Skip to content

Dylunio Cynnyrch - Gradd Meistr MSc/PgD/PgC

Gwnewch Gais Nawr

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae'r cwrs MSc Dylunio Cynnyrch ym Met Caerdydd yn rhaglen meistr a addysgir, sy'n seiliedig ar ymarfer, gyda chysylltiadau cryf â diwydiant a ffocws ar wella cyflogadwyedd graddedigion.

Mae'n cydbwyso sgiliau dylunio ymarferol uwch â thrylwyredd academaidd ac ymchwil gymhwysol, gan adlewyrchu arfer cyfoes trwy ddylunio gan AI estynedig, meddylfryd systemau, a rheoli dylunio strategol.

Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl, profi defnyddwyr, dylunio gwasanaethau, creadigrwydd ac ymchwil ethnograffig, wrth fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, technolegol ac amgylcheddol cymhleth a chydgysylltiedig. Byddwch hefyd yn ymgysylltu â safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol cyfredol, ochr yn ochr ag ymchwil dan arweiniad dylunio a dadansoddi ar lefel systemau.

Drwy Ddylunio Uwch, byddwch yn canolbwyntio ar ymchwil, dadansoddi rhanddeiliaid a systemau, a chynhyrchu cysyniadau arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r Broses Dylunio Estynedig yn cyflwyno AI ac offer digidol, gan archwilio eu heffaith ar greadigrwydd, llifau gwaith ac arfer moesegol. Ym maes Datblygu a Mireinio Cynnyrch, byddwch yn profi ac yn optimeiddio datrysiadau dylunio gan ddefnyddio dulliau o ddadansoddi peirianneg, efelychu, profi defnyddwyr ac asesu cynaliadwyedd.

Mae ymgysylltu â'r diwydiant yn rhan ganolog o’r rhaglen, gyda modiwl lleoliadau gwaith, briffiau byw, a chefnogaeth ariannol ar gyfer prosiectau mawr. Mae'r rhaglen yn cyrraedd  ei anterth gyda Phrosiect Mawr, sy'n eich galluogi i gyflawni canlyniad dylunio annibynnol, sy'n seiliedig ar ymchwil.

Byddwch hefyd yn archwilio effeithiau moesegol, cymdeithasol a chynaliadwyedd yn feirniadol, gan baratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn sectorau dylunio ac arloesi byd-eang.

Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan Sefydliad y Dylunwyr Peirianneg (IED), gan gydnabod ei chydymffurfiaeth â safonau proffesiynol a chefnogi graddedigion i symud ymlaen tuag at gofrestru proffesiynol. Mae myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglen yn gymwys i fod yn aelodau o’r IED, gan ddarparu mynediad at adnoddau proffesiynol, cyfleoedd rhwydweithio, a mewnwelediadau i’r diwydiant i gefnogi eu datblygiad fel gweithwyr proffesiynol dylunio sy’n dod i’r amlwg.

Wedi'i achredu gan

Institute of Engineering Designers Logo

Sefydliad y Dylunwyr Peirianneg

01 - 04

Mae myfyrwyr MSc Dylunio Cynnyrch yn astudio'r modiwlau canlynol:

  • Rheoli Dylunio a Chynllunio Strategol ynghyd â lleoliad gwaith (20 credyd)
  • Y Broses Dylunio Estynedig (20 credyd)
  • Dylunio Uwch (40 credyd)
  • Datblygu a Mireinio Cynnyrch (40 credyd)
  • Prosiect Mawr (60 credyd)

Cymwysteray ymadael:

  • I ennill Tystysgrif Ôl-raddedig, rhaid i chi basio Dylunio Uwch ynghyd ag un modiwl 20 credyd arall (60 credyd)
  • I ennill Diploma Ôl-raddedig, rhaid i chi basio pob modiwl ac eithrio Prosiect Mawr (120 credyd)
  • I ennill MSc Dylunio Cynnyrch, rhaid i chi basio'r holl fodiwlau (180 credyd)

Darlithoedd: Defnyddir darlithoedd i gyflwyno fframweithiau damcaniaethol, strategol, moesegol a thechnegol sy'n sail i arfer dylunio cynnyrch cyfoes. Mae'r sesiynau hyn yn cefnogi dealltwriaeth o ymchwil dan arweiniad dylunio, meddylfryd systemau, a phrosesau AI estynedig, ac fe'u cyflwynir gyda deunydd gweledol ac astudiaethau achos ategol. Lle bo'n briodol, mae darlithoedd yn rhyngweithiol ac yn annog trafodaeth ac ymgysylltiad beirniadol.

