Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bywiogi straeon; cyffroi cymeriadau a chynulleidfaoedd.
Bydd y radd hon yn rhoi'r sgiliau proffesiynol a'r profiadau gwerthfawr i'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant. Byddwch yn archwilio technegau digidol ac analog traddodiadol ac arbrofol, yn ehangu eich gwybodaeth, ac yn ymchwilio i gyd-destun hanesyddol, damcaniaethol a chymdeithasol eich pwnc. Byddwch yn meithrin llais ac arddull unigryw a grymus, gan ddefnyddio ystod eang o ddeunyddiau a meddalwedd o'r radd flaenaf o safon diwydiant i fireinio a meistroli eich crefft.
Cewch eich tywys gan dîm o academyddion sydd wedi ennill gwobrau BAFTA, ac ymgolli eich hun yng nghelfyddyd animeiddio trwy gwricwlwm cyfoethog sy'n cynnwys briffiau byw, darlithoedd deinamig, tiwtorialau difyr, seminarau sy'n ysgogi'r meddwl, a gweithdai ymarferol. Ar y cwrs hwn byddwch yn darganfod sylfaen animeiddio, dan arweiniad tîm o animeiddwyr proffesiynol a chynhyrchwyr medrus.
Mae ein hymrwymiad i'ch llwyddiant yn amlwg yn ein rhaglen, wrth inni eich paratoi ar gyfer gofynion y diwydiant. Mae eich taith fel animeiddiwr ym Met Caerdydd yn ymestyn y tu hwnt i'r ffiniau confensiynol, gan gynnwys y grefft o ysgrifennu sgriptiau, cydweithio ag actorion llais a phypedwyr medrus, a chyffro prosiectau byd go iawn a heriau cystadleuol, gan weithio gyda sefydliadau fel y GIG, Age Connects. , y Ganolfan Entrepreneuriaeth a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gydag un prosiect o'r fath yn ennill 'Animeiddiad Arbrofol Gorau' yng Ngŵyl Ffilm Hollywood 2019.
Byddwch yn dechrau’r cwrs drwy feithrin dealltwriaeth eang o’r broses animeiddio, wrth greu eich prosiectau cyntaf drwy ddefnyddio technegau digidol ac analog. Byddwch yn mynd â’ch ymarfer personol ymhellach – yn ymestyn eich gwybodaeth ac yn archwilio cyd-destun hanesyddol, damcaniaethol a chymdeithasol eich pwnc.
Byddwch yn treulio eich amser mewn stiwdios arbenigol, gan ddefnyddio cyfarpar o safon ddiwydiant er mwyn hogi eich sgiliau technegol mewn ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys:
- Elfennau sylfaenol animeiddio. Deall iaith symud drwy dechnegau cynhyrchu animeiddio amrywiol.
- Creu bwrdd stori a iaith ffilmiau ar gyfer animeiddio
- Bywluniadau
- Adrodd stori a chyfarwyddo
- Camera, goleuo a chyfansoddiad
- Cyfarwyddo celf; creu a dylunio cymeriadau a bydoedd
- Cymeriadu ac actio ar gyfer animeiddio
- Cyfryngau cymysg ac animeiddio arbrofol
- Archwilio llwyfannau, chwarae gemau, realaeth rithiol a gosodiadau newyd
- Technegau a phrosesau cynhyrchu traddodiadol a digidol; o ddatblygu syniad hyd at gyflawni
- Ymarfer proffesiynol a sgiliau busnes
Byddwch yn cael llawer o brofiadau gwerthfawr eraill hefyd – megis ymarferion ysgrifennu sgriptiau a chyfleoedd i gyfarwyddo actorion llais a phypedwyr.
Drwy ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a gweithdai, byddwch yn dod i ddeall yn drylwyr yr egwyddorion a’r technegau sy’n sail i animeiddio, gan ddysgu oddi wrth dîm o animeiddwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr gweithredol.
