Skip to content

Ynglŷn â Chynaliadwyedd

Aerial view of a sports complex featuring a large indoor sports facility, blue athletics track, multiple soccer fields, lush green trees in the foreground, and nearby residential buildings in the background. Aerial view of a sports complex featuring a large indoor sports facility, blue athletics track, multiple soccer fields, lush green trees in the foreground, and nearby residential buildings in the background.
01 - 02

Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae cynaliadwyedd wedi'i fewnosod yn ein hunaniaeth a sut ydym yn gweithredu. Fel prifysgol i'r cyhoedd, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i arwain drwy esiampl, drwy leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, cefnogi cyfiawnder cymdeithasol, a pharatoi ein myfyrwyr i lywio dyfodol mwy cynaliadwy.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni Carbon Sero Net, cyfoethogi ein bioamrywiaeth ar draws ein campysau, hyrwyddo defnydd cyfrifol o adnoddau, a mewnosod cynaliadwyedd yng nghweithgareddau addysgu, ymchwil a phrofiad myfyrwyr. Drwy weithio ar y cyd â'n cymuned, rydym yn creu cyfleoedd ystyrlon i weithredu, o benderfyniadau bob dydd i newid sefydliadol hirdymor.

 

Aerial view of the Llandaff Campus and surrounding green areas Aerial view of the Llandaff Campus and surrounding green areas

Cynllun Rheoli Carbon

Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i gyflawni Carbon Sero Net, gyda chynllun clir i leihau allyriadau ar draws ein campysau, ein gweithrediadau a'n cadwyni cyflenwi. Mae ein Strategaeth Rheoli Carbon yn gosod ein llinell sylfaen, targedau a gweithredoedd i bontio i Ystâd Sero Net erbyn 2030. Y tu hwnt i leihau allyriadau, rydym yn mewnosod cynaliadwyedd yn ein gweithgareddau addysgu, ein gwaith ymchwil a'n partneriaethau, wedi ein cefnogi gan arweinyddiaeth gref, system lywodraethu glir ac ymgysylltiad ystyrlon ar draws ein prifysgol.

 

Cynllun Rheoli Carbon 2024-2030Cynllun Rheoli Carbon 2024-2030
01 - 04
Cardiff Met staff accept an environmental leadership award on stage beneath a winner announcement screen. Cardiff Met staff accept an environmental leadership award on stage beneath a winner announcement screen.

Gwobrau a Chyflawniadau

Mae Met Caerdydd wedi'i henwi'r brifysgol orau yng Nghymru am gynaliadwyedd am ddeng mlynedd yn olynol gan y gynghrair Pobl a'r Blaned. Rydym yn falch o ddathlu ymdrechion cyfunol ein staff, ein myfyrwyr a'n partneriaid o ran meithrin dyfodol mwy gwyrdd a theg ym Met Caerdydd gyda gwobrau ac achrediadau sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus.

 

Gwobrau ac Ardystiadau CynaliadwyeddGwobrau ac Ardystiadau Cynaliadwyedd
01 - 04

Headshot of David Clubb

Dr David Clubb
Arweinydd Gweithredu dros yr Hinsawdd

Mae David yn Ffisegydd sydd ag ugain mlynedd o brofiad ym maes ynni adnewyddadwy strategol ar gyfer ymateb Met Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd a natur. Ef yw Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Mae David yn rhygl yn y Gymraeg ac yn byw yng Nghaerdydd.



Headshot of Madalina Voicu

Madalina Voicu
Swyddog Ymgysylltu â Chynaliadwyedd

Mae Madalina yn Swyddog Ymgysylltu â Chynaliadwyedd, ac mae hi'n rhannu straeon a'n cydweithio er mwyn gwneud cynaliadwyedd yn fwy gweladwy a pherthnasol. Mae hi'n gweithio mewn lleoliadau academaidd, mewn gwasanaethau proffesiynol ac yng nghymuned ehangach Caerdydd. Yn ogystal â'r gwaith yma, mae hi hefyd yn fyfyriwr TAR Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO), yn ddarlithydd gwadd ar newid hinsawdd, ac yn hyfforddi i fod yn seicotherapydd sy'n cefnogi pobl sy'n ciesio ymdopi ag effeithiau emosiynol newidiadau i'n planed.



Headshot of Lee Davies

Lee Davies
Rheolwr yr Amgylchedd ac Ynni

Mae Lee Davies yn Rheolwr Ynni ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'n gweithio ar draws ystâd y Brifysgol er mwyn gwella perfformiad ynni, lleihau allyriadau carbon a chefnogi'r pontio i dechnolegau carbon isel, yn cynnwys ynni adnewyddadwy, systemau adeiladau clyfar a thrydaneiddio gwres. Yn ystod ei amser yn y swydd, mae wedi goruchwylio gostyngiadau sylweddol yn y defnydd o ynni drwy well fesurau rheoli mewn adeiladau a mentrau rheoli ynni.