Tiwtorialau a Seminarau: Defnyddir tiwtorialau a seminarau i archwilio ymchwil, damcaniaeth ddylunio ac astudiaethau achos, gan gefnogi myfyrwyr i fynd i'r afael â heriau dylunio cymhleth ac aneglur. Mae trafodaethau gyda chyfoedion, beirniadaeth, a dysgu yn seiliedig ar broblemau yn ganolog. Gall ymarferwyr ac ymchwilwyr allanol gyfrannu drwy ddarlithoedd gwadd a dosbarthiadau meistr, a gall ymgysylltiad â'r diwydiant gynnwys briffiau byw a gweithgareddau sy'n seiliedig ar brosiectau.

Gweithdai: Mae gweithdai a sesiynau stiwdio dan oruchwyliaeth yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso prosesau dylunio, datblygu sgiliau ymarferol a thechnegol, ac ymgysylltu â datblygu dylunio iterus. Mae hyn yn cynnwys creu prototeipiau, efelychu, dulliau gwerthuso, a defnyddio offer digidol ac offer wedi'u hymestyn gan AI, gyda chefnogaeth staff academaidd a thechnegol.

E-ddysgu: Darperir e-ddysgu drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol ac mae'n cefnogi dysgu cydamserol ac anghydamserol. Mae hyn yn cynnwys darlithoedd wedi'u recordio ymlaen llaw, deunyddiau dysgu gwrthdro, gweithgareddau dysgu ar-lein, tiwtorialau digidol, a llwyfannau cydweithredol ar gyfer gwaith grŵp.

Oriau Cyswllt: Cefnogir myfyrwyr trwy gefnogaeth academaidd wedi'i hamserlennu, gan gynnwys tiwtorialau, beirniadaethau, goruchwylio ymchwil a sesiynau adborth. Cefnogir cynnydd trwy ryngweithio rheolaidd â staff academaidd ac ymgysylltu mewn gwaith stiwdio a grŵp ar y cyd. Mae cefnogaeth sgiliau academaidd ychwanegol ar gael, gan gynnwys canllawiau ar ddulliau ymchwil, gwaith ysgrifennu, moeseg a dadansoddi data.

Disgwylir i fyfyrwyr gymryd rhan mewn dysgu annibynnol dan arweiniad , gan gynnwys ymchwil, gwaith darllen, paratoi ar gyfer gweithgareddau dysgu, datblygu dyluniadau mewn stiwdios, creu prototeipiau, profi, a pharatoi portffolios, adroddiadau a chyflwyniadau.

Cyfleusterau: Mae myfyrwyr yn elwa o ofod stiwdio pwrpasol yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, ochr yn ochr â mynediad i weithdai, labordai technegol, ac offer arbenigol sy'n cefnogi prototeipio ffisegol a digidol. Mae cyfleusterau'n cefnogi efelychu, offer gwerthuso, a meddalwedd a ddefnyddir mewn ymarfer dylunio cynnyrch cyfoes. Darperir cyflwyniadau i weithdai a chymorth technegol.

Gofynnwn i'n holl fyfyrwyr ystyried yn ofalus y dewis a'r defnydd o ddeunyddiau yn eu gwaith prosiect o ran gwneud modelau a chreu prototeipiau ac ar gyfer dewis deunyddiau gwirioneddol yng nghyfnodau Dylunio ar gyfer Cynhyrchu eu datblygiadau prosiect. Fel Dylunwyr Cynnyrch, mae effaith y deunyddiau hyn ar yr amgylchedd yn ganolog i'n hystyriaethau cynaliadwyedd a moesegol.

Ar gyfer pob modiwl, mae'r asesiadau fel a ganlyn:

Rheoli Dylunio a Chynllunio Strategol ynghyd â lleoliad gwaith (20 credyd)

Aseiniad cyfwerth â 4000 o eiriau sy'n cynnwys cyflwyniad cyfwerth â 2000 o eiriau (canol y modiwl) ac asesiad ysgrifenedig o 2000 o eiriau (diwedd y modiwl), pob un â phwysoliad o 50%.

Y Broses Dylunio Estynedig (20 credyd)

Aseiniad sy'n cyfateb i 4000 o eiriau yn cynnwys asesiad ysgrifenedig o 2800 o eiriau (70%) a chyflwyniad sy'n cyfateb i 1200 o eiriau (30%), y ddau i’w cyflwyno ar ddiwedd y modiwl.

Dylunio Uwch (40 credyd)

Aseiniad sy'n cyfateb i 8000 o eiriau yn cynnwys portffolio sy'n cyfateb i 6000 o eiriau (70%) a chyflwyniad 15 i 20 munud (30%),  i'w cyflwyno ar ddiwedd y modiwl.

Datblygu a Mireinio Cynnyrch (40 credyd)

Aseiniad sy'n cyfateb i 8000 o eiriau yn cynnwys cyflwyniad sy'n cyfateb i 1800 o eiriau (30%) a phortffolio sy'n cyfateb i 4200 o eiriau (70%),  i'w cyflwyno ar ddiwedd y modiwl.

