Digwyddiadau Astudiaethau Ôl-raddedig – Mawrth 2026 – Archebwch eich lle
Pam Met Caerdydd?
Ym Met Caerdydd, bydd ein graddau meistr ôl-raddedig yn datblygu eich gwybodaeth am eich pwnc arbenigol, yn cefnogi eich dyheadau gyrfa ac yn darparu man cychwyn ar gyfer astudiaeth ymchwil bellach.
Gydag academyddion yn ymwneud â diwydiant ac ymchwil, mae ein graddau’n canolbwyntio ar ymarfer ac yn cael eu cydnabod yn broffesiynol.
Dyma brifddinas uchelgeisiau newydd. Dyma eich prifddinas chi.
Ffioedd dysgu a chymorth ariannol i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Hyfforddiant Athrawon
Rydym yn gartref i un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU. Os ydych chi’n fyfyriwr graddedig sydd â brwdfrydedd dros eich pwnc, rydym yn cynnig cyrsiau cynradd ac uwchradd sy’n arwain at statws athro cymwysedig.
Gyda chymuned ymchwil ôl-raddedig lewyrchus yn astudio ar draws amrywiaeth eang o bynciau, rydym yn cynnig llwybrau mewn MRes, MPhil, PhD a Doethuriaethau Proffesiynol, gydag opsiynau astudio amser llawn a rhan-amser ar gael.
Ydych chi’n awyddus i ymuno â ni o dramor? Byddwch yn rhan o gymuned ryngwladol ffyniannus o fyfyrwyr drwy ddewis astudio eich gradd ôl-raddedig gyda ni.
O sut i wneud cais a dyddiadau cau ceisiadau, i ofynion fisa a’r gefnogaeth y gallwch ei disgwyl pan fyddwch gyda ni, dysgwch fwy am wneud cais fel myfyriwr rhyngwladol.