Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Dewch yn ddylunydd cyfrifol sy’n barod i siapio’r diwydiant.
Bydd Ffasiwn yn mynegi ein gwerthoedd, ein diwylliant a’n cymdeithas. Ac yn bwysicach bydd yn dylanwadu arnyn nhw ac yn eu siapio.
Bydd y radd hon yn caniatáu ichi archwilio’ch doniau unigol trwy’r broses ddylunio broffesiynol. Fe’i cynlluniwyd i adlewyrchu arfer cyfoes ac i’ch ysbrydoli i lwyddo yn y diwydiant hwn sy’n esblygu’n barhaus. Mae’r radd gwreiddioldeb a chymryd risg yn sail i’r broses ddylunio, o’r cysyniad i’r cynnyrch terfynol, gydag ystyriaeth i hyfywedd masnachol, arbrofi a chreadigedd yn greiddiol iddi.
Byddwch yn dod yn ymarferwyr ffasiwn aml-fedrus, hyblyg, dyfeisgar a chreadigol gyda sgiliau trosglwyddadwy a rhyngbersonol datblygedig. Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd creadigol gyda gweithdai a stiwdios llawn offer sy’n cefnogi ein cymuned fywiog o fyfyrwyr, lle mae dawn bersonol a datblygiad unigol yn cael eu rhannu, eu cyfnewid a’u meithrin.
Byddwch yn dod i ddeall y materion moesegol sy’n wynebu’r diwydiant ffasiwn, gan ganiatáu i chi raddio’n ddylunydd cyfrifol sy’n barod i siapio’r diwydiant.
Aelod o'r
O’r dechrau byddwch yn gweithio ar eich portffolio – eich ffordd i mewn i fyd ffasiwn. Byddwch yn ychwanegu ato’n rheolaidd, yn ei adolygu ac yn ei fireinio – felly pan fyddwch yn graddio bydd yn gallu dangos eich talent a’ch corff o waith mewn ffordd wirioneddol.
Byddwch yn treulio amser yn y stiwdio, yn datblygu sgiliau hanfodol mewn ystod o dechnegau, gan gynnwys:
- Ymchwil Creadigol Eang
- Prosesau Dylunio, Arbrofi a Datblygiadau
- Lluniadu, Cyfathrebu a Darlunio Ffasiwn
- Torri Creadigol
- Dylunio a Drafftio Patrymau Fflat
- Modelu a Gwisgo ar Stand
- Dylunio a Theilwra
- Cynhyrchu Gwisgoedd a Gweithgynhyrchu gan Ddiwydiant
- Defnyddio Dylunio, Technoleg a Theori
- Photoshop, Illustrator a Meddalwedd CAD
- Ffabrig, Lliw, Tueddiadau, Ymchwil i’r Farchnad a Rhagfynegi
- Dylunio a Llunio Cyfresi
- Cyflwyno Portffolio Proffesiynol Dylunwyr
Wrth i chi ddechrau meistroli’r sgiliau hyn, byddwch yn dechrau creu gwisgoedd ac yn dod â’ch dyluniadau’n fyw.
Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn briffiau byw, lleoliadau mewn diwydiant, a theithiau i astudio dramor – a phob un wedi’i gynllunio i ehangu eich gorwelion ac i roi mewnwelediad hanfodol i chi i’r diwydiant dynamig hwn.
Blwyddyn Un
Pwnc: Elfennau Sylfaenol Ffasiwn – 40 credyd*
Byddwch yn plymio i fyd cyffrous dylunio ffasiwn ac yn dysgu am y cyfnodau allweddol a fydd yn gysylltiedig â’r broses greadigol, o’r syniad dylunio gwreiddiol hyd at y cynnyrch terfynol. Bydd y modiwl hwn yn dod â gwybodaeth o ddiwydiant, ymchwil tueddiadau a rhagfynegi ffasiwn at ei gilydd ac yn eich arwain drwy’r dylunio a’r datblygu gan eich herio i gyrraedd eich potensial creadigol. Yn ogystal â’r sgiliau creadigol a thechnegol a gaiff eu cyflwyno, byddwch yn dysgu sgiliau cyfathrebu ffasiwn proffesiynol wedi’u cefnogi gan CAD (Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur).
