Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored Israddedig, cofrestrwch nawr

Chwaraeon Met Caerdydd a'r Dreigiau Celtaidd yn dechrau ar ail flwyddyn eu partneriaeth gyffrous

30 Awst 2022

Bydd y bartneriaeth barhaus gyda Dreigiau Celtaidd yn golygu bod y tîm pêl-rwyd o Gaerdydd yn parhau i ddefnyddio cyfleusterau Chwaraeon Met Caerdydd yn ystod cyfnod cyffrous i glwb Super League Pêl-rwyd Vitality, wrth iddynt geisio adeiladu ar sylfeini'r tymor diwethaf.

Bydd y Dreigiau'n elwa o hyfforddiant yn Archers Met Arena gyda mynediad at Ganolfan Ffitrwydd Cyncoed Met Active. Ochr yn ochr â hyn, byddant yn cael cefnogaeth elitaidd gan y tîm Cryfder a Chyflyru a reolir gan Dai Watts.

Dywedodd Vicki Sutton, Prif Weithredwr Dreigiau Celtaidd; "Rydyn ni'n falch iawn o fod yn dechrau ar ail flwyddyn y cytundeb gyda Chwaraeon Met Caerdydd, yn yr un flwyddyn rydyn ni'n symud i chwarae ein gemau i leoliad mwy.

"Rydyn ni yma i wneud ein marc yn Uwchgynghrair Vitality, ac mae pob un ohonom yn Dreigiau Celtaidd awchu i ennill. Gyda mynediad at wasanaethau a chyfleusterau o'r radd flaenaf yn y brifysgol, mae gennym sbardun go iawn ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol."

Mae myfyrwyr Prifysgol Met Caerdydd yn elwa ar y bartneriaeth drwy'r rhaglen Campws Agored sy'n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, gan gynnwys y cyfle i gefnogi gwasanaethau ymchwil, darparu tylino a dadansoddi a chynnig cymorth yn ystod digwyddiadau cyfatebol ar ddiwrnodau gemau.

Dywedodd Laura Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Met Caerdydd, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd; "Rydyn ni'n gyffrous iawn i'r bartneriaeth gyda'r Dreigiau Celtaidd barhau. Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o barhau i ddatblygu Clwb Pêl-rwyd Met Caerdydd a'i sylfeini.

"Mae cael chwaraewyr y Dreigiau sy'n hyfforddi yn ein cyfleusterau yn cynyddu amlygrwydd a phroffil athletwyr benywaidd elitaidd, gan roi cyfle i'n myfyrwyr ac aelodau iau weithio gyda rhai o'r athletwyr benywaidd mwyaf talentog yn y wlad."

Mae ail flwyddyn y cytundeb hefyd yn rhoi cyfle i ennyn diddordeb chwaraewyr y Dreigiau yng ngwaith cymunedol Chwaraeon Met Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion a cholegau i adeiladu ar y weledigaeth i Gaerdydd fod yn ddinas weithredol. Mae gan Dîm Pêl-rwyd Met Caerdydd sawl chwaraewr yn llwybr iau'r Dreigiau Celtaidd, ac mae hyn ar fin tyfu gyda gwaith fel hyn.

Dywedodd Phillipa Yarranton, chwaraewr y Dreigiau Celtaidd a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Met Caerdydd; "Y tymor hwn, mae pawb yn y tîm eisiau gwella ar y llynedd ac rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn i fynd.

Roeddwn i wrth fy modd ym Met Caerdydd a chael mynediad i'r cyfleusterau gwych wrth astudio. Bydd gallu parhau i hyfforddi yma yn helpu'r tîm cyfan er mwyn i ni allu parhau i adeiladu ar y tymhorau diwethaf."

Gallwch wylio Tîm Cyntaf Clwb Pêl-rwyd Met Caerdydd yn chwarae eu gêm gartref gyntaf o'r tymor yn Arena Archers yn erbyn Prifysgol Caerwysg ar ddydd Mercher, 5 Hydref 2022 am 16:30.