Blwyddyn Un
Pwnc: Trawsffurfio Symudiadau a Bywyd – 40 credyd
Yn eich tymor cyntaf bydd y pwyslais ar ymholi creadigol ac ar gaffael gwybodaeth, lle y byddwch yn archwilio hyd a lled ac amrywiaeth ymarfer animeiddio cyfoes, gan arbrofi gyda thechnegau, arfer egwyddorion animeiddio a datblygu sgiliau digidol. Byddwch yn darganfod cysyniadau allweddol yn iaith ffilm, strwythurau naratif a di-naratif, dylunio, theori symud a gwaith tîm.
Pwnc: Adrodd Storïau – 20 credyd
Bydd y modiwl Adrodd Storïau yn canolbwyntio’n benodol ar syniadaeth, datblygu naratif a chynhyrchu darn byr yn animeiddio cymeriadau. Daw cymeriadau a bydoedd a gafodd eu datblygu mewn modiwlau blaenorol yn fyw nawr wrth i chi gynhyrchu darn byr yn animeiddio cymeriadau. Bydd seminarau, tiwtorialau a gweithdai yn cyflwyno’r myfyrwyr i ystod o strategaethau naratif. Nod y modiwl hwn yw mireinio a chydlynu sgiliau animeiddio a dylunio y myfyrwyr fel y gallan nhw gyfleu syniadau a storïau i gynulleidfa.
Hanfodion Ymchwil - 20 credyd*
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau ymchwil academaidd craidd myfyrwyr gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau, gwerthuso hygrededd, a dadansoddi gwybodaeth. Bydd yn darparu'r sylfeini a fydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu hyder i gymryd rhan mewn disgwrs damcaniaethol a deialogau sy'n seiliedig ar syniadau a fydd yn ofynnol trwy gydol eu hastudiaethau israddedig.
Dealltwriaeth Ryngddisgyblaethol - 40 credyd
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion gweithio Rhyngddisgyblaethol: gweithio ar y cyd, meddwl a myfyrio'n feirniadol. Bydd prosiectau o fewn y modiwl yn eich herio i weithio gyda disgyblaeth arall i archwilio thema neu her gymdeithasol a diwylliannol.
Blwyddyn Dau
Pwnc: Cynhyrchu – 40 credyd
Byddwch yn datblygu eich sgiliau a chysyniadau o fewn technoleg ddigidol, gan adeiladu eich dealltwriaeth o’r broses animeiddio a therminoleg diwydiant. Cewch gyfleoedd i fagu profiad mewn diwydiant ac i wneud cais am friffiau byw gyda chleientiaid allanol. Caiff eich rhagdybiaethau eu herio drwy archwilio technegau a chysyniadau arbrofol a byddwch yn dod yn hyddysg yn defnyddio offer a phrosesau allweddol.
Heriau'r 21ain Ganrif - 40 credyd
Mae'r modiwl Heriau'r 21ain Ganrif yn adeiladu ar y cyflwyniad i ddatrys problemau rhyngddisgyblaethol a ddatblygwyd ar lefel 4 i barhau i fireinio, a dechrau cymhwyso, eich setiau sgiliau trwy brosiectau byd go iawn a briffiau byw. Bydd prosiectau'n mynd i'r afael â Heriau'r 21ain Ganrif i ddatblygu eich sgiliau arwain, cydweithio, llythrennedd/meddwl beirniadol yn y dyfodol.
Cyd-destunau Byd Go Iawn - 20 credyd
Mae'r modiwl Cyd-destunau Byd Go Iawn yn eich herio i gymhwyso'r ymwybyddiaeth leol a'r sgiliau meddwl am y dyfodol i ddefnyddio'ch ymarfer eich hun wrth greu neu hyrwyddo gwerth ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau allanol.
Cynnig Ymchwil - 20 credyd*
Mae'r Cynnig Ymchwil yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau ymchwil, atgyfnerthu eich profiad ymchwil a chyfeirio eich cyfraniad lefel 6 o amgylch ymholiad o'ch dewis sydd wedi'i ysbrydoli gan eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar lefel 4 a 5. Defnyddir y cynnig ymchwil hwn i barhau â'ch datblygiad personol a phroffesiynol ar lefel 6 lle byddwch yn nodi llwybr ar gyfer eich ymholiad eich hun.
