Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored Israddedig, cofrestrwch nawr

Myfyrwyr Met Caerdydd yn dathlu yn Seremoni Raddio mis Ebrill

10 Ebrill 2024

Yr wythnos hon, bydd cannoedd o fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn graddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Bydd dros 370 o fyfyrwyr yn mynychu’r seremoni raddio ar ddydd Mercher 10 Ebrill.

Dywedodd Llywydd ac Is-ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Rachael Langford: “Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr sy’n graddio heddiw – mae graddio yn nodi canlyniad blynyddoedd o waith caled a phenderfyniad, a dylai pob myfyriwr sy’n cerdded ar hyd y llwyfan heddiw deimlo’n falch iawn o’u cyflawniadau. Dymunwn y gorau i chi wrth i chi nawr gychwyn ar y bennod nesaf yn eich bywydau.”

Bydd Seremoni Raddio mis Ebrill Met Caerdydd yn gweld myfyrwyr Ôl-raddedig a Meistr yn graddio o bedair Ysgol y Brifysgol gan gynnwys yr Ysgol Reoli, yr Ysgol Dechnolegau, yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd a’r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Wythnos Raddio ar gael ar wefan Met Caerdydd.