Pwnc: Delweddu Ffasiwn – 20 credyd
Byddwch yn treulio eich tymor cyntaf yn archwilio’r dirwedd dylunio ffasiwn gyfoes – a sut y gallwch ddod i wybod ble mae eich lle chi ynddi. Wrth i chi ddechrau datblygu eich dull gweithio unigol, byddwch yn dysgu am ffurf, silwét a ffabrig. Byddwch yn cofnodi eich arbrofion a’ch technegau mewn llyfrau braslunio – gyda lluniadau a syniadau dylunio. A byddwch yn ymgymryd â briffiau creadigol a fydd yn herio unrhyw syniad o ran yr hyn yw ffasiwn – neu yr hyn y gallai ffasiwn fod.
Hanfodion Ymchwil – 20 credyd*
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau ymchwil academaidd craidd myfyrwyr gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau, gwerthuso hygrededd, a dadansoddi gwybodaeth. Bydd yn darparu’r sylfeini a fydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu hyder i gymryd rhan mewn disgwrs damcaniaethol a deialogau sy’n seiliedig ar syniadau a fydd yn ofynnol trwy gydol eu hastudiaethau israddedig.
Dealltwriaeth Ryngddisgyblaethol – 40 credyd
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion gweithio Rhyngddisgyblaethol: gweithio ar y cyd, meddwl a myfyrio’n feirniadol. Bydd prosiectau o fewn y modiwl yn eich herio i weithio gyda disgyblaeth arall i archwilio thema neu her gymdeithasol a diwylliannol.
Blwyddyn Dau
Pwnc: Y Diwydiant Ffasiwn – 40 credyd
Bydd eich astudiaethau’n dod yn fwy diwydiant-ganolog wrth i chi ddechrau eich ail flwyddyn. Ceir ffocws proffesiynol cynyddol wrth i chi ehangu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i ddylunio ac i gynhyrchu dillad trawiadol. Cewch ddod i gysylltiad â meysydd gwahanol y diwydiant drwy friffiau byw a briffiau ffug – yn ogystal â phersbectifau newydd oddi wrth amrywiaeth o frandiau a dylunwyr. Ac fe roddwch gynnig ar brosiectau heriol drwy ddefnyddio technegau traddodiadol a thechnolegau newydd.
Heriau’r 21ain Ganrif – 40 credyd
Mae’r modiwl Heriau’r 21ain Ganrif yn adeiladu ar y cyflwyniad i ddatrys problemau rhyngddisgyblaethol a ddatblygwyd ar lefel 4 i barhau i fireinio, a dechrau cymhwyso, eich setiau sgiliau trwy brosiectau byd go iawn a briffiau byw. Bydd prosiectau’n mynd i’r afael â Heriau’r 21ain Ganrif i ddatblygu eich sgiliau arwain, cydweithio, llythrennedd/meddwl beirniadol yn y dyfodol.
Cyd-destunau Byd Go Iawn – 20 credyd
Mae’r modiwl Cyd-destunau Byd Go Iawn yn eich herio i gymhwyso’r ymwybyddiaeth leol a’r sgiliau meddwl am y dyfodol i ddefnyddio’ch ymarfer eich hun wrth greu neu hyrwyddo gwerth ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau allanol.
Cynnig Ymchwil – 20 credyd*
Mae’r Cynnig Ymchwil yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau ymchwil, atgyfnerthu eich profiad ymchwil a chyfeirio eich cyfraniad lefel 6 o amgylch ymholiad o’ch dewis sydd wedi’i ysbrydoli gan eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar lefel 4 a 5. Defnyddir y cynnig ymchwil hwn i barhau â’ch datblygiad personol a phroffesiynol ar lefel 6 lle byddwch yn nodi llwybr ar gyfer eich ymholiad eich hun.
