Llywodraethu ar gyfer Ymarfer Podiatrig (20 credyd)
- Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 1 (20 credyd)
- Anatomeg a Ffisioleg (20 credyd)
Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn pynciau sy'n greiddiol i'r proffesiwn podiatreg, megis anatomeg a ffisioleg, patholegau podiatreg cyffredin, cyflwyniad i ffarmacoleg ac astudiaethau cerddediad. Mae addysg glinigol yn dechrau gydag ymarfer cyn-glinigol sydd â'r nod o'ch paratoi â'r sgiliau clinigol i ddechrau cyswllt â chleifion yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae'r pwyslais ar eich cefnogi i drosi theori yn ymarfer i ddod yn hyderus a gwybodus ym maes podiatreg.
Blwyddyn Dau:
- Theori Ymarfer Podiatrig Gymhwysol (20 credyd)
- Ymarfer Podiatrig Cymhwysol (40 credyd)
- Seicoleg Iechyd a Lles (20 credyd)
- Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 2 (20 credyd)
- Dulliau Ymchwil (20 credyd)
Yn ail flwyddyn y rhaglen, y nod yw datblygu a chymhwyso gwybodaeth a gafwyd ym mlwyddyn 1, gyda mwy o ffocws ar bynciau fel diabetes, anhwylderau cyhyrysgerbydol a ffarmacoleg podiatrig a gweinyddu anesthetig lleol. Mae'r pwyslais ar eich cefnogi i drosi theori yn ymarfer i ddod yn hyderus a gwybodus ym maes podiatreg.
Blwyddyn Tri:
- Theori Podiatrig Estynedig (20 credyd)
- Ymarfer Podiatrig Estynedig (40 credyd)
- Newid Ymddygiad Iechyd (20 credyd)
- Prosiect (40 credyd)
Yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen, byddwch yn cael mynediad at ystod eang o gleifion a senarios cymhleth a'r cyfle i ddatblygu sgiliau clinigol estynedig sy'n bwysig ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol. Ystyrir hefyd yr agweddau ehangach ar ymarfer podiatreg o fewn cyd-destun proffesiynol, gyda ffocws ar gyflogadwyedd yn y GIG a’r sector preifat, yn ogystal â datblygu sgiliau entrepreneuriaeth. Bydd cyfle hefyd i gasglu a dadansoddi data fel rhan o brosiect ymchwil.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau arloesol a chreadigol o addysg drwy gydol y rhaglen gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau, gweithdai ymarferol a chlinigau ymarferol. Mae'r defnydd o labordai sgiliau sy'n cynnwys gwaith grŵp bach hefyd yn annog dull rhyngweithiol, ymarferol o addysgu elfennau mwy cymhleth fel anatomeg swyddogaethol.
Mae gan staff academaidd y BSc (Anrh) Podiatreg arbenigedd mewn meysydd allweddol podiatreg gan gynnwys y traed risg uchel, clwyfau, diabetes, rhiwmatoleg, anafiadau chwaraeon ac adsefydlu, llawdriniaeth podiatreg, llawdriniaeth ewinedd, podopediatreg, gweithgynhyrchu orthotig, gweinyddu anestheteg leol a ffarmacoleg. Mae llawer o'n staff yn weithgar mewn ymchwil, gyda meysydd ymchwil o ddiddordeb gan gynnwys sgrinio ar gyfer clefyd rhydwelïol ymylol, ac asesu a rheoli poen patellofemoral; gyda llawer o'r ymchwil hwn wedi'i raddio'n rhagorol yn rhyngwladol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF).
Darperir profiad clinigol ym mhob blwyddyn o'r rhaglen, gyda myfyrwyr yn ymgymryd â chlinigau cleifion wythnosol a lleoliadau bloc, gan arwain at gwblhau 1,000 o oriau clinigol dros gyfnod y cwrs. Mae'r holl staff clinigol yn bodiatryddion wrth eu gwaith ac yn cynnwys y staff academaidd podiatreg, ymarferwyr preifat, a phodiatryddion y GIG, sydd i gyd yn gweithio yn yr amgylchedd clinigol ochr yn ochr â'r myfyrwyr.
Mae dull cydweithredol yn cynnwys partneriaethau lleol a byd-eang gyda diwydiant, elusennau, cyrff proffesiynol ac ymarferwyr yn cynnig profiad i fyfyrwyr o weithio mewn amrywiaeth o glinigau’r GIG a’r sector annibynnol/preifat i wella eu profiad dysgu clinigol. Mae'r ystod eang o glinigau sydd ar gael i fyfyrwyr yn caniatáu mynediad i ystod eang o gleifion a'r cyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau clinigol sy'n bwysig ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Trwy gydol y rhaglen, byddwch yn cael eich cefnogi'n unigol gan diwtor blwyddyn, yn ogystal â'ch tiwtor personol a fydd yn eich helpu ar eich taith i fod yn bodiatrydd.
