Skip to content

Cyfrifiadureg a Gwyddor Data - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Os oes gennych chi feddylfryd dadansoddol, yn hoffi meddwl y tu allan i’r bocs a mwynhau datrys problemau, efallai mai gyrfa mewn Cyfrifiadureg a Gwyddor Data fyddai orau i chi. Mae data a gynhyrchir gan fodau dynol a pheiriannau yn trawsnewid ein cymdeithas, economeg a gwleidyddiaeth. Mae’r gallu i adnabod patrymau a thynnu mewnwelediadau o ddata cymhleth yn rhoi’r grymi sefydliadau ragweld y dyfodol a gwneud penderfyniadau deallus sy’n mynd i’r afael â phroblemau a’u datrys yn gyflym. Nid yw’n syndod bod Gwyddor Data yn faes sydd ar dwf ac yn dwyn elw.

Bydd ein gradd Cyfrifiadureg a Gwyddor Data yn eich dysgu sut i wneud synnwyr o’r setiau mawr hyn o ddata – gan nodi’r hyn sydd ei angen, dadansoddi a phrosesu’r data, a’i wneud yn hawdd ei ddarllen a’i ddeall. Wedi’i llywio gan anghenion y diwydiant, bydd y radd yn eich arfogi â’r sgiliau y mae galw amdanynt i ddylunio a defnyddio systemau gwyddor data a defnyddio offer a thechnegau o safon diwydiant i fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn. Mae hyn yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau megis gofal iechyd, cyllid, manwerthu ac e-fasnach, trafnidiaeth a logisteg, ynni a chyfleustodau, marchnata cyfryngau cymdeithasol a gwyddorau amgylcheddol.

Mae’r radd hon wedi’i hachredu gan BCS, Y Sefydliad Siartredig TG. Mae achrediad yn arwydd o sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a osodwyd gan BCS. Mae gradd achrededig yn rhoi’r hawl i chi gael aelodaeth broffesiynol o BCS, sy’n rhan bwysig o’r meini prawf ar gyfer cyflawni statws Proffesiynol TG Siartredig (CITP) drwy’r Sefydliad. Mae rhai cyflogwyr yn ffafrio recriwtio o raddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.

Wedi'i achredu gan

The Chartered Institute for IT Accredited Degree Logo

BCS, Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG

01 - 04

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Gradd

Mae’r rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol, gydag ystod o opsiynau yn y flwyddyn olaf i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.

Mae gan fyfyrwyr hefyd yr opsiwn i gwblhau lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant rhwng Blwyddyn 2 a 3.

Mae pob modiwl yn 20 credyd, oni nodir yn wahanol.

Blwyddyn 1:

  • Meddwl Cyfrifiadurol
  • Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
  • Egwyddorion Rhaglennu
  • Technoleg a Chymdeithas
  • Cyflwyniad i Ddadansoddeg Data
  • Explore

 

Blwyddyn 2:

  • Rheoli Data a Gwybodaeth
  • Dadansoddi Data
  • Hanfodion Blockchain
  • Delweddu a Naratifau Data
  • Expand
  • Prosiect Cydweithredol

 

Blwyddyn 3:

  • Delweddu Data Gramadeg ac Idiomau
  • Technoleg Broffesiynol, Gynaliadwy a Moesegol
  • Dadansoddeg Busnes a Deallusrwydd
  • Prosiect Datblygu (40 credyd)

Modiwlau dewisol (dewiswch un):

  • Profiad Gwaith Diwydiannol
  • Deallusrwydd Cyfrifiadurol

Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.

Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.

Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol.

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Bydd y cwrs yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i raddedigion ddeall, cymhwyso a gwerthuso’n feirniadol egwyddorion sylfaenol Cyfrifiadura a Gwyddor Data. Yn ogystal, bydd graddedigion hefyd yn meddu ar y sgiliau i ddylunio a defnyddio systemau Gwyddor Data a defnyddio offer a thechnegau o safon diwydiant wrth eu gweithredu.

Gellir cael profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaethau trwy gwblhau lleoliad blwyddyn rhyngosod / interniaeth ddiwydiannol ddewisol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.

Bydd graddedigion wedi’u harfogi’n fedrus i ddilyn gyrfa hynod broffidiol, ac mae yna nifer o gyfleoedd ar draws amrywiaeth o sectorau.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen radd hon yn llwyddiannus, mae yna hefyd opsiynau astudio ôl-raddedig a addysgir pellach ar draws systemau cyfrifiadurol a gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.​

  • Pwyntiau tariff: 104-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, ​Dr Ali Shahaab.

  • Cod UCAS

    G500 (gradd 3 blynedd), G50F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Dechnolegau Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
    5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Clusters of work desks with office chair and computer screens in office room. Clusters of work desks with office chair and computer screens in office room.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Labordy Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial

Datblygwch sgiliau ymarferol yn defnyddio peiriannau a chyfarpar manyleb uchel sydd â’r gallu i redeg delweddu data cymhleth a dysgu peirianyddol.

01 - 04
Inside the entrance of Cardiff School of Technologies. Inside the entrance of Cardiff School of Technologies.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Wedi’i dylunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg, mae’r Ysgol Dechnolegau yn cynnig cyfleusterau modern sy’n cynnwys ystod o labordai ac offer o safon diwydiant sy’n cyfoethogi eich dysgu ymarferol.

Mae ein mannau cymdeithasol ac astudio unigryw yn darparu’r gofod perffaith i weithio, ymlacio a chysylltu, gan ganiatáu i fyfyrwyr ryngweithio ac adeiladu cymuned gryf.

01 - 04
A person stands in front of a large screen showing line charts. A person stands in front of a large screen showing line charts.

Astudio Cyfrifiadureg a Gwyddor Data

Datblygwyd gyda Diwydiant

Mae ystod eang o sefydliadau’r diwydiant a’r llywodraeth fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gweithio’n agos i ddatblygu’r radd, gan greu senarios heriol ac asesiadau yn seiliedig ar achosion bywyd go iawn ar gyfer eich amgylchedd dysgu.

01 - 04
A person working intently at a computer workstation. In the background another person also works at a computer. A person working intently at a computer workstation. In the background another person also works at a computer.

Astudio Cyfrifiadureg a Gwyddor Data

Cynnwys Technoleg Blockchain

Gan eich paratoi i ddiwallu anghenion y diwydiant, mae’r cwricwlwm yn cwmpasu technoleg Blockchain – y cyntaf o’i fath yng Nghymru, a byddwch yn gweithio gyda data strwythuredig ac anstrwythuredig.

01 - 04
A close-up of a laptop computer. On the laptop screen is a map of the world. A close-up of a laptop computer. On the laptop screen is a map of the world.

Astudio Cyfrifiadureg a Gwyddor Data

Cyfleoedd Profiad yn y Diwydiant

Cyfleoedd i gysylltu ag arbenigwyr yn y diwydiant drwy sgyrsiau gwadd a digwyddiadau rhwydweithio, ac i fanteisio ar gefnogaeth helaeth gan ein tîm gyrfaoedd – gyda’r opsiwn o leoliad blwyddyn o hyd yn y diwydiant.

01 - 04