Blwyddyn Tri
Pwnc: Prosiect Ffasiwn Mawr – 60 credyd
Byddwch yn paratoi ar gyfer eich nodau yn y dyfodol â phrosiect ymchwil a dylunio mawr – wedi’i gynllunio i’ch helpu i adnabod cyfeiriad eich portffolio. Byddwch yn ymchwilio siâp a silwét gwisgoedd yn ogystal â ffurf a gorffeniad – ac yn symud eich dyluniad ymlaen drwy’r broses o dorri patrymau a gwneud toile. Ac fe fyddwch yn dod â’ch gweledigaeth greadigol yn fyw – yn cynhyrchu gwaith a fydd yn herio creadigrwydd drwy ymchwil, datblygu dyluniad a chyfieithu.
Profiad Ymarferol – 20 credyd
Nod y modiwl yw cefnogi eich parodrwydd i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol unigryw. Bydd yn ymgorffori priodoleddau sy’n adlewyrchu gofynion ymarfer yn y byd go iawn sy’n cyd-fynd â’ch disgyblaeth arbenigol.
Cewch gyfle i fyfyrio ar sut mae eich profiadau dros y 3 blynedd diwethaf wedi caniatáu ichi ddatblygu’n weithiwr proffesiynol wrth baratoi ar gyfer gwaith lefel graddedig, astudio parhaus, ymchwil, a mentrau entrepreneuraidd.
Cyfraniad – 40 credyd*
Mae eich ymarfer yn seiliedig ar eich gwybodaeth. Cewch gyfleu i arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad ymchwil terfynol, lle byddwch yn archwilio syniadau ar ffurf ysgrifenedig ac ymarferol.
* modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae pob rhaglen israddedig yn yr Ysgol Gelf a Dylunio yn cael ei haddysgu o fewn amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol.
Mae ein cwricwlwm sy’n arwain y sector wedi’i gynllunio mewn perthynas â llenyddiaeth gyfredol ac arferion gorau ledled y DU ac Ewrop, gan ddarparu cyfleoedd dysgu dilys i fyfyrwyr gyda ffocws ar sefyllfaoedd bywyd go iawn a datrys problemau byd go iawn. Mae ein graddedigion yn barod ar gyfer, ac yn addasadwy i, weithio a byw yn yr 21ain ganrif, wedi’u gyrru gan greadigrwydd, cyfrifoldeb cymdeithasol, llythrennedd y dyfodol a meddwl ac ymddygiadau entrepreneuraidd. Gallwch ddarllen mwy am ein cwricwlwm israddedig yma.
Dysgu yn y Stiwdio
Cyflwynir pob rhaglen drwy ddull dysgu yn y stiwdio, gydag amgylchedd dilys sy’n annog cydweithio, archwilio annibynnol, a phrofiad dysgu a rennir. Mae gofodau stiwdio wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion penodol eich disgyblaeth, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu megis seminarau grŵp, beirniadaethau, cyflwyniadau, tiwtorialau un-i-un, gweithdai technegol, ac astudiaeth annibynnol dan arweiniad. Mae’r amgylchedd hwn yn cefnogi datblygiad dysgu dan arweiniad myfyrwyr, lle gallwch lunio ffocws ac arbenigedd eich ymchwil, gan weithio’n annibynnol gyda chanllawiau gan staff academaidd a thechnegol arbenigol.
Gweithdai Ymarferol
Byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau stiwdio a gweithdai ymarferol, gan feithrin sgiliau craidd mewn deunyddiau a phrosesau sy’n berthnasol i’ch disgyblaeth. Mae darlithoedd yn darparu fframwaith damcaniaethol sy’n ategu eich ymarfer stiwdio, tra bod seminarau grŵp llai yn cynnig cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer twf ymarferol. Mae prosiectau grŵp cydweithredol yn creu cyfleoedd i feithrin cysylltiadau a datblygu sgiliau gwaith tîm a all ymestyn i brosiectau allgyrsiol neu bersonol. Mae beirniadaethau rheolaidd (beirniadaethau stiwdio), sesiynau briffio a chyflwyniadau wedi’u cynllunio i ddatblygu meddwl yn feirniadol, cyfathrebu effeithiol a meithrin hyder i gyflwyno gwaith yn weledol ac ar lafar.
