Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Agweddau Eraill Cynaliadwyedd

Rear view of the Cardiff School of Management, including an open green space and outdoor seating, on a sunny day Rear view of the Cardiff School of Management, including an open green space and outdoor seating, on a sunny day
01 - 02

Cyflwyniad i Gemegau a Sylweddau Peryglus, Ystâd Gynaliadwy, Allyriadau ac Elifion, Caffael Cynaliadwy, a Seilwaith Digidol Cynaliadwy.


A person in a lab coat uses a pipette to dispense a sample into a container. A person in a lab coat uses a pipette to dispense a sample into a container.

Cemegau a Sylweddau Peryglus

Mae Cynghorydd Iechyd a Diogelwch Met Caerdydd yn cydweithio a Thechnegwyr Labordy i fonitro sut mae sylweddau peryglus yn cael eu storio, eu trin a'u defnyddio, gan flaenoriaethu atal gollyngiadau ac allyriadau a allai arwain at ddifrod amgylcheddol. Rhaid i ysgolion reoli pob agwedd ar iechyd a diogelwch yn eu hardaloedd, gan gynnwys rheoli sylweddau peryglus a chadw cofnod o'r holl gemegau. Mae sylweddau peryglus yn cael eu storio mewn storfeydd diogel ac mae aelodau staff perthnasol yn cael eu hyfforddi i drin, i ddefnyddio ac i waredu'r rhain yn ddiogel.

01 - 04
Aerial view of the Llandaff Campus and surrounding green areas Aerial view of the Llandaff Campus and surrounding green areas

Ystâd Gynaliadwy

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i reoli a gwella agweddau amgylcheddol gweithrediadau'r ystâd drwy gynnal asesiadau risg i nodi bregusrwydd ac adeiladu gwydnwch yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, yn ogystal â blaenoriaethu dylunio cynaliadwy, arferion adeiladu, ac ailddefnyddio deunyddiau ar gyfer datblygiadau, adnewyddiadau a gwaith cynnal a chadw ar yr ystâd. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnal archwiliadau allanol i sicrhau bod ein safleoedd yn cadw ymddangosiad da, ac yn ymgysylltu a Chyngor Caerdydd ar arolygon ecolegol.

01 - 04
Manhole cover in a field of grass Manhole cover in a field of grass

Allyriadau a Chartffrydiau

Mae Allyriadau ac Elifiant yn cael eu rheoli gan dîm Amgylchedd ac Ystadau Met Caerdydd. Maen nhw'n goruchwylio rhyddhau nwyon tŷ gwydr, elifion nwyol, elifion trwy garthffosiaeth, a Legionella. Mae'r Brifysgol yn cynnal strategaeth gynnal a chadw cadarn yn unol â rhwymedigaethau statudol, tra bod ysgolion y Brifysgol yn cynnal asesiadau risg annibynnol ac yn sicrhau eu bod yn cael cyn lleied o effaith ag sy'n bosibl ar yr amgylchedd lleol.

01 - 04
Cardiff Met staff member holds a Fairtrade information leaflet in front of their face Cardiff Met staff member holds a Fairtrade information leaflet in front of their face

Caffael Cynaliadwy

Mae Met Caerdydd yn annog ffermio a chynhyrchu teg, cynaliadwy a chyfrifol drwy sicrhau bod ein cyflenwyr yn mabwysiadu ac yn defnyddio arferion busnes cymdeithasol ac amgylcheddol cyfrifol priodol. Mae'r Brifysgol wedi bod yn defnyddio tendro electronig ers bron i 10 mlynedd, ac mae ganddi broses archebu e-gaffael sefydledig. Mae gweithredu'r prosesau hyn wedi arwain at ostyngiad dramatig yn y defnydd o ddogfennau copi caled a deunydd o ddogfennau copi caled a deunydd ysgrifennu, ac o ganlyniad lleihau'r defnydd ar wasanaethau'r post.

01 - 04
CST student works on a small circuit board at their desk CST student works on a small circuit board at their desk

Seilwaith Digidol Cynaliadwy

Mae technolegau digidol yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi dysgu, addysgu, ymchwil a gwasanaethau proffesiynol ar draws Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Wrth i'n defnydd o wasanaethau digidol barhau i dyfu, rydym yn cydnabod pwysigrwydd lleihau eu heffaith amgylcheddol wrth gynnal technoleg ddiogel, ddibynadwy a pherfformiad uchel.

Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i wella cynaliadwyedd ei seilwaith digidol trwy dechnoleg sy'n effeithlon o ran ynni, caffael cyfrifol, rheoli offer TG yn gynaliadwy, a hyrwyddo arferion digidol cyfrifol, gan gynnwys defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu dull y Brifysgol o seilwaith digidol cynaliadwy ac yn tynnu sylw at rai o'r canllawiau a'r mentrau sy'n cefnogi'r ymrwymiad hwn.

 

Seilwaith Digidol CynaliadwySeilwaith Digidol Cynaliadwy
01 - 04