Gan gefnogi nodau lleihau carbon a gwerthoedd cynaliadwyedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, mae ein Stwidio Argraffu wedi trawsnewid ei wasanaethau papur ac argraffu i fod yn gwbl Garbon Net Sero.
Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i'r Cynllun Dal Carbon. Mae'r cynllun hwn yn cael ei gynnig ar y cyd a Choed Cadw, ac mae'n cyfrifo'r carbon sy'n cael ei allyrru gan weithgareddau cynhyrchu a dosbarth papur. Ym mis Mehefin 2023, roedd y cynllun hwn wedi codi dros £1.71 miliwn i Goed Cadw, ac wedi ariannu'r gwaith o blannu dros 457 mil o goed!
Forest Stewardship Council (FSC) yw un o'r cynlluniau mwyaf cydnabyddedig i sicrhau bod coedwigoedd a ddefnyddir i gynhyrchu papur yn cael eu rheoli'n gyfrifol, gan warchod cynefinoedd naturiol a phlanhigion ac anifeiliaid, a pharchu hawliau gweithwyr coedwigaeth a chymunedau lleol. Mae'n darparu safon a ddilyswyd yn annibynnol sy'n olrhain pren a ffeibr pren drwy bob cam o'r gadwyn gyflenwi, o'r goedwig i'r defnyddiwr terfynol.
Ers 2024, mae pob dilledyn â brand y Brifysgol arno ac a werthir ar y campws, yn ystod seremonïau graddio neu yn ein siop ar-lein wedi'i ddyfarnu ag achrediad Masnach Deg. Argraffir y dillad ar y safle yn ein Stiwdio ar gampws Llandaf.