Dysgu yn Seiliedig ar Brosiectau
Nod strategaethau dysgu yw datblygu cymwyseddau proffesiynol wrth hyrwyddo meddwl yn feirniadol a chreadigol. Rhoddir ffocws cryf ar ddysgu sy’n seiliedig ar brosiectau a dysgu sy’n seiliedig ar broblemau, lle byddwch yn mynd i’r afael â phrosiectau sy’n amrywio o ran cwmpas: o friffiau penodol i brosiectau byw dan arweiniad myfyrwyr a phrosiectau byd go iawn. Mae pob prosiect yn eich herio i ddadansoddi problemau, cynnal ymchwil, gwneud penderfyniadau, a datblygu atebion technegol a chreadigol. Bydd gan brosiectau amcanion diffiniedig, ond fe’ch anogir i ddatblygu dehongliad unigol.
Hunanfyfyrio
Cefnogir myfyrwyr ymhellach trwy Gynllun Datblygu Personol (CDP) strwythuredig, sy’n annog hunanfyfyrio a datblygiad proffesiynol. Mae’r ddogfen hon yn gwasanaethu fel cofnod o ddatblygiad a phortffolio, gan dynnu sylw at eich corff o waith sy’n esblygu. Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn cael eich cyflwyno i senarios byd go iawn, gan gydweithio’n aml â gweithwyr proffesiynol allanol yn y diwydiant, siaradwyr gwadd, neu ar leoliadau, gan roi amlygiad gwerthfawr i chi i safonau ac arferion y diwydiant.
Adnoddau Rhithiol
Mae cymorth ychwanegol ar gael trwy diwtoriaid academaidd personol, sy’n rhoi arweiniad ar faterion academaidd a’ch taith drwy’r radd, gan gyfrannu at lesiant myfyrwyr a’ch helpu i ddod o hyd i lwybr proffesiynol o fewn y rhaglen. Mae Amgylchedd Dysgu Rhithiol yn ategu dysgu wyneb yn wyneb trwy gynnig ystod o adnoddau, fforymau trafod ac offer hunanasesu. Mae’r platfform hwn hefyd yn galluogi asesiad ffurfiannol ac yn hwyluso cyfathrebu o fewn y rhaglen.
Mae’r dull dysgu ac addysgu integredig hwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn caffael gwybodaeth sylfaenol a sgiliau uwch, penodol i’r ddisgyblaeth. Drwy gyfuno dealltwriaeth ddamcaniaethol â chymhwysiad ymarferol, mae’r cwrs yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dysgu gydol oes gynaliadwy ac yn eu cyfarparu â’r cymwyseddau i lywio a chyfrannu at eu meysydd dewisol.
Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:
Sgiliau:
Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.
Cyd-Destun:
Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.
Syniadau:
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.
Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.
Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.
Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.
Yn ystod y cwrs caiff pwyslais ei roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad go iawn mewn diwydiant ac â’r problemau presennol ym myd dylunio Ffasiwn. Cryfder y cwrs hwn yw y bydd eich astudiaethau, yn ogystal ag yn rhoi mewnwelediad i chi i swyn a chyffro’r diwydiant, yn cynnwys datblygu sgiliau byd go iawn a bydd yn gofyn cwestiynau heriol sy’n gysylltiedig ag ymarfer moesegol ac ecolegol mewn cyd-destun rhyngwladol.
Mae myfyrwyr a graddedigion Dylunio Ffasiwn Met Caerdydd wedi manteisio ar gyfleoedd gydag ystod eang o frandiau adnabyddus gan gynnwys Burberry, Givenchy Paris, Renli Su, Julien McDonald, Tu yn Sainsbury's, Seasalt, a George yn Asda.
Yn ogystal â rôl y dylunydd, dyma’r arbenigeddau cysylltiedig a allai fod o ddiddordeb i chi yn ddewis gyrfa a fydd yn deillio o’ch astudiaethau: Technoleg Gwisgoedd, Dylunio Ategolion, Prynu ar gyfer Manwerthu, Darlunio Ffasiwn, Marsiandïaeth, Steilio Ffasiwn, Dylunio Tecstilau, Cysylltiadau Cyhoeddus Ffasiwn, Ysgrifennu/Blogio Ffasiwn.
