Cyllid Myfyrwyr a'r Hawl i Ddysgu Gydol Oes (LLE)
Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r Hawl i Ddysgu Gydol Oes (LLE) fel dull newydd o drefnu cyllid myfyrwyr yn Lloegr. Bydd yr Hawl i Ddysgu Gydol Oes yn disodli'r system cyllid myfyrwyr bresennol ar gyfer myfyrwyr newydd sydd yn bodloni’r canlynol:
- Byw yn Lloegr
- Yn gymwys i gael cyllid gan Student Finance England
Bydd myfyrwyr sydd eisoes yn astudio ac yn derbyn cyllid myfyrwyr yn parhau o dan y system bresennol.
Myfyrwyr o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw newidiadau i'r trefniadau cyllid myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr o Gymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon.
- Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bennu ei pholisïau cymorth i fyfyrwyr ei hun.
- Bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i wneud cais o dan y trefniadau presennol.
- Mae'r un peth yn berthnasol i fyfyrwyr a ariennir gan yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Astudiaethau a Chyllid yng Nghymru
Mae'r Hawl i Ddysgu Gydol Oes yn berthnasol i'r system cyllid myfyrwyr bresennol yn Lloegr ac nid yw'n effeithio ar systemau cyllid myfyrwyr yng Nghymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon, ar hyn o bryd.
Yng Nghymru:
- Mae myfyrwyr fel arfer yn cofrestru ar gyfer cymwysterau llawn (fel rhaglenni gradd).
- Nid yw cyllid ar gyfer modiwlau unigol na chyrsiau byr, drwy gymorth Hawl i Ddysgu Gydol Oes, ar gael ar hyn o bryd ym maes addysg uwch yng Nghymru.
Astudiaethau Blaenorol a Chyllid Hawl i Ddysgu Gydol Oes
O dan y Hawl i Ddysgu Gydol Oes, gall myfyrwyr sy'n byw yn Lloegr ac sy'n gymwys ar gyfer Hawl i Ddysgu Gydol Oes – ac sydd wedi ymgymryd ag astudiaethau addysg uwch a derbyn cymorth gan Cyllid Myfyrwyr yn y gorffennol – fod yn gymwys o hyd i gael cyllid ar gyfer cwrs newydd. Bydd lefel y cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar faint o gyllid myfyrwyr sydd wedi'i ddefnyddio yn ystod astudiaethau blaenorol.
Wrth i chi wneud cais am Gyllid Myfyrwyr, bydd unrhyw gyllid rydych eisoes wedi'i dderbyn yn cael ei ystyried. Mae hyn yn golygu y gallai unrhyw hawl yn y dyfodol gael ei lleihau yn ôl swm y cyllid a ddefnyddiwyd yn flaenorol. Gelwir y cyllid sy'n weddill ac sydd ar gael i chi yn hawlwedd weddilliol. Bydd Cyllid Myfyrwyr yn asesu eich hanes ariannu blaenorol ac yn cyfrifo'r balans o gymorth sy'n parhau i fod ar gael ar gyfer astudiaethau pellach o dan yr Hawl i Ddysgu Gydol Oes. Os nad oes gennych ddigon o hawl sy'n weddill i dalu am hyd cwrs cyfan, byddai'n ofynnol i chi dalu'r ffioedd ychwanegol eich hun.
Sut i wneud cais
Dylech wneud cais drwy'r corff cyllid myfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r lle rydych yn byw fel arfer (eich cartref parhaol):
- Cymru: Cyllid Myfyrwyr Cymru - (boed yn astudio yng Nghymru neu rywle arall yn y DU) - Cyllid Myfyrwyr Cymru
- Lloegr: Student Finance England (hyd yn oed os ydych yn astudio yng Nghymru) - Student Finance England
- Yr Alban: Student Awards Agency Scotland (SAAS), hyd yn oed os ydych yn astudio yng Nghymru - Student Awards Agency Scotland
- Gogledd Iwerddon: Student Finance Northern Ireland, hyd yn oed os ydych yn astudio yng Nghymru - Student Finance Northern Ireland
Cwestiynau Cyffredin
Ar gyfer cyrsiau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, disgwylir i fyfyrwyr sy'n gymwys ar gyfer yr Hawl i Ddysgu Gydol Oes allu gwneud cais o fis Ionawr 2027 ymlaen (yn amodol ar gadarnhad), ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2027.
