Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Met Caerdydd yn anrhydeddu’r addysgwr uchel ei pharch, Barbara Wickham, OBE

18 Tachwedd 2022

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dyfarnu Doethuriaeth er Anrhydedd i Barbara Wickham OBE yn ei seremoni raddio ôl-raddedig flynyddol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Daw hyn ar ôl i Met Caerdydd roi teitlau er Anrhydedd i sawl unigolyn proffil uchel yn ei seremonïau graddio yn ystod yr haf. Cafodd Jason Mohammad, yr Athro Charlotte Williams OBE, Barbara Wilding CBE, QPM a John Burn-Murdoch eu hanrhydeddu am eu cyraeddiadau arwyddocaol.

Addysgwr yw Barbara Wickham a fu, yn fwyaf diweddar, yn arwain gweithrediadau India'r British Council, sefydliad rhyngwladol y DU ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Bu'n rym cadarnhaol yn ei weithrediadau byd-eang ers 30 mlynedd a mwy.

Gydag ymroddiad gydol oes i addysg a Saesneg, dechreuodd Barbara ei gyrfa fel athrawes Saesneg yn Cairo. Mae hi wedi arwain ar sawl prosiect i wella ansawdd addysgu a dysgu ac mae'n aros yn ymroddedig i ddatblygu cysylltiadau addysgol a diwylliannol rhwng y DU a'r gwledydd y mae hi wedi gweithio ynddynt.

Roedd Barbara'n ganolog yn y gwaith o ysgogi mentrau arwyddocaol gan gynnwys cydnabyddiaeth gilyddol o gymwysterau academaidd mewn addysg uwch rhwng India a'r DU. Fe wnaeth ei hawydd i gefnogi merched mewn addysg uwch arwain at lansio fframwaith cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn sefydliadau STEM a Chynllun Ysgoloriaeth i Ferched ar draws India.

Sefydlodd Barbara, sy'n amgylcheddwr brwd, weithrediad carbon niwtral yn ystod ei daliadaeth pedair blynedd ym Mangladesh, trwy gynllun adfer mangrof.

Fel Arweinydd Strategol y British Council ar gyfer Diogelu ledled De Asia, helpodd Barbara i sicrhau fod pob plentyn y mae'r Council yn gweithio â nhw'n ddiogel rhag niwed.

Astudiodd hanes ac ieithyddiaeth gymhwysol, mae hi'n siarad Sbaeneg a Mandarin.

Penodwyd Barbara'n OBE yn 2017 am Wasanaethau i Gysylltiadau Diwylliannol. 

Wrth sôn am gyflwyno'r Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, dywedodd Barbara: "Alla i ddim dweud wrthych chi pa mor syn a balch yr oeddwn i o dderbyn y llythyr gan yr Is-Ganghellor yr Athro Cara Aitchison, yn fy enwebu ar gyfer yr anrhydedd hon.

"Rwy'n diolch yn fawr iawn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd; rwy'n edrych ymlaen yn fawr at berthynas hir a ffrwythlon."