Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ailfodelu, ailgynllunio, ac ailddyfeisio gofodau'r dyfodol.
Mae Penseiri Mewnol yn siapio'r gofodau rydym yn byw ynddynt, gan weithio i ddylunio amgylcheddau ymarferol, hygyrch, ysgogol a chynaliadwy. Drwy ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar bobl o ddylunio gofodau, byddwch yn gweithio i wella ansawdd, llesinat ac anghenion y rhai sy’n byw ynddynt ac yn rhyngweithio ynddynt.
Mae’r rhaglen yn eistedd o fewn yr adran Pensaernïaeth ac Amgylcheddau Cynlluniedig, ac yn elwa o gydweithio parhaus â Phenseiri, Dylunwyr Mewnol a Thechnolegwyr Dylunio Pensaernïol. Mae Pensaernïaeth Fewnol yn elwa o ymchwil flaengar ac arfer cymhwysol mewn dylunio cynaliadwy a chynhwysol.
Byddwch yn canolbwyntio ar addasu, ailddefnyddio, ailfodelu ac ychwanegu at ofodau sy'n bodoli eisoes. Gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, byddwch yn archwilio dulliau o greu datrysiadau dylunio parhaol a thros dro. Bydd cyfleusterau cynhwysfawr yn sicrhau eich bod yn datblygu iaith bensaernïol greadigol a thechnegol gyfoethog, yn amrywio o fraslunio i efelychiadau ymgolli ddigidol llawn data.
Bydd eich arfer yn y stiwdio yn cynnwys theori feirniadol, archwilio, ac amrywiaeth o friffiau. Byddwch yn gweithio gyda diwydiant a’r sector ehangach i archwilio’r perthnasoedd rhwng lleoedd a gofodau, a gwerthoedd y cymunedau sy’n eu defnyddio. Byddwch yn ymchwilio i ddefnydd cyfrifol ac ystyriol o ddeunyddiau, strwythurau a gofodau, i gynnig atebion arloesol a soffistigedig i broblemau'r dyfodol. Fel rhan o'r radd hon, byddwch yn ymgymryd â phrofiadau dysgu rhyngddisgyblaethol sydd wedi'u cynllunio i'ch siapio i fod yn raddedig addasadwy yn yr 21ain ganrif.
Blwyddyn Un
Stiwdio Dylunio Mewnol 1.1 - 40 credyd
Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth sylfaenol am y cysyniadau a'r egwyddorion sylfaenol sydd eu hangen i greu cynigion dylunio creadigol ac archwiliadol. Bydd myfyrwyr yn dysgu lleoli eu hymarfer creadigol o fewn tiriogaeth ehangach y ddisgyblaeth sy'n rhychwantu ailddefnyddio mewn modd addasol, adfywio, gofodau a lleoedd.
Trwy gydol y modiwl bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth ymarferol o brosesau dylunio priodol, y dadansoddiad beirniadol o'r ailddefnyddio mannau / safleoedd mewn modd addasol, cyfrifol a chynaliadwy yn ogystal a'r sgiliau cyfathrebu gweledol a llafar a ddefnyddir i gyflwyno cynigion dylunio.
Stiwdio Dylunio Mewnol 1.2 - 20 credyd
Mae'r modiwl hwn yn atgyfnerthu'r dysgu ar draws y modiwl stiwdio cyntaf ac yn dechrau diffinio
hunaniaeth myfyrwyr fel dylunydd mewnol neu bensaer mewnol. Cefnogir myfyrwyr i gymhwyso eu
gwybodaeth trwy archwilio, gweithredu a myfyrio beirniadol fel rhan o gynnig dylunio dan arweiniad y
myfyrwyr.
Bydd y prosiect hwn dan arweiniad y myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr yn nisgyblaethau
Dylunio Mewnol a Phensaernïaeth Fewnol yn y drefn honno.
