Mae ein graddau Gwyddor Bwyd, Maeth a Deieteg sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol ym Met Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. P’un a ydych chi’n anelu at ddod yn ddeietegydd cofrestredig neu am weithio yn y diwydiant bwyd byd-eang, byddwch chi’n datblygu’r sgiliau gwyddonol, technegol a dadansoddol sydd eu hangen i ateb galw’r diwydiant, gyda chefnogaeth addysgu arbenigol a chysylltiadau cryf â’r diwydiant.
O archwilio datblygiad, diogelwch ac arloesi bwyd ar y radd BSc (Anrh) mewn Gwyddor Bwyd a Maeth, i gwblhau lleoliadau clinigol a ariennir gan y GIG ar y radd BSc (Anrh) mewn Maethiad Dynol a Deieteg, byddwch yn ennill profiad ymarferol a mewnwelediad go iawn.
01 - 04
Darganfod Eich Cwrs
Gwyddor Bwyd a Maeth
Mae’r radd achrededig hon yn eich galluogi i ddewis llwybr rhwng Maeth Dynol neu Ansawdd, Diogelwch ac Arloesi, gan gyfuno astudiaeth academaidd a phrofiad diwydiannol i baratoi ar gyfer gyrfaoedd amrywiol yn y diwydiant bwyd.
Mae’r radd Maethiad Dynol a Deieteg hon, a gymeradwywyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a Chymdeithas Deieteg Prydain (BDA), yn cyfuno astudiaethau ar y campws â lleoliadau clinigol ledled Cymru i baratoi graddedigion ar gyfer cofrestriad HCPC fel deietegwyr. Mae cyllid ar gael gan y GIG.
Byddwch yn elwa o gydweithrediad agos â staff yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, lle byddwch yn defnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf gan gynnwys offer prosesu bwyd ar raddfa beilot, ceginau profi a datblygu, ac ystafell werthuso synhwyraidd. Byddwch hefyd yn cael mewnwelediad gwerthfawr i’r diwydiant trwy gysylltiadau cryf ZERO2FIVE â’r sector bwyd a diod, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer prosiectau datblygu cynnyrch go iawn, astudiaethau achos, lleoliadau, a rolau graddedigion.
Ein Cyfleusterau
Cyfleusterau Maethiad Dynol a Dieteteg
Byddwch yn elwa o’n Hyb Iechyd Clinigol Perthynol – gyfleuster addysgu pwrpasol sy’n cefnogi dysgu rhyngbroffesiynol ar draws sawl disgyblaeth iechyd. Mae’n darparu ystafelloedd efelychu uwch, ystafelloedd ymgynghori a thriniaeth, a mannau cleifion allanol sy’n adlewyrchu amgylcheddau clinigol go iawn. Byddwch yn defnyddio’r Hyb ar gyfer efelychiadau cleifion realistig, gwaith achos, ac ymarfer clinigol dan oruchwyliaeth wrth weithio gyda chyfoedion i ddarparu profiadau gofal iechyd i’r gymuned leol.
01 - 04
Dysgu ar Waith
01 - 08
Trodd Sophie, a raddiodd mewn Gwyddor Bwyd a Maeth, ei hangerdd am fwyd yn yrfa – gan greu prydau iach, arloesol yma yng Nghaerdydd.
Myfyrwyr Maethiad Dynol a Deieteg yn gweithio yn y gegin yn yr Hyb Iechyd Clinigol Perthynol, ac yn trafod ymagwedd bwyd yn gyntaf i gleifion.
Myfyrwyr Podiatreg a Maethiad Dynol a Deieteg yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gofal cleifion rhagorol yn ein Hystafell Efelychu Glinigol.
Bwrsari’r GIG
Ar hyn o bryd mae Met Caerdydd yn darparu rhaglenni Gofal Iechyd sydd wedi’u comisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Mae cyllid ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio Maethiad Dynol a Dieteteg.
Sylwer: nid yw pob achrediad ac aelodaeth broffesiynol yn berthnasol i bob cwrs a restrir isod. Ewch i dudalennau cyrsiau unigol i gael rhagor o wybodaeth.