Mae gan Met Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd ymrwymiad hir i Fasnach Deg, gan gefnogi a gwerthu cynnyrch Masnach Deg ers 2003 a chael achrediad yn 2007.
Mae Adroddiad Cynnydd Blynyddol Masnach Deg Met Caerdydd yn cwmpasu pob agwedd ar Fasnach Deg ym Met Caerdydd, gan gynnwys ymgyrchu, strategaeth, ac effaith.
Mae ein Cynllun Gweithredu SMART yn cynnwys ystyriaethau gweithredol, e.e. caffael ac arlwyo, ymgyrchu a dylanwad, ymgysylltu a chyfathrebu, a gwerthuso gweithgareddau.
Ers 2024, mae pob dilledyn â brand y Brifysgol arno ac a werthir ar y campws, yn ystod seremonïau graddio neu yn ein siop ar-lein wedi'i ddyfarnu ag achrediad Masnach Deg. Argraffir y dillad ar y safle yn ein Stiwdio ar gampws Llandaf.
Cyfleoedd Masnach Deg i Fyfyrwyr
Cysylltwch â'r Tîm Cynaliadwyedd trwy anfon neges i sustainability@cardiffmet.ac.uk i fynegi eich diddordeb.
Uchafbwyntiau Masnach Deg
Roedd 2025/26 yn flwyddyn gref o ran myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd Masnach Deg a phrosiectau ymchwil. Cafwyd digwyddiadau adrodd straeon a gweithgareddau ymwybyddiaeth, ymysg eraill.