Skip to content

Ymunwch â Dyfodol AI: Rhaglen Paratoi Ymchwil Google DeepMind

Datglowch eich potensial a dechreuwch eich siwrne i fyd deallusrwydd artiffisial (AI).

Mewn partneriaeth â Google DeepMind, yr Academi Beirianneg Frenhinol a Hg Foundation, mae Ysgol Dechnolegau Caerdydd yn falch o gynnig interniaeth haf 8 wythnos o hyd, ac wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer 12 o fyfyrwyr israddedigion sy'n astudio cyfrifiadurdeg (Gweler y meini prawf cymhwysedd am ragor o wybodaeth).

Mae'r rhaglen ymdrochol hon wedi'i chynllunio i roi sylfaen gadarn i chi mewn AI, ac yn cyfuno cywirdeb academaidd, profiad ymarferol, a meddylfryd entrepreneuraidd. Drwy ddull Stiwdio Fenter, caiff y cyfranogwyr gyfle i weithio ar y cyd i gysyniadu a datblygu ffug fusnes sy’n canolbwyntio ar AI, ac i ddysgu mwy am arloesi, datblygu cynhyrchion a masnacheiddio.

Mae uchafbwyntiau’r rhaglen yn cynnwys:

  • Gweithdy entrepreneuriaeth ddwys wythnos o hyd wedi’i gyflwyno gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth, yn ymdrin â chreu syniadau, ffurfio tîm, dylunio modelau busnes, a datblygu mentrau.
  • Darlithoedd gwadd gan arweinwyr y diwydiant, yn cynnig safbwyntiau byd go iawn ar gymwysiadau, effaith, a dyfodol AI ar draws ystod o sectorau.
  • Sesiynau academaidd wedi'u teilwra a chynllun mentora ymroddedig gan dîm amrywiol a deinamig o arbenigwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a sefydliadau partner.
  • Cyfres o ddarlithoedd strwythuredig ar fethodolegau ymchwil, wedi'u cynllunio i gryfhau galluoedd technegol wrth gefnogi arloesedd ac archwilio llwybrau gyrfa ym maes AI yn y dyfodol, o safbwynt academaidd ac yn entrepreneuraidd.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu gwybodaeth arloesol am AI, i hybu eu cyflogadwyedd, ac i ennill profiad uniongyrchol o sut mae syniadau'n symud ymlaen o’r cysyniad i entrepreneuriaeth neu ymchwil.

 

Cymhwysedd

Mae'r interniaeth hon ar gael i raddedigion neu fyfyrwyr diweddar (yn eu blwyddyn olaf neu olaf ond un) mewn pwnc cyfrifiadureg neu AI o gefndiroedd difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni’r meini prawf canlynol cyn gwneud cais:

Meini prawf hanfodol (rhaid cwrdd â phob un o’r rhain)

  • Mae’n rhaid i chi fod yn breswylydd yn y Deyrnas Unedig ac yn gymwys i dalu ffioedd cartref yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae'n rhaid bod gennych yr hawl i fyw a gweithio'n llawn amser yn y DU drwy gydol y rhaglen.
  • Mae’n rhaid i chi fod ym mlwyddyn olaf ond un, neu’r flwyddyn olaf o’ch gradd israddedig neu neu wedi cwblhau gradd israddedig mewn cyfrifiadureg, AI, neu bwnc cysylltiedig yn ddiweddar.
  • Mae’n rhaid i chi beidio â bod wedi cofrestru neu wedi cwblhau rhaglen Meistr neu PhD.

Meini prawf economaidd-gymdeithasol (rhaid cwrdd ag o leiaf un o’r rhain)

  • Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod addysg uwchradd.
  • Yn byw mewn ardal sydd yn y ddau gyflwr isaf yn ôl mynegeion amddifadedd fel WIMD neu POLAR.
  • Wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol ar unrhyw adeg.
  • Wedi derbyn cefnogaeth lawn gan y wladwriaeth ar gyfer cynnal a chadw yn ystod eu hastudiaethau israddedig.
  • Yn uniaethu fel Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
  • Yn rhan o’r genhedlaeth gyntaf eich teulu i astudio ar lefel israddedig.
  • Wedi derbyn statws ffoadur.

