Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Yn naturiol, mae angen bod yn arbennig o ofalus ynghylch cymeriad a chefndir unrhyw un y bydd ei waith neu ei hyfforddiant yn dod â nhw i gysylltiad â phobl fregus. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig nifer o gyrsiau sy’n gofyn i fyfyrwyr dreulio cryn dipyn o amser yn gweithio gyda phlant neu bobl fregus. O ganlyniad, mae'n ofynnol i ymgeiswyr sy'n derbyn cynnig ar gyfer un o'r rhaglenni hyn (ac sy'n bwriadu ymgymryd â’u lle) gael gwiriad cofnodion troseddol cyn dechrau astudio.
Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn prosesu ceisiadau ac yn cyhoeddi gwiriadau cofnodion troseddol a gwahardd ar gyfer Cymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Am fwy o wybodaeth am y broses DBS, cyfeiriwch at wefan DBS a darllenwch y wybodaeth a ddarperir isod:
Os yw'ch cwrs yn golygu eich bod chi'n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc neu fregus, gofynnir i wiriad cofnodion troseddol gael ei gynnal.
Gofynnir i bob ymgeisydd a fydd yn astudio ym meysydd Addysg, Gwyddor Gofal Iechyd, Tai, Gofal Iechyd Cyflenwol, Dieteg, Podiatreg, Gwaith Cymdeithasol, Seicoleg Fforensig a Therapi Lleferydd ac Iaith gael eu gwirio.
Mae rhain yn cynnwys euogfarnau, rhybudd, gorchymyn caeth, cerydd, rhybudd terfynol, gorchmynion rhwymo neu debyg sy'n ymwneud ag un neu fwy o'r canlynol:
- Unrhyw fath o drais gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ymddygiad bygythiol, troseddau’n ymwneud â'r bwriad i niweidio neu droseddau a arweiniodd at niwed corfforol gwirioneddol
- Troseddau a restrir dan y Ddeddf Troseddau Rhyw 2003
- Cyflenwad anghyfreithlon o gyffuriau neu sylweddau rheoledig lle mae'r drosedd yn ymwneud â delio neu fasnachu cyffuriau masnachol
- Troseddau sy'n ymwneud â gynnau
- Troseddau sy'n ymwneud â llosgi bwriadol
- Troseddau a restrir dan Ddeddf Terfysgaeth 2006
Ni chaiff rhybuddion, hysbysiadau cosb am anhrefn (PNDs), gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBOs) na gorchmynion troseddwyr treisgar (VOOs) eu hystyried fel euogfarnau at ddiben yr adran hon, oni bai eich bod wedi dadlau yn erbyn PND neu wedi torri telerau ASBO neu VOO gan arwain at euogfarn droseddol.
Os oedd eich euogfarn yn cynnwys trosedd debyg i'r rhai a nodwyd uchod, ond wedi'i dyfarnu gan lys y tu allan i Brydain Fawr, a’r euogfarn honno heb gael ei hystyried fel pe bai wedi dod i ben o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, dylech nodi euogfarn.
Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn defnyddio'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i wirio cofnodion troseddol fel y gellir ei hysbysu o unrhyw gollfarnau perthnasol, h.y. yr euogfarnau hynny am droseddau yn erbyn yr unigolyn, p'un ai ydynt o natur dreisgar neu rywiol ac euogfarnau am droseddau yn cynnwys cyflenwi cyffuriau neu sylweddau rheoledig yn anghyfreithlon lle mae'r euogfarn yn ymwneud â delio neu fasnachu cyffuriau masnachol (fel y manylir uchod).
Anfonir cyfarwyddiadau at ymgeiswyr sy'n derbyn cynnig, ac sy'n Cadarnhau, ar sut i gynnal a chwblhau gwiriad DBS electronig trwy Ddatgeliadau Ar-lein First Advantage.
Ni fydd euogfarn yn eich gwahardd yn awtomatig rhag dod yn fyfyriwr ym Met Caerdydd, ond bydd angen gwybodaeth ychwanegol er mwyn dilyn gweithdrefnau i wneud penderfyniad ynglŷn ag addasrwydd ymgeisydd ar gyfer y dewis gwrs.
Disgwylir i ymgeiswyr sydd wedi byw fel oedolyn (18+) mewn gwlad arall am fwy na 12 mis yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf ddarparu gwiriad troseddol o’r wlad honno. Ar hyn o bryd ni all y DBS ofyn am gofnodion troseddol tramor na gwybodaeth berthnasol arall fel rhan o'i gwasanaeth datgelu. Ceir gwybodaeth mewn perthynas â gweithdrefnau tramor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) ar https://www.gov.uk/fco/ sy'n rhestru gwefannau pob llysgenhadaeth ac Uchel Gomisiwn lle mae gwybodaeth ynglŷn â sut y gellir dod o hyd i'r canllawiau cyfredol ar gyfer gwneud cais.
