Ffioedd Dysgu a’r Amserlen Dalu ar gyfer Mynediad ym mis Ionawr
Os ydych chi'n dechrau gradd israddedig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Ionawr 2027, bydd eich blwyddyn gyntaf yn dilyn amserlen astudio garlam. Mae hyn yn golygu y bydd dyddiadau talu eich ffioedd dysgu yn wahanol ar gyfer Blynyddoedd 1 a 2.
Sut mae eich blynyddoedd academaidd yn gweithio
Bydd eich gradd yn dilyn y strwythur canlynol:
- Blwyddyn 1 (Ionawr i Fedi 2027): Byddwch yn astudio drwy gydol yr haf i gwblhau eich blwyddyn gyntaf.
- Blwyddyn 2 (Medi 2027 ymlaen): Byddwch yn dechrau eich ail flwyddyn ym mis Medi, gan ddilyn y calendr academaidd safonol.
- Blwyddyn 3: Byddwch yn parhau i ddilyn y calendr academaidd safonol sy'n dechrau ym mis Medi tan i chi gwblhau eich gradd.
Pwysig: Dau daliad ffioedd dysgu ym mis Medi 2027
Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer dau daliad ym mis Medi.
Bydd angen i chi wneud dau daliad ffioedd dysgu ar wahân ym mis Medi 2027:
- 8 Medi 2027: Eich taliad olaf ar gyfer Blwyddyn 1 (10% o'ch ffioedd dysgu ar gyfer Blwyddyn 1).
- 23 Medi 2027: Eich taliad cyntaf ar gyfer Blwyddyn 2 (25% o'ch ffioedd dysgu ar gyfer Blwyddyn 2).
Dim ond 15 diwrnod sydd rhwng y taliadau hyn, ond maent yn taliadau ar gyfer dwy flwyddyn academaidd wahanol.
Gwnewch yn siwr eich bod yn cynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod gennych ddigon o arian ar gael ar gyfer y ddau daliad.
Blwyddyn 1: Mynediad ym mis Ionawr 2027
Bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn cael eu talu yn unol â'r amserlen ganlynol:
| Dyddiad talu | Canran o'r ffioedd dysgu blynyddol |
|---|---|
| Wrth wneud cais | 50%* |
| 8 Mai 2027 | 10% |
| 8 Mehefin 2027 | 10% |
| 8 Gorffennaf 2027 | 10% |
| 8 Awst 2027 | 10% |
| 8 Medi 2027 | 10% |
*Gall eich llythyr cynnig nodi swm taliad cychwynnol gwahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gwiriwch eich llythyr cynnig am y gofynion blaendal sy'n berthnasol i chi.
Blwyddyn 2: Mynediad ym mis Medi 2027
Pan fyddwch yn dechrau Blwyddyn 2 ym mis Medi 2027, byddwch yn symud i'r amserlen safonol ar gyfer talu ffioedd dysgu, sy'n dechrau ym mis Medi.
Dyma'r dyddiadau talu disgwyliedig:
| Dyddiad talu | Canran o'r ffioedd dysgu blynyddol |
|---|---|
| 23 Medi 2027 | 25% |
| 8 Ionawr 2028 | 15% |
| 8 Chwefror 2028 | 15% |
| 8 Mawrth 2028 | 15% |
| 8 Ebrill 2028 | 15% |
| 8 Mai 2028 | 15% |
Byddwch yn parhau i ddilyn y calendr academaidd sy'n dechrau ym mis Medi a'r amserlen talu ffioedd dysgu gysylltiedig am weddill eich gradd.
Sylwch: Codir ffioedd dysgu Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ar wahân. Mae'r canrannau talu a ddangosir uchod yn berthnasol i'r ffioedd dysgu ar gyfer pob blwyddyn academaidd unigol.