Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudiaeth sylfaen. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig y cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, gwybodaeth a hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Fyfyrwyr sy’n dyheu am gofrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen gradd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, nad ydynt wedi cyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
- Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu’r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
Darganfod mwy am y flwyddyn sylfaen a’r ffioedd.
Noder: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.
Modiwlau Blwyddyn Un
- Sylfeini Damcaniaeth Droseddegol
- Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg
- Hanfodion Gwybyddiaeth
- Bioseicoleg a Niwrowyddoniaeth Wybyddol
- Cynnal a Chyfathrebu Ymchwil
- Archwilio’r System Cyfiawnder Troseddol
Modiwlau Blwyddyn Dau
- Dulliau Ymchwil 1
- Systemau Cymharol Cyfiawnder Troseddol
- Seicoleg Feirniadol, Gymdeithasol a Datblygiadol
- Dulliau Ymchwil 2
- Seicoleg Wybyddol a Biolegol Gymhwysol
- Bygythiad, Risg, a Niwed
Modiwlau Blwyddyn Tri
- Hil a Rhyw Troseddeg
- Cosb, Carchardai, a Phenoleg
- Dynladdiad a Throseddau Treisgar
- Seicoleg Fforensig Gymhwysol
- Prosiect
Bydd tîm ymroddedig o staff Troseddeg a Seicoleg sy’n weithgar ym maes ymchwil gan gynnwys tiwtor personol yn eich cefnogi drwy gydol eich amser gyda ni.
Mae’r rhaglen gradd israddedig yn darparu ystod o asesu, gyda’r nod o gynhwysiant yn ganolog iddi. Mae asesiadau wedi’u cynllunio i ddarparu profiadau dilys i’r myfyrwyr ddangos y cymwyseddau byd go iawn y byddai’n ofynnol iddynt eu defnyddio mewn cyd-destunau proffesiynol.
Cwblheir yr asesiadau naill ai ar sail unigol neu grŵp. Mae gan fodiwlau asesiadau integredig: traethodau beirniadol, arddangosfeydd, portffolios a senarios byw. Mae’r rhain i gyd yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau myfyrwyr, i ddangos eu gallu i gyd-fynd â chymwyseddau’r byd go iawn.
Rhoddir dyddiadau cyflwyno ar gyfer asesiadau i fyfyrwyr ar ddechrau pob modiwl, yn ogystal ag amserlen asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan i’w helpu i gynllunio a rheoli eu hamser yn effeithiol. Caiff myfyrwyr adborth unigol ar eu gwaith sy’n nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.
Bydd graddedigion yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy o’u gradd, gan gynnwys sgiliau cyfrifiadura, cymhwysedd ystadegol; meddwl beirniadol; ymchwil llyfrgell; ymchwil empirig (mewn dulliau ansoddol a meintiol); gweithio mewn tîm a sgiliau annibynnol; sgiliau cyfathrebu (ysgrifennu, llafar, a chyflwyniadau poster). Bydd gan raddedigion ddealltwriaeth ragorol o sut mae unigolion yn cael eu llunio gan fioleg a lleoliadau cymdeithasol a byddant yn gallu mynegi hyn yng nghyd-destun trosedd a newid cymdeithasol.
Ar ôl graddio bydd gennych amrywiaeth o opsiynau gyrfa ar gael o fewn seicoleg gymhwysol a’r system cyfiawnder troseddol. Bydd opsiynau ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig bellach ym meysydd troseddeg a seicoleg, yn ogystal â symud i waith cymdeithasol, gwaith ieuenctid, addysgu a thai er enghraifft.
Byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am gyrsiau ôl-raddedig, fel MSc Seicoleg Fforensig, yn ogystal â gweithio gyda Seicolegwyr Cynorthwyol o fewn y GIG.
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion arferol sy’n berthnasol i ddechrau blwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Blwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
- Pwyntiau tariff: 96-112
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys graddau BC. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DMM.
- Lefel T: Pasio (C+) – Teilyngdod.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf dau Radd 5 mewn pynciau Lefel Uwch.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau CD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwyr y Rhaglen:
- Dr Joe Marcel-Davies: jldavies@cardiffmet.ac.uk
- Dr Zoe Cross: zcross2@cardiffmet.ac.uk