Hanfodion Ymchwil - 20 credyd*
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau ymchwil academaidd craidd myfyrwyr gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau, gwerthuso hygrededd, a dadansoddi gwybodaeth. Bydd yn darparu'r sylfeini a fydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu hyder i gymryd rhan mewn trafodaethau damcaniaethol a deialogau sy'n seiliedig ar syniadau a fydd yn ofynnol trwy gydol eu hastudiaethau israddedig.
Dealltwriaeth Ryngddisgyblaethol - 40 credyd
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion gweithio Rhyngddisgyblaethol: gweithio ar y cyd, meddwl a myfyrio yn feirniadol. Bydd prosiectau o fewn y modiwl yn eich herio i weithio gyda disgyblaeth arall i archwilio thema neu her gymdeithasol a diwylliannol.
Blwyddyn Dau
Stiwdio Pensaernïaeth Fewnol 2 - 40 credyd
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar roi dealltwriaeth drylwyr i fyfyrwyr o lwybrau posibl ym maes Pensaernïaeth Fewnol. Ei nod yw hybu hyder wrth annog y defnydd o ddulliau unigryw o fewn y ddisgyblaeth. Y nod yw meithrin agwedd broffesiynol cryf, gan fynd i'r afael â heriau yn y diwydiannau creadigol. Drwy gydol y modiwl, mae myfyrwyr yn datblygu hyder wrth archwilio eu hunaniaeth greadigol o fewn cyd-destun Pensaernïaeth Fewnol, gan lywio cyfyngiadau ymarferol yn y maes masnachol.
Heriau'r 21ain Ganrif- 40 credyd
Mae modiwl Heriau'r 21ain Ganrif yn adeiladu ar y cyflwyniad i ddatrys problemau Rhyngddisgyblaethol a ddatblygwyd ar lefel 4 i barhau i fireinio, a dechrau cymhwyso eich setiau sgiliau trwy brosiectau byd go iawn a briffiau byw.
Bydd prosiectau'n mynd i'r afael â Heriau'r 21ain Ganrif i ddatblygu eich sgiliau arwain, cydweithio, llythrennedd/meddwl beirniadol yn y dyfodol.
Cyd-destunau byd go iawn - 20 credyd
Mae modiwl cyd-destunau byd go iawn yn eich herio i gymhwyso ymwybyddiaeth leol a sgiliau meddwl am y dyfodol i ddefnyddio'ch ymarfer eich hun i greu neu hyrwyddo gwerth ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau allanol.
Cynnig Ymchwil – 20 credyd
Mae’r Cynnig Ymchwil yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau ymchwil, atgyfnerthu eich profiad ymchwil a llywio eich cyfraniad lefel 6 o amgylch ymholiad o’ch dewis sydd wedi’i ysbrydoli gan eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar lefel 4 a 5.
Defnyddir y cynnig ymchwil hwn i barhau â'ch datblygiad personol a phroffesiynol ar lefel 6 lle byddwch yn nodi llwybr ar gyfer eich ymholiad eich hun.
Blwyddyn Tri
Prif Brosiect - 60 credyd
Nod y modiwl ‘Prif Brosiect’ 60 credyd hwn yw eich annog i adeiladu lefel uwch o arbenigedd deallusol a galwedigaeth eich ymarfer, tra’n eich gosod ar flaen y gad mewn disgyblaeth Pensaernïaeth Fewnol sy’n archwilio’n eang i ailddefnyddio, ailfodelu ac ehangu addasol o leoedd sydd eisoes yn bodoli. Mae'n rhoi cyfle i chi wella'ch ymarfer yn y stiwdio, tra'n profi eich gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau unigol mewn ymchwil ac ymarfer Pensaernïaeth Fewnol, mewn ymateb i gysyniad dylunio a briff yr ydych chi'n eu gosod i chi'ch hun.
