Skip to content

Bancio a Chyllid - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Dewch i ddarganfod cyfoeth o gyfleoedd a buddsoddi yn eich dyfodol.

Dewch i weld sut mae sefydliadau ariannol yn gweithredu a’u heffaith ar economi’r byd. Dysgwch gysyniadau bancio a chyllid allweddol wrth ddarganfod sut mae technoleg wedi trawsnewid y diwydiant.

Byddwch yn defnyddio offer arloesol a sgiliau dadansoddi i fynd i’r afael â heriau cymhleth gyda mewnwelediad strategol. Drwy brofiad ymarferol gyda mynediad o bell i feddalwedd orau’r diwydiant, byddwch yn dadansoddi data ariannol y byd go iawn ac yn meistroli’r sgiliau i fuddsoddi, masnachu a rheoli risg yn hyderus.

Manteisiwch ar fynediad llawn i’r Financial Times ar-lein, un o adnoddau ariannol mwyaf dibynadwy’r byd, i’ch helpu i ddeall yr amgylchedd economaidd ehangach.

Byddwch yn cael persbectif bydeang ar farchnadoedd ariannol, yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ddadansoddiadau arbenigwyr ac yn deall sut mae digwyddiadau rhyngwladol yn siapio economïau a diwydiannau.

Dysgwch gan ein darlithwyr ariannol arbenigol yn Ysgol Reoli Caerdydd, sydd nid yn unig yn feddylwyr academaidd ac yn ymchwilwyr gweithredol, ond hefyd yn weithwyr proffesiynol sy’n rhannu eu profiad eu hunain o’r diwydiant. Byddwch hefyd yn ennill profiad gwerthfawr yn y byd go iawn drwy fodiwl ym mlwyddyn dau a’r opsiwn o flwyddyn mewn diwydiant ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn yn llwyddiannus.

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Blwyddyn Un (Lefel 4)

Yn eich blwyddyn gyntaf, mae pob un o'r chwe modiwl (120 credyd) yn orfodol ac wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad cadarn i chi i Fancio a Chyllid.

Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i wasanaethau ariannol byd-eang a micro-economeg a macro-economeg, yn ogystal â chael eich arfogi â sgiliau meintiol ac academaidd i lwyddo yn eich astudiaethau a'ch gyrfa yn y dyfodol.

Addysgir yr holl fodiwlau yn Saesneg ac mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg sy’n cyfateb i nifer o fodiwlau Lefel 4, 5 a 6. Nodir y rhain isod gyda seren (*).

Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un)

  • Dulliau Meintiol ar gyfer Dadansoddi Data
  • Gwasanaethau Ariannol Byd-eang*
  • Yr Economi – Microeconomeg
  • Yr Economi – Macroeconomeg
  • Cyfrifyddu Ariannol a Digidol
  • Rheoli Arian yn Gynaliadwy*

 

Blwyddyn Dau (Lefel 5)

Mae pum modiwl (100 credyd) yn orfodol, a byddwch yn dewis un modiwl dewisol (20 credyd).

Byddwch yn datblygu eich astudiaeth o ddulliau meintiol ac yn dysgu egwyddorion bancio. Byddwch hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth o'r datblygiad diweddar ym myd y diwydiant bancio ac ariannol ac yn ymgymryd â modiwl profiad neu gyfleoedd gwirfoddoli.

Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un)

  • Dulliau Meintiol Canolradd
  • Arian a Marchnadoedd
  • Cyfrifo ar gyfer Rheolwyr Cyfrifol*
  • Egwyddorion Bancio
  • Gwaith trwy Brofiad neu Gyfleoedd Gwirfoddoli*

Dewiswch UN modiwl dewisol (20 credyd yr un)

  • Macroeconomeg Canolradd
  • Cyllid Cyhoeddus
  • Trethiant

 

Blwyddyn mewn diwydiant

Mae gennych yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn diwydiant ar leoliad gwaith ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn o astudio yn llwyddiannus. Mae gennym dîm lleoliad gwaith pwrpasol i'ch cefnogi i sicrhau lleoliad. Gall lleoliad blwyddyn o hyd roi hwb i'ch rhagolygon gyrfa a rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.

 

Blwyddyn Tri (Lefel 6)

Yn eich blwyddyn olaf, mae pump modiwl (100 credyd) yn orfodol, a byddwch yn dewis un modiwl dewisol (20 credyd).

Mae'r flwyddyn olaf yn adeiladu ar eich gwybodaeth a sgiliau ym maes cyllid ac yn archwilio meysydd pwysig o Fancio a Chyllid.

Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un)

  • Rheoli Buddsoddi
  • Marchnadoedd Cyfalaf a Deilliadau
  • Cyllid Cyfoes*
  • Cynllunio Ariannol Personol
  • Rheoleiddio Gwasanaethau Ariannol

Dewiswch UN modiwl dewisol (20 credyd yr un)

  • Macroeconomeg: Theori a Chymhwysiad
  • Profiad Gwaith Diwydiannol^
  • Economeg Polisi Cyhoeddus
  • Trethi Uwch

 

Bydd modiwlau dewisol ar gael yn amodol ar alw ac argaeledd.

