Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Bioamrywiaeth

Cardiff Met greenspace featuring a wild raven Cardiff Met greenspace featuring a wild raven
01 - 02

Mae gwella bioamrywiaeth yn rhan bwysig o ymrwymiad Prifysgol Metropolitan Caerdydd i gynaliadwyedd, gan helpu i greu ecosystemau iachach, cefnogi bywyd gwyllt lleol, a darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu, lles, ac ymgysylltu â'r gymuned.


Wooden bird box in a wooded area
Campws sy'n Gyfeillgar i Natur

Rydym yn gweithio i ddod yn gampws sy'n gyfeillgar i natur drwy ennill achrediad 'Nature Friendly Grounds' gan SOS UK; bydd hyn yn cael ei asesu yn 2028 yn dilyn dwy flynedd o welliannau i fioamrywiaeth a'r tiroedd.

A green space in between trees on Cyncoed campus
Prosiect Adfer Queenswood

Mae Met Caerdydd yn adfer coetir Cyncoed drwy ailgyflwyno rhywogaethau coed brodorol, gwella bioamrywiaeth, gwella iechyd y pridd, a chreu ecosystem gwytnach ar gyfer y dyfodol.

Acorns on a tree on a sunny day
Cefnogi Adfywiad Coed Derw

Rydym yn casglu ac yn plannu mes sydd wedi syrthio o goed derw aeddfed ar y campws i gefnogi adfywiad coed dderw. Bydd defnyddio mes lleol yn helpu i gynnal hunaniaeth enetig y goedwig ac yn cryfhau ei gallu i wrthsefyll newid hinsawdd.

Rotting wood with fungi on a woodland floor
Darparu Cynefinoedd ar gyfer Bywyd Gwyllt

Rydym yn cefnogi bywyd gwyllt drwy osod cartrefi i adar a mamaliaid bach, tyfu dolydd blodau gwyllt brodorol ar gyfer pryfed peillio, a chreu cynefinoedd o goed marw.

A sustainability event being held in an open space on Cardiff Met campus
Wythnos Gweithredu ar Fioamrywiaeth 2027

Wythnos o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd i gefnogi bywyd gwyllt ar y campws, gan gynnwys arolygon bywyd gwyllt, gweithdai gwneud tai nythu, a sesiynau garddio. Cyhoeddir y digwyddiadau yn yr ail dymor.

The Sustainability team pose for a photograph on a sunny day
Y Grŵp Llywio Bioamrywiaeth

Mae'r Brifysgol wedi sefydlu grŵp llywio bioamrywiaeth i gefnogi prosiectau gwella ar draws ein safleoedd; mae'r grŵp yn cynnwys staff o ystod eang o adrannau ac yn cael ei arwain gan David Clubb, Arweinydd Gweithredu ar Newid Hinsawdd.

A green space on a sunny day on Cardiff Met campus A green space on a sunny day on Cardiff Met campus

Polisi Bioamrywiaeth Met Caerdydd

01 - 01