Blwyddyn Tri
Pwnc: Prif Brosiect – 60 credyd
Bydd y lefel hon yn canolbwyntio ar ddatblygiad creadigol myfyrwyr unigol, gan eich helpu i benderfynu pa lwybr y byddwch am ei ddilyn yn y dyfodol. Byddwch yn arbrofi gyda thechnegau, offer a strwythurau – gan gyfnerthu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa broffesiynol neu i ymgymryd ag astudio pellach. A byddwch yn dod â phopeth at ei gilydd i gynhyrchu prosiect wedi’i animeiddio a fydd yn adlewyrchu eich nodau dysgu a phroffesiynol.
Profiad Ymarferol - 20 credyd
Nod y modiwl yw cefnogi eich parodrwydd i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol unigryw. Bydd yn ymgorffori priodoleddau sy'n adlewyrchu gofynion ymarfer yn y byd go iawn sy'n cyd-fynd â'ch disgyblaeth arbenigol.
Cewch gyfle i fyfyrio ar sut mae eich profiadau dros y 3 blynedd diwethaf wedi caniatáu ichi ddatblygu'n weithiwr proffesiynol wrth baratoi ar gyfer gwaith lefel graddedig, astudio parhaus, ymchwil, a mentrau entrepreneuraidd.
Cyfraniad - 40 credyd*
Mae eich ymarfer yn seiliedig ar eich gwybodaeth. Cewch gyfleu i arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad ymchwil terfynol, lle byddwch yn archwilio syniadau ar ffurf ysgrifenedig ac ymarferol.
*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae'r holl raglenni o fewn YGDC yn cael eu cyflwyno trwy ddull dysgu yn y stiwdio.
Mae dysgu yn y stiwdio yn darparu amgylchedd dysgu dilys sy'n meithrin adeiladu cymunedol ar lefel carfan, dysgu gan gyfoedion tra'n ddilys i ofynion y disgyblaethau unigol. Mae pob gofod stiwdio wedi'i deilwra i anghenion y disgyblaethau y bydd myfyrwyr yn cael amrywiaeth o gyfleoedd dysgu oddi mewn iddynt gan gynnwys:
Seminarau grŵp, beirniadaethau grŵp a chyflwyniadau, tiwtorialau un i un, gweithdai technegol, dysgu cyfoedion, dysgu annibynnol dan arweiniad.
Mae myfyrwyr yn cymryd arweiniad arwyddocaol yn eu hastudiaethau, yn datblygu eu ffocws ymchwil a'u sylfaen arbenigedd eu hunain ac yn cymryd rhan weithredol yn y broses asesu a'r modd y caiff eu harbenigedd unigol ei fynegi a'i brofi.
Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi wrth iddynt weithio'n annibynnol fel eu bod yn gallu cynhyrchu dysgu arwyddocaol ac unigryw trwy ymarfer trwyadl, hunangyfeiriedig a chydweithredol.
Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:
Sgiliau:
Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.
Cyd-Destun:
Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.
Syniadau:
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol. Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.
Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.
Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.
Mae graddedigion a fu ar y rhaglen mewn sefyllfa dda i gael gweithio yn animeiddwyr annibynnol, i ymuno â chwmnïau’r cyfryngau a chwmnïau dylunio neu ag asiantaethau hysbysebu, neu i gael eu cyflogi yn y diwydiant ffilm, teledu neu ddarlledu.
Yn ystod y cwrs bydd cyfle i ymgymryd â briffiau byw a phrofiad gwaith. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau yn ogystal â chael dod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol ym maes animeiddio drwy anerchiadau diwydiannol a mentora. Cewch gynnig cymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.
Bydd rhai graddedigion yn dod yn athrawon drwy gymryd TAR. Bydd rhai graddedigion yn dewis mynd â’u hastudiaethau ymhellach drwy astudio yn yr Ysgol Gelf a Dylunio ar gyfer cymhwyster Meistr ac mae cyfleoedd i gael mynd â hyn ymhellach eto, i ymchwil ar gyfer PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf neu Ddylunio.
