Myfyrwyr Israddedig
Ffioedd Dysgu Israddedig
Mae ffioedd dysgu israddedig a TAR ar gyfer myfyrwyr cartref llawn amser ar gyfer 2026 wedi eu cadarnhau yn unol â rheoliad Llywodraeth Cymru.
Gweler y dabl ffioedd dysgu llawn a manylion cyrsiau gyda chostau ychwanegol.
I fod yn gymwys i gael Cymorth Ffioedd a Chynhaliaeth, cysylltwch â’r awdurdod perthnasol (gweler ‘Ble alla’ i ddarganfod mwy o wybodaeth a gwneud cais?’).
Ariannu’ch Ffordd Trwy’r Brifysgol
Mae mynd i’r brifysgol yn fuddsoddiad ariannol sylweddol, ond dylech gofio y bydd dal cymhwyster uwch fel gradd yn gwella’ch rhagolygon o gael swydd, gan ei gwneud hi’n haws dod o hyd i swydd foddhaus sy’n talu’n dda.
Yn ystod eich amser yn y brifysgol bydd gennych ddwy brif gost i’w thalu, eich ffioedd dysgu a chostau byw. Fel myfyriwr israddedig amser llawn, efallai y byddwch yn gymwys i gael pecyn o gymorth ariannol sy’n cynnwys:
- Benthyciad ffioedd dysgu – i dalu cost ffioedd eich cwrs.
- Benthyciad cynhaliaeth – i helpu gyda chostau byw ychwanegol fel llety, bwyd a llyfrau.
- Grant nad oes rhaid ei ad-dalu os ydych chi’n cwrdd â meini prawf arbennig (myfyrwyr Cymru yn unig).
Cyllid Myfyriwr
Gallwch gyfrifo faint y gallech fod â hawl iddo trwy ddefnyddio un o’r adnoddau cyfrifo cyllid myfyrwyr canlynol:
- Myfyrwyr o Gymru – Cyfrifo Cyllid
- Myfyrwyr o Loegr – Cyfrifo Cyllid
- Myfyrwyr o Ogledd Iwerddon – Cyfrifo Cyllid
- Myfyrwyr o’r Alban – Cyfrifo Cyllid
Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau
Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig ystod o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau sydd wedi’u cynllunio i helpu myfyrwyr i lwyddo.
Cynghori Ariannol
Mae ein hadran Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cymorth pe bai gennych unrhyw gwestiynau am gymorth posibl a allai fod ar gael ichi wrth i chi astudio. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau gwe neu e-bostiwch moneyadvice@cardiffmet.ac.uk.