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Mae'r interniaeth yn cyfuno dysgu damcaniaethol â chymhwysiad ymarferol, gan eich arfogi â'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i ragori mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig ag AI neu ymchwil ôl-raddedig. Dyma beth sy'n cael ei gynnig drwy'r rhaglen:

  • Arbenigedd AI: Darlithoedd wythnosol ar ddysgu peirianyddol, moeseg data, preifatrwydd, ac egwyddorion AI cyfrifol. Cewch gyfle i archwilio sut mae AI yn trawsnewid diwydiannau fel gofal iechyd, gweledigaeth gyfrifiadurol, a modelau iaith fawr. Byddwch hefyd yn dysgu am dechnolegau 3.0 fel blockchain a chryptoarian.
  • Arloesi Entrepreneuraidd ar y Cyd: Cewch gyfle i weithio mewn grwpiau bach i ddylunio a datblygu model cynnyrch a busnes ar gyfer dechrau ffug fusnes AI. Cewch hefyd gyfle i ddatblygu model busnes, strategaeth marchnata i hyrwyddo eich busnes a phroblemau rheoleiddio sy’n gysylltiedig â dechrau busnes.
  • Mewnwelediadau Byd Go Iawn: Cewch gyfle i ymgysylltu ag arweinwyr diwydiant, llunwyr polisi, ac entrepreneuriaid drwy ddarlithoedd gwadd a sesiynau astudio achos, gan ennill safbwyntiau gwerthfawr ar gymwysiadau ymarferol ac effaith gymdeithasol AI. Cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad "Dragons' Den" lle byddwch chi'n cyflwyno'ch prosiect i arbenigwyr.
  • Cymuned a Chefnogaeth: Byddwch yn elwa o fentora wedi'i deilwra ac amgylchedd dysgu cynhwysol, cydweithredol sy'n meithrin rhyngweithio gyda chymheiriaid, magu hyder a datblygu arweinyddiaeth.

Mae’r Cwrs yn cynnwys:

  • Lleoliad interniaeth 8 wythnos yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd, Campws Llandaf o 1 Mehefin 2026 – 24 Gorffennaf 2026.
  • Ariantal hael (£441 yr wythnos am 8 wythnos).
  • Llety am ddim yn Neuaddau Met Caerdydd (neu dâl cyfatebol fesul wythnos os yn rhentu’n breifat)
  • Arian teithio i ac o Gaerdydd ar ddechrau/diwedd y rhaglen (uchafswm o £200).

Y Broses Ymgeisio

Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy'r ffurflen hon erbyn dydd Gwener, 6 Mawrth 2026.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi ddarparu:

  • Trawsgrifiad y Brifysgol / Proffil Marciau
  • Datganiad Personol Manylion eich canolwr
    Nid oes angen i ganolwyr gyflwyno eu llythyr geirda ar y cam cychwynnol. Fodd bynnag, os cânt eu rhoi ar y rhestr fer, gofynnir i ganolwyr gyflwyno llythyr geirda o fewn terfyn amser byr. Felly, rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn siarad â'ch canolwr ymlaen llaw.

Y Broses Dethol

  1. Llunio rhestr fer
    • a. Mae angen i ymgeiswyr basio'r HOLL Feini Prawf Hanfodol ac UN o'r meini prawf economaidd-gymdeithasol.
    • b. Yn seiliedig ar y trawsgrifiad a gyflwynir, bydd perfformiad academaidd yn cael ei werthuso.
    • c. Yn seiliedig ar y datganiad personol, bydd cymhelliant, potensial ac ymrwymiad personol i yrfa yn y dyfodol mewn deallusrwydd artiffisial yn cael eu gwerthuso.
  2. Dewis Terfynol
    • a. Yn seiliedig ar y llythyr geirda.

Cysylltu â ni

Ar gyfer unrhyw ymholiadau gweinyddol, cysylltwch â:  cst-deepmind@cardiffmet.ac.uk

I gael unrhyw ymholiadau eraill am y cwrs, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen: Dr Imtiaz Khan IKhan@cardiffmet.ac.uk