Cyfeiriwch hefyd at wiriad cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor am arweiniad pellach ynglŷn â sut i gael y dystysgrif neu'r llythyr perthnasol.
Dylai ymgeiswyr geisio cael y canlynol (ar gost yr ymgeisydd):
- Tystysgrif ymddygiad da' (gwiriad cofnodion yr heddlu) gan yr awdurdodau perthnasol yn cadarnhau nad oes gan yr ymgeisydd gofnod troseddol o'i wlad enedigol.
- Dilysiad o 'dystysgrif ymddygiad da' gan y Gonswliaeth berthnasol ar gyfer y wlad honno yn y DU (ar gost yr ymgeisydd).
Rhaid cyfieithu pob dogfen dramor (ar gost yr ymgeisydd) o'r iaith berthnasol i'r Saesneg. Dylai ymgeiswyr gysylltu â'r llysgenhadaeth dramor berthnasol i gael mwy o wybodaeth ynghylch dilysu dogfennau.
Er mwyn cyflawni gofynion derbyn dramor (gan gynnwys yr UE) bydd yn ofynnol i ymgeiswyr nad ydynt erioed wedi byw yn y DU, gynnal gwiriad DBS Uwch ar ôl iddynt symud i'r DU, a chael cyfeiriad yn y DU gan na all y DBS ymgymryd â gwiriad y DU oni ddarperir cyfeiriad yn y DU.
Ymgeiswyr Tramor ond wedi byw yn y DU
Mae'r Brifysgol yn rhoi’r cyfrifoldeb o ddarparu cofnodion o hanes troseddol yn eu mamwlad yn ogystal â chynnal gwiriad cofnodion troseddol o;u hamser yn y DU ar ymgeiswyr sydd wedi bod yn preswylio yn y DU am gyfnod byr.
Os ydych chi wedi byw fel oedolyn (18+) mewn gwlad arall at ddibenion gwaith neu wyliau am gyfnod o fwy na 12 mis yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, bydd disgwyl i chi gael gwiriad heddlu yn y wlad rydych chi wedi byw ynddi.
Mae angen gwiriad DBS Uwch ar y rhai sy'n byw yn y DU, a dylai’r rhai sy'n byw y tu allan i'r DU gyfeirio at y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) ar https://www.gov.uk/fco/ sy'n rhestru gwefannau pob llysgenhadaeth ac Uchel Gomisiwn lle gellir dod o hyd i wybodaeth am y cannllawiau cyfredol ar gyfer gwiriadau'r heddlu.
Gellir cyfeirio hefyd at y gwiriad cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor am arweiniad pellach ynglŷn â sut i gael y dystysgrif neu'r llythyr angenrheidiol.
Ceir gwybodaeth ychwanegol ar y ddolen gwiriad cofnod troseddol ar gyfer ymgeiswyr sy'n tarddu o'r tu allan i'r DU uchod.
Gellir rhoi lle ar gwrs i ymgeisydd ag euogfarn droseddol, er y gallai‘r lleoliadau a gynigir yn ystod y radd a chofrestriadau proffesiynol ar ôl graddio gael eu heffeithio. Cynghorir ymgeiswyr i ymchwilio, cyn gwneud cais, er mwyn gwirio gofynion proffesiynol. Yn achos y cyrsiau hynny lle mae angen cofrestru'n llwyddiannus gyda'r Proffesiwn Iechyd neu'r Cyngor Gweithlu Addysg, bydd angen i fyfyrwyr wneud cais ar wahân i’r corff. Ar y pwynt hwnnw, adolygir yr achos gan ddod i benderfyniad ynglŷn â derbyn y cais a’i gofrestru neu beidio.
Os ydych wedi cyflawni trosedd fel a nodir uchod, ar ôl i chi wneud cais i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, rhaid i chi hysbysu Derbyniadau.
Caniateir i'ch cofrestriad gyda'r brifysgol symud ymlaen dros dro. Fodd bynnag, bydd angen cwblhau Datganiad(au) Euogfarn Troseddol Myfyriwr – Profforma, a'i ddychwelyd i'r Gwasanaethau Cofrestru cyn pen 14 diwrnod gwaith o'i dderbyn. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.
Yn achos myfyrwyr sy'n dilyn cwrs sy'n dod â nhw i gysylltiad â phlant a/neu oedolion bregus, fel rhan o'r broses hon, efallai y bydd angen i chi gael Datgeliad DBS newydd.
Gall methu â datgan euogfarn droseddol arwain at eich diarddel o'r brifysgol.