Prosiect Mawr (60 credyd)

Aseiniad sy'n cyfateb i 12000 o eiriau yn cynnwys map ymchwil sy'n cyfateb i 2000 o eiriau (20%) a gyflwynir yng nghanol y modiwl, a phortffolio wedi'i anodi sy'n cyfateb i 8000 o eiriau (60%) gyda chyflwyniad 20 i 30 munud (20%), i’w cyflwyno ar ddiwedd y modiwl.

Eich dyfodol

Mae'r ymgysylltiad hwn yn helpu i sicrhau bod y rhaglen yn cynnal cysylltiadau cryf â diwydiant ac yn parhau i baratoi graddedigion ar gyfer rolau cyfoes a rolau'r dyfodol o fewn dylunio cynnyrch a sectorau cysylltiedig.

Prif nod y cwrs yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd ym myd dylunio a datblygu cynnyrch proffesiynol. Mantais allweddol wrth gyflawni'r nod hwn yw'r modiwl lleoliad diwydiant.

Ar ôl cwblhau'r cwrs, gall graddedigion ddisgwyl dod o hyd i waith mewn ymgynghoriaethau dylunio neu gwmnïau gweithgynhyrchu unrhyw le yn y byd.

Bydd eich astudiaethau’n eich galluogi i ddatblygu cysylltiadau proffesiynol, arsylwi sut mae ymarferwyr llwyddiannus yn ennill eu bywoliaeth, a mireinio eich sgiliau a'ch syniadau er mantais fasnachol a phroffesiynol. Mae cydweithrediadau trawsddisgyblaethol o'r fath yn eich paratoi ar gyfer byd lle byddwch yn gweithio gyda phobl o bob cefndir. Bydd eich prosiectau a'ch asesiadau byw yn eich helpu i arfer â phwysigrwydd terfynau amser a gweithio i friffiau penodol a manylebau tynn.

Disgwylir i bob myfyriwr gwblhau 'cofnod cyflawniad' cludadwy a defnyddio eu Cynllun Datblygu Personol (CDP) i gefnogi cyflogadwyedd a dysgu gydol oes, fel arfer ar ffurf dyddiadur dysgu, sy'n integreiddio cyfleoedd ar gyfer hunanfyfyrio mewn rhaglenni er mwyn eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr effeithiol a hyderus.

Panel Cynghori ar y Diwydiant

Cefnogir y rhaglen MSc Dylunio Cynnyrch gan Banel Cynghori ar y Diwydiant sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol o bob rhan o'r sectorau dylunio cynnyrch, peirianneg ac arloesi gwasanaethau. Mae'r panel yn darparu canllawiau strategol i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn gyfredol, yn berthnasol i'r diwydiant, ac yn cyd-fynd ag arferion proffesiynol sy'n esblygu.

Mae aelodau Panel Cynghori ar y Diwydiant yn cynnwys:

  • Yr Athro Jarred Evans (PDR)
  • Dr James Allum (AMRC Cymru)
  • Poppy Farrugia (Dylunio Cynnyrch Neatt)
  • Amy Richards (DHCW – Trawsnewid Gwasanaethau)

Mae'r panel yn cyfrannu at ddatblygiad ac adolygiad parhaus y rhaglen drwy:

  • Gynghori ar gynnwys y cwricwlwm a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn y diwydiant
  • Cefnogi integreiddio sgiliau, offer a methodolegau sy'n berthnasol i'r diwydiant
  • Rhoi cipolwg ar arfer proffesiynol, cyflogadwyedd, ac anghenion sgiliau
  • Cyfrannu at friffiau byw, darlithoedd gwadd, a gweithgareddau ymgysylltu myfyrwyr lle bo'n briodol

Fel arfer, bydd myfyrwyr wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf neu adran uwch ail ddosbarth (dosbarthiad gradd 1af neu 2.1) mewn pwnc priodol, a/neu brofiad neu statws proffesiynol cyfatebol mewn disgyblaeth Dylunio (yn seiliedig ar Ddysgu Blaenorol Achrededig a aseswyd neu Ddysgu Drwy Brofiad Blaenorol Achrededig a aseswyd), neu ddisgyblaeth sy’n gysylltiedig â’u rhaglen astudio.

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder hyd at o leiaf safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar ein gwefan.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i’r Brifysgol yn uniongyrchol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth.

