Skip to content

Astudio Peirianneg ym Met Caerdydd

Gweld y Cyrsiau
Student facing two computer monitors and a rack of electronic equipment Student facing two computer monitors and a rack of electronic equipment
01 - 02
A student pressing the touchscreen of a small electronic device. In the background are other devices and computer monitors. A student pressing the touchscreen of a small electronic device. In the background are other devices and computer monitors.

Yr Hyn yr Ydym yn ei Gynnig

Fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Peirianneg Roboteg, mae Met Caerdydd yn cynnig graddau mewn Peirianneg Roboteg, Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig, a Pheirianneg Drydanol ac Electronig.

Wedi’ch addysgu gan arbenigwyr y diwydiant, byddwch chi’n ennill profiad yn y byd go iawn o’r diwrnod cyntaf trwy brosiectau byw, cyfleoedd ymchwil, a blwyddyn ar leoliad dewisol.

Gallwch astudio mewn labordai uwch, archwilio’r dyfeisiadau arloesol diweddaraf, a dysgu gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil. Mae ein graddau, sydd wedi’u cynllunio gyda chyflogadwyedd yn ganolog, yn rhoi profiad ymarferol i chi, cysylltiadau diwydiant, a’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

01 - 04
Close-up of hand turning dial on an oscilloscope Close-up of hand turning dial on an oscilloscope

Ein Cyfleusterau

Yn yr Ysgol Dechnolegau, byddwch yn elwa o gyfres o labordai arbenigol, mannau addysgu hyblyg, a mannau astudio a chymdeithasol cydweithredol.

 

Archwilio CyfleusterauArchwilio Cyfleusterau
A group of people sit at a table. In front of them is a selection of small humanoid robots. A group of people sit at a table. In front of them is a selection of small humanoid robots.

Ein Cyfleusterau

Mae ein Labordy Roboteg, sy’n gysylltiedig â Chanolfan Roboteg EUREKA, yn un o ddim ond 14 o ganolfannau ymchwil arbenigol yn y DU. Gweithiwch gyda dros 120 o robotiaid, ynghyd ag offer Deallusrwydd Artiffisial, Realiti Estynedig ac argraffu 3D arloesol.

A person sits at a desk. In front of them are computer monitors showing waveforms. On a rack above the monitors are several oscilloscopes. A person sits at a desk. In front of them are computer monitors showing waveforms. On a rack above the monitors are several oscilloscopes.

Ein Cyfleusterau

Mae’r Labordy Systemau Electronig yn rhoi profiad ymarferol i chi mewn electroneg, awtomeiddio, a systemau mewnosodedig gan ddefnyddio offer safonol y diwydiant.

A student works with a small drone quadcopter. A student works with a small drone quadcopter.

Ein Cyfleusterau

Yn y Labordy Systemau Awtonomaidd, archwiliwch gydlynu, canfyddiad a rheolaeth aml-robot gan ddefnyddio Stiwdio Ymchwil Cerbydau Awtonomaidd Quanser, sydd â chwe cwadrennydd, wyth camera lleoleiddio, a gweithfan reoli bwrpasol.

01 - 04
A group of people sit alongside each other at a long desk. Each of them is using a computer workstation. A group of people sit alongside each other at a long desk. Each of them is using a computer workstation.

Astudio Gyda Ni

Llwybrau Astudio – BEng neu MEng

Dewiswch rhwng BEng (Baglor mewn Peirianneg) tair blynedd neu MEng (Meistr mewn Peirianneg) pedair blynedd, yn dibynnu ar eich nodau gyrfa a’ch diddordeb mewn arbenigedd pellach. Mae’r BEng yn adlewyrchu tair blynedd gyntaf y MEng, tra bod y MEng yn radd meistr integredig sy’n cynnig blwyddyn ychwanegol o astudio uwch ac yn cynrychioli’r cymhwyster peirianneg israddedig uchaf yn y DU.

A student sat at a desk uses an ultrasound scanner on a simulated human skull. An open laptop computer in front of them shows the scan. A student sat at a desk uses an ultrasound scanner on a simulated human skull. An open laptop computer in front of them shows the scan.

Astudio Gyda Ni

Cael Mynediad at Ganolfannau Ymchwil Arbenigol

Gallwch ennill profiad ymarferol yn ein canolfannau ymchwil arbenigol trwy brosiectau byw, teithiau maes ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar y diwydiant. Ewch i CeRISS, ein Canolfan Ymchwil Peirianneg mewn Synwyryddion a Systemau Deallus, sy’n arbenigo mewn technolegau clyfar, synhwyro deallus ac electroneg uwch, a Chanolfan Roboteg EUREKA, canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer roboteg gymdeithasol a gwasanaeth. Cewch gyfle i weithio gyda robotiaid dynolffurf a breichiau robotig, ochr yn ochr ag offer Deallusrwydd Artiffisial, Realiti Estynedig ac argraffu 3D arloesol.

 

Dysgu MwyDysgu Mwy
Two engineering students use a breadboard for circuit prototyping Two engineering students use a breadboard for circuit prototyping

Astudio Gyda Ni

Cyfleoedd Profiad Gwaith yn y Diwydiant

Gallwch wella eich cyflogadwyedd gyda blwyddyn ar leoliad dewisol, gan gymhwyso’ch sgiliau mewn lleoliadau byd go iawn a datblygu cysylltiadau diwydiant gwerthfawr cyn i chi raddio.

01 - 04
Four students sit on a curved green sofa. One is holding a gaming controller and they are all looking in the same direction

Mae ein myfyrwyr wedi dechrau amrywiaeth o gymdeithasau y gallwch ymuno â nhw. O ddringo creigiau i gemau, Fformiwla 1 a llawer mwy, mae rhywbeth at ddant pawb!

Five young adults in matching yellow t-shirts stand in a line

Mae ein rhwydwaith o Hyfforddwyr Myfyrwyr yn dod yn fentoriaid i chi a byddant yn eich cefnogi drwy eich taith yn yr Ysgol Dechnolegau.

Achrediadau ac Aelodaeth Broffesiynol

The Institution of Engineering and Technology Accredited Programme Logo

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni’r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig yn rhannol (BEng) / yn llawn (MEng).

Sylwer: nid yw pob achrediad ac aelodaeth broffesiynol yn berthnasol i bob cwrs a restrir isod. Ewch i dudalennau cyrsiau unigol i gael rhagor o wybodaeth.

 

Enw'r Cwrs

Lefel

Lleoliad

Diwrnodau Agored a Theithiau Campws

Eisiau rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni?

Dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored neu archebwch Daith Campws dan arweiniad myfyrwyr.

Archebwch Eich Lle