Skip to content

Cyllidebu eich Hawl i Gyllid Myfyrwyr

Cyngor ar Gyllidebu

Nid yw pob myfyriwr yn derbyn digon o Gyllid Myfyrwyr i dalu eu costau byw hanfodol, a bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr naill ai’n gweithio’n rhan-amser, a/neu’n derbyn cefnogaeth gan deulu i helpu i gynyddu eu hincwm yn ystod y brifysgol.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn llunio cyllideb cyn i chi gyrraedd y brifysgol, i’ch helpu i gynllunio a fydd eich incwm (gan gynnwys Cyllid Myfyrwyr, cyflog o waith rhan-amser, cefnogaeth gan rieni/partner ac ati) yn talu eich treuliau disgwyliedig (gweler isod).

Bydd hyn yn eich helpu i symud ymlaen yn hyderus trwy eich astudiaethau gan wybod y bydd gennych ddigon o arian i fyw arno heb syrthio i drafferthion.

Mae gennym dempledi cyllideb myfyrwyr i helpu gyda hyn a byddwn yn cynnig gwe-seminarau a sesiynau un-i-un i fyfyrwyr newydd dros yr haf ac yn ystod y tymor.

Anfonwch e-bost atom yn moneyadvice@cardiffmet.ac.uk am fwy o fanylion neu i archebu apwyntiad i drafod eich cynlluniau cyllideb.

Treuliau

Bydd hyn yn dibynnu a ydych chi mewn Neuaddau Preswyl neu’n rhentu’n breifat.

Bydd costau hanfodol yn cynnwys rhent, biliau, bwyd, pethau ymolchi/meddyginiaeth, cludiant, contractau ffôn, tanysgrifiadau, yswiriant ac arian ar gyfer eich bywyd cymdeithasol. Os ydych chi’n rhentu gan landlord preifat, bydd angen i chi ystyried cyfleustodau (nwy, trydan a dŵr) hefyd. Os ydych chi’n dod â char i’r brifysgol, byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol ar gyfer tanwydd, cynnal a chadw, yswiriant, parcio a threthi, ac ati.

Dylai myfyrwyr llawn amser mewn Addysg Uwch fod yn gymwys i wneud cais am eithriad Treth y Cyngor.

Gwneud i’ch Cyllideb Weithio

Os yw eich cyllideb gynlluniedig yn dangos na fydd gennych ddigon o arian i fyw yn seiliedig ar eich incwm a’ch gwariant disgwyliedig, efallai y bydd nifer o opsiynau ar gael i chi i wneud i’ch cyllideb weithio:

  • cael sgwrs gyda’ch teulu cyn i chi gyrraedd, i weld a fyddan nhw’n gallu eich helpu, ac os felly, faint a phryd. Efallai y byddai’n ddefnyddiol rhannu erthygl Save the Student gyda nhw i ddechrau’r sgwrs.
  • dechreuwch gynllunio ar gyfer pa waith rhan-amser y gallech chi ei wneud, naill ai yn ystod y tymor, a/neu yn ystod egwyliau. Mae gan Brifysgol Met Caerdydd wasanaeth gyrfaoedd a fydd yn gallu helpu gydag awgrymiadau ar ddod o hyd i waith rhan-amser.
  • adolygwch eich cyllideb eto – a ydych chi’n gallu lleihau eich gwariant cynlluniedig ar gyfer eitemau nad ydynt yn hanfodol? Os oes angen help arnoch i adolygu eich cyllideb, cysylltwch â ni a gallwn ni helpu.

Cyfrifon Cyfredol i Fyfyrwyr

Nid oes angen un arnoch chi, ond mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gweld bod y nodweddion sydd ar gael gyda chyfrifon banc myfyrwyr yn gallu bod o fudd.

Gall hyn gynnwys gorddrafftiau di-log a chymhellion eraill fel cardiau rheilffordd am ddim.

Gallwch ddysgu mwy am gyfrifon banc myfyrwyr gan Save the Student.

Cymorth Ariannol Arall

Mae gan UCAS dudalen bwrpasol gyda manylion am ysgoloriaethau, grantiau a bwrsariaethau allanol a allai fod ar gael. Mae gan Met Caerdydd dudalen bwrsariaethau ac ysgoloriaethau bwrpasol hefyd ar gyfer cymhellion a gynigir gan y brifysgol. Am ymholiadau ynghylch bwrsariaethau ac ysgoloriaethau, cysylltwch â holiderbyniadau@cardiffmet.ac.uk.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac mae gennych chi blant ifanc dibynnol, efallai y byddwch chi’n gallu cael mynediad at hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant i blant 3 i 4 oed gyda’r Cynnig Gofal Plant.

Mae gan Met Caerdydd hefyd Gronfa Caledi Ariannol ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n wynebu argyfwng ariannol annisgwyl tra byddant yn y brifysgol. Mae telerau ac amodau’n berthnasol, ac mae’r gronfa’n destun prawf modd.