Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored Israddedig, cofrestrwch nawr

Darpar Fyfyrwyr

Gallwch archwilio’r ffyrdd y gallwn eich cefnogi gyda’ch gyrfa pan fyddwch chi’n ymuno â Met Caerdydd.

Pan fyddwch chi’n dewis eich prifysgol a’ch cwrs gradd, mae’n mor bwysig eich bod yn teimlo’n hyderus y bydd eich dewis yn arwain at ragolygon da yn y dyfodol.

Dyna pam mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi ymrwymo i ddatblygu graddedigion hynod gyflogadwy a pharod ar gyfer y diwydiant.

Sut y Gallwn Ni Eich Helpu

Er bod gradd yn bwysig, nid yw gradd ar ei phen ei hun yn aml yn ddigon ar gyfer marchnad swyddi hynod gystadleuol.

Mae angen i fyfyrwyr ddangos eu bod wedi datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i’w hastudiaethau.

Efallai bod gennych chi rai gyrfaoedd mewn golwg, neu efallai nad oes gennych chi syniad o gwbl. Cyn i chi allu dechrau canolbwyntio a gwneud penderfyniadau, mae’n syniad da treulio peth amser yn ymchwilio. Gallwn ni helpu gyda hynny!

Siapio Eich Dyfodol: Datblygu Sgiliau Cyflogadwyedd Allweddol

Wrth recritio, mae cyflogwyr yn chwilio am ystod o sgiliau, cryfderau a rhinweddau. Gallwch ddechrau datblygu'r rhain yn ystod eich cyfnod ym Met Caerdydd; bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n fwy hyderus ac yn barod ar gyfer byd gwaith pan fyddwch yn graddio.

P'un a ydych newydd ddechrau meddwl am eich gyrfa yn y dyfodol, bod gennych syniad ond ddim yn siŵr ble i ddechrau, neu eich bod yn barod i wneud cais am swydd eich breuddwydion, rydym yma i'ch cefnogi.

Mae Siapio Eich Dyfodol yn dod â gweithgareddau ac adnoddau ynghyd i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd, magu hyder, a pharatoi ar gyfer byd gwaith.

Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Thargedu

Rydym yn gwybod bod rhai myfyrwyr yn profi heriau ychwanegol wrth gael mynediad at gyflogaeth lefel graddedig.

Mae ein tîm cyfeillgar o Hyfforddwyr Gyrfaoedd yma i helpu, gan gynnig cefnogaeth estynedig, wedi'i bersonoli, un-i-un i helpu i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch hyder.

Gallwn helpu gyda:

  • archwilio a chynllunio gyrfa
  • chwilio am swydd
  • datblygu sgiliau cyflogadwyedd
  • sicrhau profiad gwaith
  • gwneud cais am gyfleoedd
  • paratoi ar gyfer cyfweliadau
  • deall hawliau a hygyrchedd yn y gweithle
  • adeiladu hyder a hunanwerthuso

Os hoffech siarad ag un o'r tîm am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at careersservice@cardiffmet.ac.uk a dyfynnwch 'Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Thargedu'.

​Apwyntiadau 1-i-1

Mae ein staff arbenigol yn cynnig cyngor diduedd a gall eich cefnogi gydag opsiynau gyda’ch gradd, cynllunio gyrfa, chwilio am swydd, ysgrifennu CV, paratoi cyfweliadau, a llawer mwy.

P’un a ydych chi’n dechrau meddwl am eich dyfodol neu os oes gennych chi rai syniadau clir, gallwn ni eich helpu.

Digwyddiadau

Trwy gydol y flwyddyn, gallwch archebu lle ar ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar gynllunio gyrfaoedd a datblygu sgiliau cyflogadwyedd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ffeiriau Gyrfaoedd
  • Fforymau’r Diwydiant
  • Sesiynau Deall Gyrfaoedd
  • Darlithoedd Gwadd
  • Gweminarau Sgiliau Ymarferol
  • Sesiynau sgiliau cyflogwr

Gyrfaoedd yn yr Ystafell Ddosbarth

Rydym yn dod â sgiliau cyflogadwyedd i’ch ystafell ddosbarth. Fe fyddwn yn dod i’ch darlithfeydd i roi sgwrs a byddwn yn eich gwahodd i sgyrsiau gan gyflogwyr sy’n berthnasol i’ch cwrs.

Rydym hefyd yn rhan o ddyluniad eich cwrs, gan sicrhau bod gennych y cyfle gorau i adael y ​brifysgol gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y farchnad swyddi i raddedigion.