Cwestiynau Cyffredin am Gyllid Myfyrwyr
Beth ddylwn i ei wneud os yw Cyllid Myfyrwyr yn aros am gadarnhad o bresenoldeb?
Mae’r broses hon yn cael ei chwblhau gan Wasanaethau'r Gofrestrfa. Anfonwch e-bost at enrolment@cardiffmet.ac.uk am gymorth.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n derbyn Cyllid Myfyrwyr?
Byddwn yn derbyn cadarnhad o’ch cyllid yn uniongyrchol gan Gyllid Myfyrwyr. Byddem yn argymell eich bod yn gwneud cais gyda digon o amser fel bod y cais yn cael ei dderbyn cyn dechrau’r tymor.
Beth ddylwn i ei wneud os yw fy Nghyllid Myfyrwyr yn hwyr?
E-bostiwch ein hadran Trysorlys tuitionfees@cardiffmet.ac.uk a rhowch wybod bod eich cyllid myfyrwyr yn hwyr ac am unrhyw ddiweddariadau a gewch gan Gyllid Myfyrwyr. Byddem yn eich annog i gysylltu â Chyllid Myfyrwyr yn rheolaidd.
Os na ddarperir cyllid erbyn dechrau Tymor 2, efallai y bydd gofyn i chi ddechrau talu eich ffioedd yn y cyfamser. Unwaith y byddwn yn derbyn cyllid gan gyllid myfyrwyr, bydd ad-daliad yn cael ei roi o unrhyw ordaliadau a allai fod ar eich cyfrif.
A fydd yn rhaid i mi dalu fy Ffioedd Dysgu os byddaf yn tynnu’n ôl o fy nghwrs?
Os ydych yn dymuno tynnu’n ôl o’ch cwrs, bydd eich dyddiad tynnu’n ôl yn pennu faint o’ch ffi ddysgu sy’n daladwy. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dadansoddiad o’r dyddiadau, ar gael yma: Tynnu'n Ôl a Ffioedd.
Myfyrwyr sy'n Ailadrodd
Os ydych yn ailadrodd unrhyw elfen o'ch astudiaethau o’r flwyddyn flaenorol, cyfrifir tâl yn seiliedig ar nifer y credydau y mae angen i chi ailgofrestru ar eu cyfer a bydd yn ystyried unrhyw lwfans a wneir drwy'r weithdrefn Amgylchiadau Lliniarol (gweler Llawlyfr Myfyrwyr). Bydd y tâl hwn yn elfen pro-rata o'ch ffi safonol; e.e., os ydych yn fyfyriwr 'Cartref' ar raglen Israddedig amser llawn (@ £9,535.00) sydd angen ailadrodd 60 Credyd (o 120) eich tâl fydd £4,770.00.
Noddwr
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n cael fy noddi?
Anfonwch lythyr noddi ar bapur pennawd/cyfeiriad e-bost cwmni – dylid ei uwchlwytho yn ystod eich cofrestriad ar-lein, neu ei e-bostio i enrolment@cardiffmet.ac.uk.
Bydd angen i’r llythyr noddwr gadarnhau’r wybodaeth ganlynol:
- Enw’r noddwr
- Cyfeiriad post
- Cyfeiriad e-bost
- Lefel y cyllid
- Enw a rhif y myfyriwr
- Rhif archeb (os yw’n berthnasol)
Unwaith y byddwn wedi derbyn hyn, gallwn ddiweddaru eich cofnod myfyriwr a bilio’ch noddwr yn uniongyrchol. Bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob blwyddyn astudio.
Bwrsariaeth y GIG
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n derbyn bwrsariaeth y GIG?
Bydd y GIG yn rhoi gwybod i ni’n uniongyrchol pa fyfyrwyr sy’n cael eu hariannu. Os ydych yn derbyn anfoneb ffioedd dysgu, cysylltwch â thîm Bwrsariaeth y GIG i wirio a oes problem gyda’ch cyllid.
Hunan-Ariannu
A allaf dalu mewn rhandaliadau os ydw i’n hunan-ariannu?
Gallwch – gallwch wneud taliad llawn neu sefydlu rhandaliadau (Taliadau Cerdyn Aml-dro).
Mae cynlluniau rhandaliadau ar gael ar gyfer myfyrwyr Cartref a Rhyngwladol.
Ewch i'r tudalen Taliadau i gael gwybodaeth am sut a phryd i dalu.
Sut allaf sefydlu cynllun rhandaliadau?
Os byddwch yn dewis talu eich ffioedd dysgu mewn rhandaliadau, gallwch dalu drwy gytundeb Taliad Cerdyn Cylchol (RCP). Ewch i'r ddolen ar eich cyfrif cyllid ar MetCentral.
I fewngofnodi, rhowch eich manylion cyfeiriadur gweithredol yn y fformat st12345678@outlook.cardiffmet.ac.uk ynghyd â’ch cyfrinair.
Gweler ein cyfarwyddiadau ar gyfer Talu mewn Rhandaliadau trwy RCP.
Faint yw fy ffioedd?
Mae’r holl ffioedd ar gyfer 2025/26 ar gael yma: Ffioedd Dysgu.
Gostyngiadau ac Ysgoloriaethau
Ydw i’n gymwys ar gyfer unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?
Mae gwybodaeth am Ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Cartref ar gael yma: Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau.
Mae gwybodaeth am Ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Rhyngwladol ar gael yma: Gwneud Cais am Ysgoloriaethau Met Caerdydd.
A allaf gael Gostyngiad Cyn-fyfyrwyr?
Mae’r holl wybodaeth am y Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr ar gael yma: Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech gadarnhau a ydych yn gymwys, cysylltwch â scholarship@cardiffmet.ac.uk.