O ran cyfleoedd astudio ôl-raddedig, rydym yn cynnig cwrs MA Dylunio Ffasiwn. Nod y cwrs yw cynhyrchu ymatebion unigryw i dueddiadau yn y farchnad a galwadau technolegol, gan feithrin dealltwriaeth o ddylunio cyfoes o fewn cyd-destunau byd eang.
Cynigion Nodweddiadol
- Pwyntiau tariff: 96-120
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
- Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
- Gofynion eraill: Adolygiad portffolio llwyddiannus. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein tudalen Cyngor i Ymgeiswyr.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Beth sydd wedi’i gynnwys?
Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau arbenigol ar gyfer ein rhaglenni creadigol, gyda stiwdios pwrpasol, gweithdai pwrpasol, ac offer technegol helaeth. Byddwch yn cael mynediad i’r gweithdai hyn yn dilyn sesiynau sefydlu llwyddiannus, a chewch eich cefnogi gan dîm technegol medrus iawn.
Ni chodir ffi stiwdio arnoch a chewch yr holl ddeunyddiau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddysgu’r prosesau y mae eich cwrs yn gofyn amdanynt.
Mae Met Caerdydd yn Gampws Creadigol Adobe®, ac mae gan fyfyrwyr YGDC fynediad i’r Adobe® Creative Cloud llawn heb unrhyw gost ychwanegol.
Rydym yn ymfalchïo yn arwain y ffordd mewn arferion stiwdio a gweithdy cynaliadwy. Boed hynny’n llythrennedd carbon, ailddefnyddio, lleihau gwastraff a gwyddor deunyddiau, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio deunyddiau’n ymwybodol wrth i chi ddatblygu ffordd eich hun o weithio. Bydd y canlynol hefyd yn rhan ohono:
- Stiwdios pwrpasol ar gyfer gwaith annibynnol neu astudiaeth grŵp
- Teithiau astudio yn y DU sy’n ganolog i’ch profiad dysgu
- Cyfleusterau digidol creadigol wedi’u teilwra i’ch cwrs, fel meddalwedd benodol, cyfleusterau argraffu neu offer delweddu digidol
- Cyfleusterau TG a llyfrgell, sy’n cynnwys ystod eang o lyfrau artistiaid, cyhoeddiadau, cyfnodolion, cylchgronau ac adnoddau digidol i gefnogi eich dysgu a’ch ymchwil
Beth yw cost ychwanegol?
Wrth ddatblygu prosiectau unigol, byddwch yn dewis ac yn darparu eich deunyddiau eich hun, y gellir prynu llawer ohonynt am bris cost ar y campws. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i ddeunyddiau ychwanegol yn dibynnu ar eich uchelgeisiau creadigol a’ch cyllideb, ac yn unol â’n harferion cynaliadwy a diogel.
Mae’n bosib y bydd angen offer penodol i’r cwrs arnoch, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich ymarfer. Anfonir pecyn ymuno atoch cyn i chi ddechrau, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am unrhyw offer a argymhellir gan gynnwys cyngor ar fanylebau gliniaduron. Rydym yn argymell nad ydych yn gwneud pryniannau mawr cyn derbyn y pecyn ymuno neu siarad ag aelod o staff.
Rhai enghreifftiau o gostau ychwanegol:
- Bydd gliniadur neu dabled yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ganiatáu iddynt brynu apiau a meddalwedd
- Teithiau astudio a rhaglenni cyfnewid dewisol yn y DU neu dramor
- Lleoliadau a chostau cysylltiedig fel teithio a llety
- Mynediad dewisol i FabLab Caerdydd sy’n destun taliadau am ddefnyddio offer a deunyddiau
- Costau deunyddiau wrth ddewis defnyddio offer arbenigol yn annibynnol, fel argraffu ffabrig digidol, argraffu 3D a thorri laser
- Costau eraill fel argraffu, copïo a phrynu gwerslyfrau
Am wybodaeth gyfredol am ffioedd dysgu a chymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch ym Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn, Avalon Skelton:
- E-bost: askelton@cardiffmet.ac.uk
-
Cod UCAS
N84C
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.