Wrth lywio'ch prosiect trwy'r camau dylunio o'r cysyniad, y cynllun, i'r canlyniadau cyfathrebu, byddwch yn deall yn well rôl y Pensaer Mewnol proffesiynol a'u cyfraniad i’r gymdeithas yn y cyd-destun ehangach; cynhyrchu manylion adeiladu tectonig, gwyddor defnyddiau a gwybodaeth ffiseg adeiladu; deall fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol; a'ch paratoi ar gyfer trylwyredd deallusol a strategol ymarfer proffesiynol.
Darganfod eich Lle- 20 credyd
Nod y modiwl yw cefnogi eich parodrwydd i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol unigryw mewn Pensaernïaeth Fewnol. Bydd yn ymgorffori priodoleddau sy'n adlewyrchu gofynion ymarfer yn y byd go iawn sy'n cyd-fynd â'ch disgyblaeth arbenigol.
Byddwch yn cael y cyfle i fyfyrio ar sut mae eich profiadau dros y 3 blynedd diwethaf wedi caniatáu ichi osod eich hun fel gweithiwr proffesiynol wrth baratoi ar gyfer gwaith lefel graddedig, astudio parhaus, ymchwil, a mentrau entrepreneuraidd.
Cyfraniad - 40 credyd
Mae eich ymarfer yn seiliedig ar eich gwybodaeth. Arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad ymchwil terfynol, lle byddwch yn archwilio syniadau ar ffurf ysgrifenedig ac ymarferol.
*modiwlau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae'r holl raglenni o fewn YGDC yn cael eu cyflwyno trwy ddull dysgu yn y stiwdio.
Mae dysgu yn y stiwdio yn darparu amgylchedd dysgu dilys sy'n meithrin adeiladu cymuned ar lefel carfan, dysgu gan gymheiriaid tra'n ddilys i ofynion y disgyblaethau unigol. Mae pob gofod stiwdio yn bwrpasol i anghenion y disgyblaethau lle bydd myfyrwyr yn derbyn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu, gan gynnwys:
Seminarau Grŵp, Beirniadaethau mewn Grwpiau a Chyflwyniadau, Tiwtorialau Un i Un, Gweithdai Technegol, Dysgu gan Gymheiriaid, Dysgu Annibynnol.
Mae myfyrwyr yn arwain eu hastudiaethau, yn datblygu eu ffocws ymchwil a'u sylfaen arbenigedd eu hunain ac yn ymgysylltu'n weithredol â'r broses asesu a'r modd y caiff eu harbenigedd unigol ei fynegi a'i brofi.
Caiff myfyrwyr eu cefnogi gan eu bod yn gweithio'n annibynnol fel eu bod yn gallu cynhyrchu dysgu arwyddocaol ac unigryw drwy ymarfer trylwyr, hunan-gyfarwyddedig a chydweithredol.
Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:
Sgiliau:
Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.
Cyd-destun:
Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.
Syniadau:
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol. Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.
Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.
Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.
Ar ôl graddio gallech ddilyn gyrfa fel Pensaer Mewnol gan greu profiadau cryf a chofiadwy yn y sector preswyl, masnachol, cyhoeddus neu breifat, fel mannau byw, bariau, bwytai, mannau arddangos, neu weithio o fewn dyfodol dylunio cynaliadwy. Mae opsiwn hefyd i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig pellach yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd.
Yn ystod y cwrs, bydd cyfle i ymgymryd â briffiau byw a phrofiad gwaith. Bydd hyn yn cynnwys meithrin cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau yn ogystal ag amlygiad i weithwyr proffesiynol trwy sgyrsiau a mentora diwydiant. Byddwch yn cael cynnig cymorth i ffurfio eich busnes eich hun os byddwch yn dewis gwneud hynny.
Mae rhai graddedigion yn dod yn athrawon trwy gymryd TAR, neu'n dewis parhau â'u hastudiaethau gydag YGDC trwy ddilyn cymhwyster lefel Meistr, neu i ymchwil gyda PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf neu Ddylunio.