Bydd yr holl wybodaeth sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol yn cael ei thrin yn sensitif, yn gyfrinachol ac unol â'r egwyddorion Diogelu Data a nodir yn y GDPR a'n Polisïau a'n Gweithdrefnau Diogelu Data mewnol. Ceir gwybodaeth am ein Polisïau Diogelu Data a Bod yn Agored yma neu cysylltwch â dataprotection@cardiffmet.ac.uk.
Os cewch eich dyfarnu'n euog o drosedd yn ystod eich cyfnod astudio, neu os ydych yn destun ymchwiliad gan yr Heddlu am gyflawni trosedd o'r fath, gofynnir i chi ddatgelu wrth y Gwasanaethau Cofrestru cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn ofynnol gan fod gan y Brifysgol ddyletswydd gofal i'r holl fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr, a byddai'r Gwasanaethau Myfyrwyr eisiau sicrhau eich bod yn cael y cymorth lles priodol. Os ydych chi'n astudio cwrs y cynhaliwyd gwiriad DBS ar ei gyfer, byddwch wedi cael gwybod am weithdrefnau perthnasol ar gyfer datgelu trosedd.
Pe bai amgylchiadau ffeithiol euogfarn droseddol yn dod i’r golwg na thynnwyd sylw’r Brifysgol ati yn unol â’r drefn uchod, cyfeirir at y Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr.
Mae'n bosibl y gofynnir i fyfyrwyr sy'n astudio ym meysydd academaidd eraill gynnal gwiriad cofnodion troseddol fel rhan o'u cwrs e.e. modiwl lleoli neu draethawd hir, ond ni ddylech gynnal un oni bai eich bod yn cael eich gofyn i wneud hynny.
Bydd angen i fyfyrwyr blaenorol neu gyfredol Met Caerdydd sydd wedi cael gwiriad DBS trwy Met Caerdydd ar gyfer cwrs blaenorol gysylltu â Derbyniadau yn askadmissions@cardiffmet.ac.uk i gadarnhau a oes angen gwiriad newydd.
Lleoliadau
Os nad oeddech angen Gwiriad DBS ar gyfer eich rhaglen fel rhan o'r broses Derbyniadau ond eich bod bellach angen un ar gyfer lleoliad, yna byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar y broses wirio DBS fel rhan o lif gwaith y lleoliadau.
Traethodau Hir
Os ydych chi'n fyfyriwr cofrestredig ar hyn o bryd a bod eich gweithgaredd ymchwil traethawd hir, fel rhan o'ch cwrs, yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed, efallai y bydd angen Gwiriad DBS arnoch. Cyfeiriwch at y cais ansafonol am Wiriad DBS y mae angen ei gwblhau a'i ddychwelyd i Dderbyniadau trwy askadmissions@cardiffmet.ac.uk i benderfynu ar lefel y gwiriad sydd ei angen. Fel arall, mae croeso i chi ddod â'r ffurflen i barthau-g Met Caerdydd sydd wedi'u lleoli yn y Pwynt Gwybodaeth i Fyfyrwyr yng Nghyncoed ac yn y brif dderbynfa yn Llandaf. Noder: nid yw'r ffurflen hon yn berthnasol i ymgeiswyr sydd heb gofrestru a dechrau eu cwrs eto.
Dychwelyd o Ohirio Astudiaethau
Os ydych chi'n dychwelyd i'ch astudiaethau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar gwrs sy'n gofyn am wiriad DBS, bydd angen i chi gwblhau DBS newydd ar gyfer dechrau eich rhaglen.
Os nad ydych wedi cael unrhyw wybodaeth mewn perthynas â chynnal y gwiriad hwn trwy'r broses electronig, cysylltwch â Derbyniadau ar 029 2041 6010.
Myfyrwyr Rhan-Amser
I'r myfyrwyr hynny sy'n ymgymryd â chwrs rhan-amser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n gofyn am wiriad DBS, nid yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cymryd cyfrifoldeb am wneud hyn ar gyfer y rhan fwyaf o'i rhaglenni, gan fod y cyfrifoldeb yn nwylo'r sefydliad sy'n cyflogi. Mae'n ofynnol i bob sefydliad a chorff yn y DU sydd â chyfrifoldeb tuag at blant ac oedolion agored i niwed yn eu gofal sicrhau diogelwch yr unigolion hynny drwy wirio bod gan unrhyw weithiwr neu fyfyriwr dan hyfforddiant sy'n dod i gysylltiad â nhw gliriad DBS. Er bod y ddyletswydd cyfrifoldeb yn nwylo'r sefydliad sy'n cyflogi, anogir myfyrwyr i hysbysu eu cyflogwr am eu statws DBS cyfredol a pha mor ddiweddar y cynhaliwyd y gwiriad.