Bydd gofyn i chi ddarparu: datganiad am eich gwaith a’ch ymarfer cyfredol a’r diddordebau sy’n ei lywio; datganiad cryno yn amlinellu pam yr hoffech ddilyn y cwrs hwn; amlinelliad o’r prosiect proffesiynol neu ymchwil yr hoffech ei ddatblygu ar y cwrs hwn; a phortffolio o’ch gwaith blaenorol (lle bo’n briodol) i gefnogi eich cais. Gellir cyflwyno delweddau o’ch gwaith neu enghreifftiau o waith ysgrifenedig drwy wefan bersonol neu drwy blatfform ar-lein priodol (e.e. Flickr, Tumblr neu WordPress). Dylid cyfeirio at o leiaf bedair enghraifft wahanol o’ch gwaith. Mae pob myfyriwr yn cael ei gyfweld ar gyfer y cwrs hwn. Lle nad yw cyfweliad wyneb yn wyneb yn bosibl, cynhelir y rhain trwy Microsoft Teams.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Beth sydd wedi’i gynnwys?

Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau arbenigol ar gyfer ein rhaglenni creadigol, gyda stiwdios pwrpasol, gweithdai pwrpasol, ac offer technegol helaeth. Byddwch yn cael mynediad i’r gweithdai hyn yn dilyn sesiynau sefydlu llwyddiannus, a chewch eich cefnogi gan dîm technegol medrus iawn.

Ni chodir ffi stiwdio arnoch a chewch yr holl ddeunyddiau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddysgu’r prosesau y mae eich cwrs yn gofyn amdanynt.

Mae Met Caerdydd yn Gampws Creadigol Adobe®, ac mae gan fyfyrwyr YGDC fynediad i’r Adobe® Creative Cloud llawn heb unrhyw gost ychwanegol.

Rydym yn ymfalchïo yn arwain y ffordd mewn arferion stiwdio a gweithdy cynaliadwy. Boed hynny’n llythrennedd carbon, ailddefnyddio, lleihau gwastraff a gwyddor deunyddiau, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio deunyddiau’n ymwybodol wrth i chi ddatblygu ffordd eich hun o weithio. Bydd y canlynol hefyd yn rhan ohono:

  • Stiwdios pwrpasol ar gyfer gwaith annibynnol neu astudiaeth grŵp
  • Teithiau astudio yn y DU sy’n ganolog i’ch profiad dysgu
  • Cyfleusterau digidol creadigol wedi’u teilwra i’ch cwrs, fel meddalwedd benodol, cyfleusterau argraffu neu offer delweddu digidol
  • Cyfleusterau TG a llyfrgell, sy’n cynnwys ystod eang o lyfrau artistiaid, cyhoeddiadau, cyfnodolion, cylchgronau ac adnoddau digidol i gefnogi eich dysgu a’ch ymchwil

Beth yw cost ychwanegol?

Wrth ddatblygu prosiectau unigol, byddwch yn dewis ac yn darparu eich deunyddiau eich hun, y gellir prynu llawer ohonynt am bris cost ar y campws. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i ddeunyddiau ychwanegol yn dibynnu ar eich uchelgeisiau creadigol a’ch cyllideb, ac yn unol â’n harferion cynaliadwy a diogel.

Mae’n bosib y bydd angen offer penodol i’r cwrs arnoch, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich ymarfer. Anfonir pecyn ymuno atoch cyn i chi ddechrau, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am unrhyw offer a argymhellir gan gynnwys cyngor ar fanylebau gliniaduron. Rydym yn argymell nad ydych yn gwneud pryniannau mawr cyn derbyn y pecyn ymuno neu siarad ag aelod o staff.

Rhai enghreifftiau o gostau ychwanegol:

  • Bydd gliniadur neu dabled yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ganiatáu iddynt brynu apiau a meddalwedd
  • Teithiau astudio a rhaglenni cyfnewid dewisol yn y DU neu dramor
  • Lleoliadau a chostau cysylltiedig fel teithio a llety
  • Mynediad dewisol i FabLab Caerdydd sy’n destun taliadau am ddefnyddio offer a deunyddiau
  • Costau deunyddiau wrth ddewis defnyddio offer arbenigol yn annibynnol, fel argraffu ffabrig digidol, argraffu 3D a thorri laser
  • Costau eraill fel argraffu, copïo a phrynu gwerslyfrau

Am wybodaeth gyfredol am ffioedd dysgu a chymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch ym Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau, Gareth Barham:

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

  • Hyd

    1 flwyddyn yn llawn amser.
    2 flynedd yn rhan-amser.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Two students sit alongside each other at a table. They are filing and shaping grey blocks of material. Two students sit alongside each other at a table. They are filing and shaping grey blocks of material.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Gweithdy Modelu Meddal

Mae ein Gweithdy Modelu Meddal yn hwyluso gwneud modelau a chreu prototeipiau trwy ystod o offer llaw, peiriannau ac offer a rheolir gan gyfrifiadur fel argraffu 3D, torri laser a melino CNC.

01 - 04