Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ddilysiad ar gyfer mynediad Medi 2027. Rhaid i bob rhaglen newydd yn y Brifysgol gael ei dilysu, a’i ddiben yw sicrhau bod y rhaglen arfaethedig yn cyd-fynd â Chenhadaeth y Brifysgol a bod ei chynnwys yn adlewyrchu lefelau priodol o safonau ac ansawdd academaidd.
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r radd hon wedi’i dylunio ar gyfer sector gwasanaethau TG y DU sy’n tyfu’n gyflym, gan ganolbwyntio ar y sgiliau gweithredol a seilwaith y mae sefydliadau modern yn eu mynnu. Er bod cyfrifiadureg yn pwysleisio theori ac yn canolbwyntio ar ddatblygu, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r arbenigedd i chi adeiladu, rheoli a diogelu’r systemau, y platfformau a’r rhwydweithiau y mae busnesau’n dibynnu arnynt bob dydd.
Byddwch yn dysgu i adeiladu, diogelu a hawtomeiddio’r seilwaith digidol sy’n sail i sefydliadau modern. Mae’r prif feysydd yn cynnwys defnyddio’r cwmwl, DevOps a seiberddiogelwch, gan roi’r sgiliau ymarferol, y mae galw mawr amdanynt sydd eu hangen i reoli ac optimeiddio amgylcheddau TG cymhleth.
Trwy ddysgu ymarferol mewn labordai arbenigol, byddwch yn gweithio gyda chaledwedd menter ac offer cwmwl-gynhenid, gan baratoi ar gyfer rolau fel perchennog gwasanaeth, arweinydd seilwaith neu arbenigwr cwmwl. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant drwy ddarlithoedd gan siaradwyr gwadd, digwyddiadau rhwydweithio a phrosiectau sy’n seiliedig ar y diwydiant, gan eich helpu i adeiladu rhwydweithiau proffesiynol gwerthfawr a chael cipolwg ar y tueddiadau diweddaraf sy’n llywio’r sector TG.
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen a’r ffioedd.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.
Blwyddyn 1
Byddwch yn adeiladu sylfaen dechnegol gref mewn pensaernïaeth gyfrifiadurol, systemau gweithredu, a rhwydweithio. Un o’r prif ffocysau yw’r cyflwyniad i awtomeiddio drwy sgriptio, gan eich dysgu i reoli seilwaith yn effeithlon o’r dechrau.
Mae pob modiwl yn werth 20 credyd, oni nodir yn wahanol.
Modiwlau
- Seilwaith TG a Chaledwedd
- Sgriptio ac Awtomeiddio ar gyfer TG
- Pensaernïaethau a Systemau Gweithredu
- Meddwl Cyfrifiannol
- Archwilio
- Dylunio Gwe a Chronfeydd Data
Blwyddyn 2
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar weithrediadau cymhwysol, gan gynnwys sylfeini’r cwmwl, rhithioli, a rhwydweithio ar lefel menter. Byddwch yn datblygu sgiliau ‘Diogelwch Systemau’ i amddiffyn llwyfannau yn erbyn bygythiadau modern.
Mae pob modiwl yn werth 20 credyd, oni nodir yn wahanol.
Modiwlau
- Datblygu Hyblyg a DevOps
- Diogelwch Systemau
- Rhwydweithiau a Chyfathrebu
- Dylunio Systemau Gwrthrych-Gyfeiriadol
- Ehangu
- Prosiect Cydweithredol
Blwyddyn 3
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cyfuno eich gwybodaeth drwy gwblhau prosiect datblygu mawr. Byddwch yn arbenigo mewn defnyddio’r cwmwl a Rheoli Gwasanaethau TG (ITSM) proffesiynol gan ddefnyddio fframweithiau byd-eang fel ITIL.
Mae pob modiwl yn werth 20 credyd, oni nodir yn wahanol.
Modiwlau
- Prosiect Datblygu (40 credyd)
- Gweithredu Cyfrifiadura Cwmwl
- Rheoli Gwasanaethau TG
- Technoleg Broffesiynol, Gynaliadwy a Moesegol
- Seiberddiogelwch a Chriptograffeg
Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.
Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.
Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy’n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.
Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.
Caiff graddedigion eu paratoi ar gyfer rolau y mae galw mawr amdanynt megis Pensaer Cwmwl, Peiriannydd DevOps, Peiriannydd Llwyfannau, neu Arweinydd Seilwaith. Mae’r ffocws ‘Tech-Ops’ yn sicrhau eich bod yn barod ar gyfer y sector gwasanaethau TG byd-eang neu astudiaethau Meistr a PhD pellach yn Met Caerdydd.
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
- Pwyntiau tariff: 104-112
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
- Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Stuart McNeil:
- E-bost: smcneil@cardiffmet.ac.uk
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.
Mae ein myfyrwyr wedi dechrau amrywiaeth o gymdeithasau y gallwch ymuno â nhw. O ddringo creigiau i gemau, Fformiwla 1 a llawer mwy, mae rhywbeth at ddant pawb!
Mae ein rhwydwaith o Hyfforddwyr Myfyrwyr yn dod yn fentoriaid i chi a byddant yn eich cefnogi drwy eich taith yn yr Ysgol Dechnolegau.