Cynigion Nodweddiadol
Pwyntiau tariff: 96-120
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
Gofynion eraill: Adolygiad portffolio llwyddiannus. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein tudalen Cyngor i Ymgeiswyr.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Beth sydd wedi’i gynnwys?
Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau arbenigol ar gyfer ein rhaglenni creadigol, gyda stiwdios pwrpasol, gweithdai pwrpasol, ac offer technegol helaeth. Byddwch yn cael mynediad i’r gweithdai hyn yn dilyn sesiynau sefydlu llwyddiannus, a chewch eich cefnogi gan dîm technegol medrus iawn.
Ni chodir ffi stiwdio arnoch a chewch yr holl ddeunyddiau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddysgu’r prosesau y mae eich cwrs yn gofyn amdanynt.
Mae Met Caerdydd yn Gampws Creadigol Adobe®, ac mae gan fyfyrwyr YGDC fynediad i’r Adobe® Creative Cloud llawn heb unrhyw gost ychwanegol.
Rydym yn ymfalchïo yn arwain y ffordd mewn arferion stiwdio a gweithdy cynaliadwy. Boed hynny’n llythrennedd carbon, ailddefnyddio, lleihau gwastraff a gwyddor deunyddiau, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio deunyddiau’n ymwybodol wrth i chi ddatblygu ffordd eich hun o weithio. Bydd y canlynol hefyd yn rhan ohono:
- Stiwdios pwrpasol ar gyfer gwaith annibynnol neu astudiaeth grŵp
- Teithiau astudio yn y DU sy’n ganolog i’ch profiad dysgu
- Cyfleusterau digidol creadigol wedi’u teilwra i’ch cwrs, fel meddalwedd benodol, cyfleusterau argraffu neu offer delweddu digidol
- Cyfleusterau TG a llyfrgell, sy’n cynnwys ystod eang o lyfrau artistiaid, cyhoeddiadau, cyfnodolion, cylchgronau ac adnoddau digidol i gefnogi eich dysgu a’ch ymchwil
Beth yw cost ychwanegol?
Wrth ddatblygu prosiectau unigol, byddwch yn dewis ac yn darparu eich deunyddiau eich hun, y gellir prynu llawer ohonynt am bris cost ar y campws. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i ddeunyddiau ychwanegol yn dibynnu ar eich uchelgeisiau creadigol a’ch cyllideb, ac yn unol â’n harferion cynaliadwy a diogel.
Mae’n bosib y bydd angen offer penodol i’r cwrs arnoch, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich ymarfer. Anfonir pecyn ymuno atoch cyn i chi ddechrau, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am unrhyw offer a argymhellir gan gynnwys cyngor ar fanylebau gliniaduron. Rydym yn argymell nad ydych yn gwneud pryniannau mawr cyn derbyn y pecyn ymuno neu siarad ag aelod o staff.
Rhai enghreifftiau o gostau ychwanegol:
- Bydd gliniadur neu dabled yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ganiatáu iddynt brynu apiau a meddalwedd
- Teithiau astudio a rhaglenni cyfnewid dewisol yn y DU neu dramor
- Lleoliadau a chostau cysylltiedig fel teithio a llety
- Mynediad dewisol i FabLab Caerdydd sy’n destun taliadau am ddefnyddio offer a deunyddiau
- Costau deunyddiau wrth ddewis defnyddio offer arbenigol yn annibynnol, fel argraffu ffabrig digidol, argraffu 3D a thorri laser
- Costau eraill fel argraffu, copïo a phrynu gwerslyfrau
Am wybodaeth gyfredol am ffioedd dysgu a chymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch ym Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Carlo Convertini, CCConvertini@cardiffmet.ac.uk.
-
Cod UCAS
K561
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
-
Cychwyn
Derbyniadau ym mis Medi ac Ionawr ar gael
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.