Skip to content

Masnach Deg ym Met Caerdydd

Three members of Cardiff Met staff hold Fairtrade information posters outside the Cardiff School of Management Three members of Cardiff Met staff hold Fairtrade information posters outside the Cardiff School of Management
01 - 02

Mae gan Met Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd ymrwymiad hir i Fasnach Deg, gan gefnogi a gwerthu cynnyrch Masnach Deg ers 2003 a chael achrediad yn 2007.


The Sustainability team celebrate their 2-star Fairtrade University award The Sustainability team celebrate their 2-star Fairtrade University award

Rydym yn Brifysgol Masnach Deg 2 Seren

Rydym yn hynod falch o ddweud bod Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ennill Gwobr 'Prifysgol Masnach Deg' 2 Seren 2026, ein sgôr uchaf hyd yma. Mae'r cyflawniad arwyddocaol hwn yn adlewyrchu gwaith caled a chydweithrediad cydweithwyr a myfyrwyr ar draws y Brifysgol. Bydd ein hasesiad Masnach Deg nesaf yn digwydd yn 2028 ac rydym yn edrych ymlaen at y ddwy flynedd nesaf.

01 - 04
Cardiff Met staff member holds a Fairtrade information leaflet in front of their face
Adroddiad Blynyddol Masnach Deg

Mae Adroddiad Cynnydd Blynyddol Masnach Deg Met Caerdydd yn cwmpasu pob agwedd ar Fasnach Deg ym Met Caerdydd, gan gynnwys ymgyrchu, strategaeth, ac effaith.

A green space on a sunny day on Cardiff Met campus
Cynllun Gweithredu SMART

Mae ein Cynllun Gweithredu SMART yn cynnwys ystyriaethau gweithredol, e.e. caffael ac arlwyo, ymgyrchu a dylanwad, ymgysylltu a chyfathrebu, a gwerthuso gweithgareddau.

Cardiff Met-branded Fairtrade merchandise stacked in boxes alongside a
Cotwm Masnach Deg

Ers 2024, mae pob dilledyn â brand y Brifysgol arno ac a werthir ar y campws, yn ystod seremonïau graddio neu yn ein siop ar-lein wedi'i ddyfarnu ag achrediad Masnach Deg. Argraffir y dillad ar y safle yn ein Stiwdio ar gampws Llandaf.

Cyfleoedd Masnach Deg i Fyfyrwyr

Cysylltwch â'r tîm Cynaliadwyedd trwy anfon neges i sustainability@cardiffmet.ac.uk i fynegi eich diddordeb.

01 - 04
A row of Cardiff Met-branded hoodies and sweatshirt lined up on a clothes rail A row of Cardiff Met-branded hoodies and sweatshirt lined up on a clothes rail

Darllenwch Bolisi Masnach Deg Met Caerdydd

01 - 01
A selection of salads on display in bowls, with accompanying information signs A selection of salads on display in bowls, with accompanying information signs

Prynu Bwyd Masnach Deg ar y Campws

Mae Met Caerdydd yn blaenoriaethu cynnyrch Masnach Deg yn eu mannau arlwyo a'u gwasanaethau lletygarwch. Te a choffi Masnach Deg sy'n cael eu gweinio fel arfer yn y brifysgol, gan gynnwys mewn cynadleddau a digwyddiadau a gynhelir ar y campws. Hefyd, mae siopau a chaffis yn cynnal stoc o gynnyrch Masnach Deg ar draws categoriau allweddol, gan gynnwys te, coffi, sudd, siwgr, siocled, ffrwythau, a mwy. Hefyd, ers 2024 mae'r holl ddillad Prifysgol a werthir ar y campws, boed hynny ar ol graddio neu drwy ein siop ar-lein, wedi'u hachredu gan Fasnach Deg. Mae dillad yn cael eu hargraffu yn ein Stiwdio yn Llandaf.

01 - 04

Uchafbwyntiau Masnach Deg

Roedd 2025/26 yn flwyddyn gref o ran myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd Masnach Deg a phrosiectau ymchwil. Cafwyd digwyddiadau adrodd straeon a gweithgareddau ymwybyddiaeth, ymysg eraill.

01 - 08
Digwyddiad Te Prynhawn ac Adrodd Straeon mewn cydweithrediad â Masnach Deg Cymru
Groups of people sat at round tables watch a presentation on a large screen
Ymgyrch Wythnos Ewch yn Wyrdd
A member of the Sustainability team engages in conversation with students at a Go Green Week information stall
Ffair Wybodaeth Wythnos Masnach Deg mewn cydweithrediad â Masnach Deg Pontypridd
Two students stand behind a Fairtrade information stall, featuring with information sheets and Fairtrade food items
Stondin gymunedol, arlowg, a chystadleuaeth Masnach Deg
Two young men kneeling beside a Fairtrade information standee