Headshot of Becca Clarke

Becca Clarke
Swyddog Ymgysylltu â Chynaliadwyedd

Mae Becca yn Swyddog Ymgysylltu â Chynaliadwyedd sydd yn cefnogi prosiectau sy'n cysylltu gweithredu ar yr hinsawdd, creadigrwydd a chymunedau. Fel un o raddedigion Prifysgol Met Caerdydd, mae hi'n mwynhau cefnogi myfyrwyr i ddatblygu datrysiadau hinsawdd arloesol yn ogystal â rhoi profiad gwaith. Mae ei gwaith hefyd yn ymestyn i'w hymarfer fel artist tecstiliau, ac mae hi'n defnyddio ac yn dysgu eraill i ddefnyddio sgiliau tecstiliau cynaliadwy ledled De Cymru. Mae Becca'n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, rhywbeth sy'n cyd-fynd â'i hymrwymiad i ddiwyddliant a chymuned yng Nghymru.


Headshot of Stuart Young

Stuart Young
Rheolwr E-Fasnach

Mae Stuart yn rheoli ystod o systemau talu ac incwm masnachol, yn cynnwys system EPOS (tiliau) a Siop Ar-lein. Yn osgytal, ef sy'n rheoli ac yn cynnal a chadw cronfa geir y brifysgol, yn ogystal â'r mannau gwefru Cerbydau Trydan. Mae'n mwynhau gweithio gyda rhanddeiliaid a chyflenwyr i wella ymgysylltiad ac i wneud y mwyaf o fuddion systemau newydd a phresennol. Wedi'i ei eni a'i fagu yng Nghaerydd, ymunodd â'r brifysgol yn 2020 ar ôl sawl blwyddyn yn astudio ac yn gweithio yn y maes cynhyrchu teledu.


Headshot of Rebecca Bloyce

Rebecca Bloyce
Rheolwr Gwasanaethau Masnachol

Rheolwr prosiect profiadol sydd â thros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn AB. Mae hi'n arbenigo mewn datrysiadau clyfar, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy'n cyfoethogi effeithiolrwydd ar draws amgylcheddau cymhleth. Gweithia Rebecca ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol i hyrwyddo prosiectau o'r cysyniad i'w gwblhau, a hynny gyda chreadigrwydd a manwl gywirdeb. Hi sy'n arwain y rhaglen Scope 3, sy'n helpu i lywio uchelgeisiau cynaliadwyedd hirdymor. A hithau'n ddysgwr gydol oes ymroddedig, mae Rebecca yn datblygu ei sgiliau drwy ddysgu Cymraeg.


Headshot of Steve Williams

Steven Williams
Swyddog Teithio a Thrafnidiaeth

Steve yw'r Swyddog Teithio a Thrafnidiaeth ym Met Caerdydd. Yn feiciwr a thri-athletwr bred, teimla'n gryf dros fyw'n iach ac mae'n mwynhau cyfrannu at werthoedd cynaliadwyedd a llesiant Met Caerdydd. Yn ogystal â thros 25 mlynedd o wasanaeth milwrol a phrofiad helaeth o arwain, ei waith blaenorol oedd Rheolwr Rhaglen Teithio Llesol ar gyfer Momentwm Casnewydd Fyw, yn adrodd i Lywodraeth Cymru ac yn hyrwyddo trafnidiaeth ac ymgysylltiad cymunedol ledled De Cymru.


Headshot of Richard Ashdown

Richard Ashdown
Rheolwr Gwasanaethau Argraffu

Mae Richard yn rheoli ystafell argraffu a gwasanaeth argraffu'r brifysgol, ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad ym maes argraffu. Mae'r tîm wedi ennill gwobr Gwasanaeth Argraffu Prifysgol y Flwyddyn tair gwaith yn y cyfnod hwn! Bu hefyd yn aelod o fwrdd ACPME (Cymdeithas y Rheolwyr Creadigol a Phrint mewn Addysg) rhwng 2019 a 2024.

Cysylltwch â Ni

Eisiau dysgu mwy am gynaliadwyedd ym Met Caerdydd, neu sut allwch chi gymryd rhan?

Anfonwch e-bost atom sustainability@cardiffmet.ac.uk

Dilynwch ni @cardiffmetsustainability

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Drwy nodi'ch cyfieiriad e-bost isod, rydych yn rhoi caniatâd i dîm Cynaliadwyedd Met Caerdydd gysylltu a chi gyda gohebiaeth. Gallwch optio allan ar unrhyw adeg.

E-bostwch Ni