Byddwch yn cael eich asesu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd drwy gydol y rhaglen. Mae asesiadau'n cynnwys traethodau, adroddiadau achos, cyflwyniadau, ffeithluniau, arholiadau clinigol, a phrosiect ymchwil sy'n canolbwyntio'n fanwl ar bwnc o'ch dewis eich hun. Defnyddir arholiadau ysgrifenedig yn gynnil ac fe'u cyfyngir i lefelau 5 a 6 y rhaglen. Mae'r asesiadau wedi'u cynllunio'n ofalus i alluogi myfyrwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r galluoedd sy'n ganolog i weithio fel podiatrydd. Mae natur arloesol rhai o'r asesiadau wedi'i ganmol gan arholwyr allanol. Mae asesiad cyfun o flynyddoedd dau a thri yn darparu dosbarth gradd.
Mae graddedigion y rhaglen BSc (Anrh) Podiatreg yn gymwys i ymarfer fel podiatryddion (yn amodol ar gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ar ôl graddio). Mae gan y cwrs enw da ledled y DU, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod dros 90% o’n graddedigion wedi’u cyflogi mewn swyddi podiatreg chwe mis ar ôl gorffen y cwrs.
Mae galw am bodiatryddion yn y GIG ac yn y sector preifat. Gall graddedigion hefyd ddewis symud ymlaen i astudiaeth ôl-raddedig o fewn yr adran fel rhan o'r MSc Ymarfer Uwch (Astudiaethau Cyhyrysgerbydol). Mae cyfleoedd hefyd i weithio dramor. Mae gwybodaeth am gyflogau cyfredol ar gael yma: (podiatryddion newydd gymhwyso yn dechrau ym Mand 5).
Cynigion Nodweddiadol
- Pwyntiau tariff: 96-112
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.0 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tri chymwysterau Safon Uwch. Graddau CC i gynnwys Gwyddor Biolegol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DDM mewn pwnc Gwyddor Fiolegol.
- Lefel T: Ystyried pwnc gwyddoniaeth, ochr yn ochr â chymhwyster Lefel 3 perthnasol pellach.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd Lefel 3 ar Ragoriaeth mewn Gwyddorau Biolegol. Mae Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch ym meysydd y Biowyddorau, Gofal Iechyd, Gwyddor Iechyd a Gwyddoniaeth yn dderbyniol. Bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Saesneg iaith, Mathemateg a Gwyddoniaeth hefyd.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf dau Radd 5 mewn pynciau Lefel Uwch, gan gynnwys Gwyddor Fiolegol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2 i gynnwys Gwyddor Fiolegol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD i gynnwys Gwyddor Fiolegol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
- Sylfaen yn arwain at BSc Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd: 65% neu uwch yn gyffredinol gydag o leiaf 65% yn y modiwl Gwyddorau Biolegol, wedi'i gyflawni ar yr ymgais gyntaf.
- Gofynion eraill: Cyfweliad llwyddiannus, DBS a gwiriad Iechyd Galwedigaethol.
Bydd disgwyl i chi:
- Fod wedi trefnu ac ymgymryd â'ch arsylwad eich hun o bodiatryddion/ceiropodwyr yn y gwaith mewn lleoliad clinigol.
- Bod ag ymwybyddiaeth sylfaenol o gwmpas podiatreg fel proffesiwn ac o waith bob dydd podiatrydd.
- Dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad i podiatreg fel dewis gyrfa.
- Bod ag ymwybyddiaeth sylfaenol o ofynion hyfforddiant podiatreg.
Byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd cymwys sy'n astudio, neu sydd wedi astudio, Diploma Mynediad i Addysg Uwch sy'n gysylltiedig ag Iechyd priodol; cymhwyster dysgu seiliedig ar waith lefel 3 neu 4 neu raglen lefel 3 debyg; sy'n bodloni gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) ar gyfer rhaglen.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Mae holl fyfyrwyr gofal iechyd, yn cynnwys y rhai heb fod yn rhan o gynllun Bwrsari GIG Cymru, sy’n cynnig cymorth ariannol i dalu ffioedd dysgu ac am rai o agweddau cynhaliaeth ar yr amod eu bod yn ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl graddio, yn gymwys i dderbyn cymorth gan GIG Cymru sef ad-daliadau o gostau teithio i leoliad profiad gwaith clinigol a phrofiad gwaith a threuliau cynhaliaeth y gellir eu hawlio drwy Swyddfa Lleoliadau Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am adennill costau lleoliad, cysylltwch â cpt@cardiffmet.ac.uk.
Cysylltwch â moneyadvice@cardiffmet.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau am gyllid, gan gynnwys cyllid myfyrwyr a bwrsariaeth y GIG. Am ragor o wybodaeth am Gynllun Bwrsari’r GIG, cliciwch yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Dr Craig Gwynne:
- E-bost: cgwynne@cardiffmet.ac.uk