^ Os ydych yn cymryd lleoliad gwaith blwyddyn o hyd yn y diwydiant rhwng blwyddyn dau a thri, mae gennych yr opsiwn i ddewis 'Profiad Gwaith yn y Diwydiant' fel eich modiwl dewisol. Os na, dewiswch fodiwl dewisol arall.

Anogir dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol, astudiaethau achos, prosiectau, tiwtorialau, ymarferion ymarferol, wedi'u hategu gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol, darlithoedd gan arbenigwyr busnes, fideos a meddalwedd gyfrifiadurol. Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.

Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.

Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.

Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.

Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o'r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.

Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:

  • Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
  • Cynnig cymorth ychwanegol i wella gwybodaeth gefndir.

Mae'r strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio er mwyn sicrhau'r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a maes pwnc penodol. Bydd hyn yn gyfuniad o arholiadau ffurfiol, aseiniadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid a lleoliadau seiliedig ar waith. Felly, yn ogystal ag arholiadau ac asesiadau ffurfiol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, byddwch yn cael eich asesu'n barhaus ac yn cael adborth ar eich cynnydd a'ch datblygiad drwy gydol y flwyddyn h.y. drwy asesiad ffurfiannol a chrynodol. Asesir llawer o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ymarferol ac arholiadau ysgrifenedig nas gwelir ar ddiwedd y tymor neu'r flwyddyn.

Prif nod y rhaglen radd hon yw datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o gysyniadau allweddol bancio a chyllid. Bydd yn arddangos effaith a phwysigrwydd ehangach y sector bancio i economi'r byd.

Bydd graddedigion yn gweld bod ganddynt bob math o gyfleoedd gyrfa yn y sector bancio a chyllid, yn ogystal â'r rhan fwyaf o sectorau diwydiannol eraill (cyhoeddus a phreifat), gan gynnwys y sector dadansoddi credyd, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, dadansoddi risg a chyfleoedd buddsoddi sefydliadol.

Yn ogystal â chyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr trwy fodiwl gorfodol yn yr ail flwyddyn, rydym hefyd yn cynnig blwyddyn mewn diwydiant rhwng blwyddyn dau a'r flwyddyn olaf i hybu eich cyflogadwyedd.​

Byddwch yn cael profiad byd go iawn fel rhan o'ch astudiaeth trwy brofiad gwaith gorfodol, ynghyd â lleoliad blwyddyn rhyngosod ac interniaethau diwydiannol dewisol.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen radd hon yn llwyddiannus, mae rhagor o opsiynau astudio ôl-raddedig a addysgir ym meysydd Cyfrifeg, Bancio, Economeg a Chyllid yma ym Met Caerdydd hefyd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Dr Surraya Rowe.

  • Cod UCAS

    N310 (gradd 3 blynedd), N31F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Reoli Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
    5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

A person points to a large computer monitor showing financial charts. A person points to a large computer monitor showing financial charts.

Astudio Bancio a Chyllid

Profiad Ymarferol

Gallwch fanteisio ar fynediad o bell i feddalwedd orau’r diwydiant i ddadansoddi data ariannol y byd go iawn i ennill profiad ymarferol cyn i chi hyd yn oed raddio.

01 - 04
Two people sit next to each other. On the table in front of them is a laptop computer. Two people sit next to each other. On the table in front of them is a laptop computer.

Astudio Bancio a Chyllid

Blwyddyn Ddewisol mewn Diwydiant

Mae gennych yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn diwydiant ar leoliad gwaith ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn o astudio yn llwyddiannus. Gall lleoliad blwyddyn o hyd roi hwb i’ch rhagolygon gyrfa a rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.

01 - 04
Three people sit alongside each other at a row of desks. Each has a laptop computer in front of them. Three people sit alongside each other at a row of desks. Each has a laptop computer in front of them.

Astudio Bancio a Chyllid

Cysylltiadau yn y Diwydiant

Manteisiwch ar ein cysylltiadau eang yn y diwydiant drwy ddarlithoedd gwadd dan arweiniad arbenigwyr, teithiau maes a hyd yn oed y cyfle i astudio dramor. Byddwch yn graddio gyda’r profiad ymarferol, y sgiliau datrys problemau a’r sgiliau digidol i lansio gyrfa lwyddiannus.

01 - 04
A student walks through the bottom floor of the Cardiff School of Management A student walks through the bottom floor of the Cardiff School of Management

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Ysgol Reoli Caerdydd

Mae ein hadeilad modern Ysgol Reoli Caerdydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli arweinwyr busnes y dyfodol wrth ddarparu cymorth eithriadol.

01 - 04