Mae Met Caerdydd yn ystyried cynaliadwyedd ar draws pob agwedd ar ei wasanaethau arlwyo, gan gynnwys caffael moesegol a lleihau gwastraff.
Caffael yn Gyfrifol
Mae'r tîm arlwyo yn blaenoriaethu caffael teg, cynaliadwy a chyfrifol, gan brynu gan gyflenwyr lleol lle bo modd. Ar hyn o bryd, mae 65% o'n cyflenwyr wedi'u lleoli o fewn 40 milltir i'r Brifysgol.
Coffi Rainforest Alliance
Mae'r holl goffi sy'n cael ei werthu yn Yr Atriwm, Y Bench a'r Galeri yn dod o ffermydd Ardystiedig Rainforest Alliance. Mae hyn yn golygu bod y coffi yn cael ei gynhyrchu yn unol â safonau cynaliadwyedd trylwyr, tra bod y gweithwyr a'u ffermydd yn cael eu cefnogi a'u diogelu'n ofalus.
Dewisiadau amgen sy'n seiliedig ar blanhigion
Mae dewisiadau amgen wedi'u creu o blanhigion ar gael ym mhob siop, ac mae'r cyfleusterau bwyd poeth yn darparu prydau bwyd llysieuol yn ogystal ag amrywiaeth fawr o eitemau deli, byrbrydau a diodydd fegan.
Sustainable Restaurant Association
Ers 2017, mae Met Caerdydd wedi cael tair seren Food Made Good gan y Gymdeithas Bwytai (SRA). Mae'r asesiad yn cynnwys tair colofn cynaliadwyedd - cyrchu, cymdeithas, a'r amgylchedd - a sgôr gyfunol ddiweddaraf Met Caerdydd oedd 88%.
Darllenwch Adroddiad 2024 SRA Food Made Good isod.
Er mwyn lleihau'r defnydd o eitemau untro ar y campws, mae Met Caerdydd yn cynnig y canlynol:
01 - 08
Poteli a mygiau Chilly i'w hailddefnyddio ar werth ar y campws, ynghyd a mannau ail-lenwi dŵr
Cynwysyddion salad Vegware (bioddiraddadwy)
Cynwysyddion bwyd y gellir eu hailddefnyddio ar werth
Mannau ail-lenwi dŵr ar draws pob safle
Arlwyo a Lletygarwch Masnach Deg
Mae Met Caerdydd yn blaenoriaethu cynnyrch Masnach Deg yn eu mannau arlwyo a'u gwasanaethau lletygarwch. Te a choffi Masnach Deg sy'n cael eu gweinio fel arfer yn y brifysgol, gan gynnwys mewn cynadleddau a digwyddiadau a gynhelir ar y campws. Hefyd, mae siopau a chaffis yn cynnal stoc o gynnyrch Masnach Deg ar draws categoriau allweddol, gan gynnwys te, coffi, sudd, siwgr, siocled, ffrwythau, a mwy.