Bydd yr Hawl i Ddysgu Gydol Oes yn ariannu blynyddoedd llawn o astudio ar gyrsiau sy'n cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan gyllid myfyrwyr addysg uwch, gan gynnwys:
- Graddau israddedig (e.e. BA (Anrh), BSc (Anrh), BEng, LLB)
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR)
- Graddau meistr integredig (e.e. MEng)
- Blynyddoedd sylfaen (pan fyddant yn rhan o gwrs gradd)
- Graddau sylfaen
- Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND)
Na chewch. Nid yw cyllid Hawl i Ddysgu Gydol Oes ar gael ar hyn o bryd ar gyfer modiwlau unigol sy'n cael eu hastudio yng Nghymru. Mae hyn yn berthnasol waeth a ddaw'r cyllid gan Cyllid Myfyrwyr Cymru, Student Finance England (SFE), Student Awards Agency Scotland (SAAS) neu Student Finance Northern Ireland (SFNI).
O dan yr Hawl i Ddysgu Gydol Oes, gall myfyrwyr cymwys gael mynediad at:
- Benthyciad ffioedd dysgu o hyd at £39,160 (yn seiliedig ar bedair blynedd o astudio ar gyfraddau ffioedd 2026–2027)
- Benthyciad cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw (ar gyfer cyrsiau sy'n cynnwys astudio wyneb yn wyneb).
Gallai cymorth ychwanegol fod ar gael ar gyfer:
- Myfyrwyr ag anableddau
- Costau gofal plant
- Costau teithio
Gallai cyllid ychwanegol fod ar gael hefyd ar gyfer pynciau blaenoriaeth penodol neu gyrsiau hirach (fel meddygaeth neu bensaernïaeth).
Os ydych yn preswylio yn Lloegr, fel arfer, ac yn cael eich ariannu gan Student Finance England, ac yn dechrau cwrs yng Nghymru neu ym Met Caerdydd unwaith y caiff Hawl i Ddysgu Gydol Oes ei gyflwyno:
- Byddwch yn cael eich ariannu o dan y system Hawl i Ddysgu Gydol Oes.
- Gall hyn effeithio ar eich hawl benthyciad gyffredinol a sut rydych chi'n ei ddefnyddio dros amser.
- Byddwch yn astudio gradd lawn (neu un o'r cyrsiau a restrwyd yn flaenorol), yn hytrach na modiwlau unigol.
Os ydych fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac yn cael eich ariannu gan Cyllid Myfyrwyr Cymru, ac yn dechrau cwrs yng Nghymru neu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd unwaith y caiff yr Hawl i Ddysgu Gydol Oes ei gyflwyno:
- Byddwch yn parhau i wneud cais drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.
- Bydd y trefniadau cyllid myfyrwyr presennol yn parhau ar waith.
Yn y rhan fwyaf o achosion, na chewch.
Mae eich corff cyllid myfyrwyr yn seiliedig ar ble rydych chi'n byw fel arfer ar ddechrau eich cwrs, ac fel arfer bydd yn parhau i fod yr un fath trwy gydol eich astudiaethau.
Ble gallaf gael cyngor pellach?
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y dolenni canlynol:
- Cyllid Myfyrwyr Cymru – ar gyfer myfyrwyr sy'n byw/â'u cartref yng Nghymru fel arfer - Cyllid Myfyrwyr Cymru
- Student Finance England – ar gyfer myfyrwyr sy'n byw/â'u cartref yn Lloegr fel arfer – Student Finance England
- Student Awards Agency Scotland (SAAS) – ar gyfer myfyrwyr sy'n byw/â'u cartref yn yr Alban - Student Awards Agency Scotland
- Student Finance Northern Ireland – ar gyfer myfyrwyr sy'n byw/â'u cartref yng Ngogledd Iwerddon - Student Finance Northern Ireland
- Tîm Cyngor Ariannol Met Caerdydd – moneyadvice@cardiffmet.ac.uk