Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen a’r ffioedd.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.
Gradd:
Blwyddyn Un:
Bydd y flwyddyn gyntaf yn eich cyflwyno i’r cysyniadau allweddol ym maes rheoli busnes a digwyddiadau.
Pob modiwl gorfodol:
- Profiad a Dylunio Digwyddiad (20 credyd)
- Digwyddiadau yn y Gymdeithas (20 credyd)
- Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Digwyddiadau (20 credyd)
- Datblygu Pobl o Fewn Sefydliadau (20 credyd) *
- Marchnata ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd) *
- Refeniw, Costio a Rheolaethau Cyllidebol (20 credyd)
* Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Blwyddyn Dau:
Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar eich sylfaen wybodaeth bresennol ac yn symud ymlaen i feysydd mwy arbenigol o reoli digwyddiadau.
Modiwlau gorfodol:
- Rheoli Digwyddiad Byw (20 credyd)
- Cynllunio Digwyddiad ar Raddfa Fawr (20 credyd)
- Cynllun Ymchwil ar Waith (20 credyd) *
- Modiwlau dewisol gorfodol (dewiswch o leiaf un):
- Ymddygiad Defnyddwyr ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)
- Rheoli Pobl ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd) *
- Cychwyn Busnes ac Entrepreneuriaeth (20 credyd)
Modiwlau dewisol:
- Lleoliad Gwaith Haf (20 credyd)
- Newid Cymdeithasol a Chydraddoldeb (20 credyd)
- Technolegau ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)
* Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Blwyddyn Tri:
Mae’r drydedd flwyddyn yn galluogi myfyrwyr i deilwra eu gradd yn seiliedig ar eu diddordebau a’u dyheadau gyrfa.
Modiwlau gorfodol:
- Cynaliadwyedd a Moeseg mewn Digwyddiadau (20 credyd)
- Arloesi mewn Digwyddiadau Byw (20 credyd)
- Arweinyddiaeth Strategol a Rheoli Newid (20 credyd)
- Traethawd Hir * / Prosiect Menter * / Prosiect Ymgynghori (40 credyd) neu Astudiaeth Annibynnol (20 credyd)
Modiwlau dewisol:
- Cyfathrebu Marchnata yn yr Oes Ddigidol (20 credyd)
- Rheoli Adnoddau Gweithwyr a Gwirfoddoli (20 credyd)
- Arweinyddiaeth a Datblygiad Proffesiynol gyda Mentora (20 credyd)
- Rheolaeth Cyrchfannau a Stadia (20 credyd)
- Twristiaeth Gastronomig (20 credyd)
* Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau ac ymarferion ymarferol ac yn cael ei gefnogi gan ein platfform ar-lein Moodle.
Yn ogystal, cewch gyfle i gymryd rhan yn y canlynol:
- Prosiectau digwyddiadau byw ym mlynyddoedd 1 a 2
- Profiad gwaith
- Teithiau maes
- Prosiectau grŵp
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniadau grŵp
- Ymchwil a darllen dan gyfarwyddyd
- Darlithoedd gan ddarlithwyr gwadd
- Tystysgrifau wedi'u dilysu'n allanol
Ar unrhyw un modiwl 20 credyd, byddwch yn derbyn hyd at 48 awr o amser cyswllt a bydd disgwyl i chi wneud 152 awr o amser hunan-astudio annibynnol. Mae'r darlithwyr nid yn unig yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgu a dysgu ond yn gweithredu fel cymorth, gan ddarparu gwasanaethau Tiwtor Personol trwy gydol eich amser yn y brifysgol, ochr yn ochr â Gwasanaethau Myfyrwyr.
Gan ein bod yn rhoi profiad 'byd go iawn' wrth wraidd ein rhaglen, yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno eich prosiect digwyddiadau eich hun, o fewn amgylchedd rheoledig y brifysgol.
Yn yr ail flwyddyn rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o elusennau i godi arian ac ymwybyddiaeth. Bydd gofyn i chi ymchwilio, datblygu, cyflwyno, cynllunio a gwerthuso eich prosiect digwyddiad byw eich hun mewn lleoliad o'ch dewis (modiwl Rheoli Prosiect Digwyddiadau). Gallai hyn fod yn unrhyw beth o ddigwyddiad cerddoriaeth, i sioe ffasiwn, noson gomedi, neu sioe dalent.
Mae ein holl fyfyrwyr yn cael y cyfle ac yn cael eu hannog i wneud y radd Rheoli Digwyddiadau gydag Interniaeth lle byddwch yn treulio blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o'r cwrs. Mae myfyrwyr diweddar wedi treulio'r amser hwn gyda sefydliadau fel Hewlett Packard, Disney, y Greenwich Country Club a chadwyni gwestai rhyngwladol amrywiol.