Cynigion Nodweddiadol
- Pwyntiau tariff: 96-120
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
- Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
- Gofynion eraill: Adolygiad portffolio llwyddiannus. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein tudalen Cyngor i Ymgeiswyr.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Beth sydd wedi’i gynnwys?
Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau arbenigol ar gyfer ein rhaglenni creadigol, gyda stiwdios pwrpasol, gweithdai pwrpasol, ac offer technegol helaeth. Byddwch yn cael mynediad i’r gweithdai hyn yn dilyn sesiynau sefydlu llwyddiannus, a chewch eich cefnogi gan dîm technegol medrus iawn.
Ni chodir ffi stiwdio arnoch a chewch yr holl ddeunyddiau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddysgu’r prosesau y mae eich cwrs yn gofyn amdanynt.
Mae Met Caerdydd yn Gampws Creadigol Adobe®, ac mae gan fyfyrwyr YGDC fynediad i’r Adobe® Creative Cloud llawn heb unrhyw gost ychwanegol.
Rydym yn ymfalchïo yn arwain y ffordd mewn arferion stiwdio a gweithdy cynaliadwy. Boed hynny’n llythrennedd carbon, ailddefnyddio, lleihau gwastraff a gwyddor deunyddiau, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio deunyddiau’n ymwybodol wrth i chi ddatblygu ffordd eich hun o weithio. Bydd y canlynol hefyd yn rhan ohono:
- Stiwdios pwrpasol ar gyfer gwaith annibynnol neu astudiaeth grŵp
- Teithiau astudio yn y DU sy’n ganolog i’ch profiad dysgu
- Cyfleusterau digidol creadigol wedi’u teilwra i’ch cwrs, fel meddalwedd benodol, cyfleusterau argraffu neu offer delweddu digidol
- Cyfleusterau TG a llyfrgell, sy’n cynnwys ystod eang o lyfrau artistiaid, cyhoeddiadau, cyfnodolion, cylchgronau ac adnoddau digidol i gefnogi eich dysgu a’ch ymchwil
Beth yw cost ychwanegol?
Wrth ddatblygu prosiectau unigol, byddwch yn dewis ac yn darparu eich deunyddiau eich hun, y gellir prynu llawer ohonynt am bris cost ar y campws. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i ddeunyddiau ychwanegol yn dibynnu ar eich uchelgeisiau creadigol a’ch cyllideb, ac yn unol â’n harferion cynaliadwy a diogel.
Mae’n bosib y bydd angen offer penodol i’r cwrs arnoch, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich ymarfer. Anfonir pecyn ymuno atoch cyn i chi ddechrau, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am unrhyw offer a argymhellir gan gynnwys cyngor ar fanylebau gliniaduron. Rydym yn argymell nad ydych yn gwneud pryniannau mawr cyn derbyn y pecyn ymuno neu siarad ag aelod o staff.
Rhai enghreifftiau o gostau ychwanegol:
- Bydd gliniadur neu dabled yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ganiatáu iddynt brynu apiau a meddalwedd
- Teithiau astudio a rhaglenni cyfnewid dewisol yn y DU neu dramor
- Lleoliadau a chostau cysylltiedig fel teithio a llety
- Mynediad dewisol i FabLab Caerdydd sy’n destun taliadau am ddefnyddio offer a deunyddiau
- Costau deunyddiau wrth ddewis defnyddio offer arbenigol yn annibynnol, fel argraffu ffabrig digidol, argraffu 3D a thorri laser
- Costau eraill fel argraffu, copïo a phrynu gwerslyfrau
Am wybodaeth gyfredol am ffioedd dysgu a chymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch ym Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â'r Tiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Animeiddio, Owen Stickler.
- E-bost: ostickler@cardiffmet.ac.uk
- Ffôn: 029 2020 5554
-
Cod UCAS
6HJ3
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.