Mae ein cysylltiadau â'r diwydiant yn golygu bod cyfleoedd i ennill profiad yn mynd ymhell y tu hwnt i'n modiwlau lleoliad gwaith swyddogol hefyd ac rydym yn annog ein myfyrwyr i ymgymryd â gwaith cyflogedig a gwirfoddol drwy gydol eu hastudiaethau.
Mae asesiadau cwrs yn eang eu cwmpas ac yn gysylltiedig â deilliannau dysgu modiwlau unigol a'r sgiliau diwydiant ac academaidd y bwriedir iddynt eu datblygu. Felly mae asesiadau'n cynnwys prosiectau ymchwil; cynigion, cynlluniau a dogfennau eraill yn gysylltiedig â digwyddiadau; digwyddiadau byw; traethodau; adroddiadau; cyflwyniadau; portffolios; astudiaethau achos; a ffefryn pawb, arholiadau.
Amcan arall ein hasesiadau yw datblygu a hyrwyddo sgiliau trosglwyddadwy a bod o ddefnydd ymarferol wrth weithio yn y diwydiant digwyddiadau. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn tîm, datrys problemau, sgiliau cyflwyno, sgiliau digidol, cyfathrebu a gweithio o dan bwysau.
Bydd myfyrwyr yn derbyn ystod eang o adborth ar eu gwaith trwy asesiad ffurfiannol a chrynodol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Bydd pob myfyriwr yn elwa o gael ei Diwtor Personol unigol ei hun a fydd yn aros gyda chi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr y Rhaglen, Tiwtoriaid Blwyddyn a Gwasanaethau Myfyrwyr i sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eich amser ym Met Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.
Mae ein hanes maith o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus a'r ffaith ein bod wedi'n lleoli yng Nghaerdydd sy'n ddinas digwyddiadau yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa unigryw i gynnig cyfleoedd i’n myfyrwyr ennill profiad ym mhob sector o’r diwydiant. O'r eiliad y byddwch yn cyrraedd bydd ein tîm academaidd a'n gwasanaeth gyrfaoedd yn gwneud eu gorau glas i roi cyfleoedd i chi wella eich cyflogadwyedd a chyflawni eich uchelgeisiau gyrfaol.
Mae gennym arweinydd cyflogadwyedd penodedig o fewn yr Gwasanaeth Gyrfaoedd, sy'n agored i fyfyrwyr presennol a graddedigion diweddar. Gyda'i gilydd, mae'r tîm hwn yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau gyrfaoedd gan gynnwys ffeiriau gyrfaoedd a fforymau a chymorth gan gynnwys sgyrsiau a gweithdai cyflogadwyedd. Mae Ysgol Reoli Caerdydd hefyd yn gartref i'r Ganolfan Entrepreneuriaeth, adran arbennig Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer cefnogi ac annog entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr a graddedigion.
Wrth raddio o'n cwrs Rheoli Digwyddiadau dylai fod gennych gymhwyster rheoli a CV rhagorol a fydd yn golygu y bydd gennych ragolygon gyrfa a chyflogaeth ardderchog ym mhob rhan o'r diwydiant digwyddiadau, gan gynnwys gwyliau, cynadleddau, arddangosfeydd, lletygarwch corfforaethol, chwaraeon, codi arian, nawdd, marchnata drwy brofiad a mwy.
Mae ein graddedigion Rheoli Digwyddiadau wedi cael swyddi mewn gwahanol sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol yn amrywio o leoliadau rhyngwladol a chwmnïau digwyddiadau i gadwyni gwestai, cwmnïau teithio, noddwyr mawr, digwyddiadau chwaraeon, awdurdodau lleol, elusennau a sefydliadau’r sector preifat.
I'r rhai sy'n chwilio am astudiaethau pellach y tu hwnt i radd, rydym yn cynnig rhaglen Meistr mewn Rheoli Prosiect Digwyddiadau hefyd ochr yn ochr â chyrsiau mewn meysydd amrywiol eraill, y gall ein graddedigion Rheoli Digwyddiadau symud ymlaen iddynt.
Dewch i un o'n diwrnodau agored a gallwn ddweud mwy wrthych am y cyfleoedd cyffrous hyn.
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
- Pwyntiau tariff: 112
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DMM
- Lefel T: Pasio (C+) – Teilyngdod.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag Arweinydd y Rhaglen, Karen Davies:
- E-bost: kardavies@cardiffmet.ac.uk